Agenda

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Marc Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  07385 401845

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 164 KB

Cadarnhau cofnodion o'r cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 19 Tachwedd 2021.

ADRODDIAD Y SWYDDOG MONITRO

3.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - COFLYFRAU'R COD YMDDYGIAD pdf icon PDF 288 KB

Trafod Coflyfrau'r Cod Ymddygiad ar gyfer mis Ionawr – Mawrth 2021 (Rhifyn 25).

Dogfennau ychwanegol:

4.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU CRYNODEB O'R CWYNION - 01.11.2021 - 28.02.2022 pdf icon PDF 405 KB

Derbyncrynodeb o'r cwynion yn erbyn Aelodau o 1 Tachwedd 2021 – 28 Chwefror 2022.

5.

PANEL DYFARNU CYMRU - PENDERFYNIADAU TRIBIWNLYS DIWEDDAR pdf icon PDF 297 KB

Rhoicyfle i'r Aelodau drafod penderfyniadau diweddar Panel Dyfarnu

Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADBORTH O GYNHADLEDD SAFONAU CYMRU GYFAN 2022 pdf icon PDF 237 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor roi adborth a thrafod y Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan ddiweddar a gafodd ei chynnal ar-lein ar 9 Chwefror 2022, gan gyfeirio'n benodol at adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o'r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru. 

Dogfennau ychwanegol:

7.

FFORWM CENEDLAETHOL AR GYFER CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU SAFONAU pdf icon PDF 215 KB

Ceisio barn Aelodau ar y cynnig yma.

 

8.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - CANLLAWIAU STATUDOL AR SAFONAU YMDDYGIAD pdf icon PDF 423 KB

Rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y newidiadau i'r fframwaith moesegol statudol sy'n cael eu cyflwyno gan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a cheisio cytundeb ynghylch y camau gweithredu sydd i'w cymryd fel ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

9.

Busnes Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.