Agenda

Lleoliad: Council Chamber, The Pavilions, Cambrian Park, Clydach Park, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Senior Democratic Services Officer  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant a gafodd ei gynnal ar15 Tachwedd, 2018.

 

Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol

3.

Camweinyddu a Chwynion pdf icon PDF 392 KB

Trafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol yn ymwneud â chwynion am gamweinyddu a gafodd eu gwneud i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 2017/18.

Adroddiadau Cyfarwyddwr - y Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned

4.

Trawsnewid Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol pdf icon PDF 123 KB

Rhoi diweddariad i'r Pwyllgor Craffu ar y cynigion a gafodd eu cymeradwyo gan y Cabinet ar gyfer trawsnewid Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol a darparu gwybodaeth am y cynlluniau ar gyfer gweithredu'r newidiadau.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017/2018

Derbyn diweddariad ar lafar gan Bennaeth y Gwasanaethau Cymuned mewn perthynas ag Asesiad drafft Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017/18 Rhondda Cynon Taf (gyda golwg ar gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol terfynol i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2019).

 

6.

Ailgylchu mewn Ardaloedd Cymunedol

Derbyn diweddariad ar lafar mewn perthynas â chynnydd y Gweithgor Craffu - 'Ailgylchu mewn Ardaloedd Cymunedol' hyd yma gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu -  Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant.

 

7.

Materion brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.