Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

11.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu aelodau'r pwyllgor a chynghorwyd eraill i gyfarfod hybrid cyntaf y Pwyllgor hwn, sy'n rhoi fwy o hyblygrwydd iddynt wrth ddod i'r cyfarfod – gallan nhw naill ai ddod i Siambr y Cyngor neu ymuno â'r cyfarfod trwy Zoom.

 

O ran yr eitemau ar yr agenda, rhoddodd y Cadeirydd wybod bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau.

12.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol W. Lewis a J. James, a Mr J Fish, Cynrychiolydd Rhiant Lywodraethwr wedi'i ethol â phleidlais.

 

13.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag Eitem 2 ar yr Agenda – Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2023 – Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

“Rwy’n gweithio i'r Aelod Seneddol dros Gwm Rhondda”

 

D.S. Gwnaethpwyd datganiad o fuddiant, a oedd yn fuddiant personol a rhagfarnllyd, yn ddiweddarach yn y cyfarfod, gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto (gweler Cofnod 15).

 

14.

Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2023 - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru pdf icon PDF 367 KB

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i drafod cynigion cychwynnol y Comisiwn Ffiniau i Gymru a rhoi adborth i gyfarfod y Cyngor ar 20 Hydref 2021.

 

Nodwch: Mae holl Aelodau'r Cyngor wedi'u gwahodd i gyfrannu at yr eitem yma.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ac amlinellodd bwrpas y cyfarfod, i gynnig bod y Cyngor yn mabwysiadu ymateb ffurfiol yr awdurdod lleol yn dilyn ymgynghoriad y Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar y trefniadau newydd arfaethedig o etholaethau seneddol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor fod y dull

arfaethedig hyn yn cynrychioli cam cyntaf y broses, gyda dau ymgynghoriad ychwanegol ar wahân i ddod cyn i'r cynigion terfynol gael eu cyflwyno, a'r disgwyl y bydd y newidiadau terfynol yn dod i rym ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf. Rhoddodd y Cyfarwyddwr rhywfaint o wybodaeth allweddol gan gynnwys nifer yr etholaethau yng Nghymru, a fydd yn gostwng o 40 i 32, a'r ffaith bod rheolau newydd San Steffan yn mynnu bod pob etholaeth sy'n cael ei llunio gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o bleidleiswyr cofrestredig. Cafodd yr aelodau eu hannog i fynegi eu barn gyffredinol yn ystod y cam cyntaf hwn er mwyn i'r Comisiwn ei hystyried.

 

Cydnabu'r aelodau fod y dasg y mae'r Comisiwn Ffiniau wedi ymgymryd â hi yn un gymhleth, ac roedden nhw'n deall na fyddai llawer o gyfle i newid y cynigion cychwynnol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Â hynny mewn golwg, ac yn dilyn arweiniad blaenorol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, cyfyngodd yr aelodau eu sylwadau i'r egwyddorion ehangach y byddai'r Comisiwn Ffiniau yn eu hystyried.

 

Nododd yr aelodau bryderon y gallai'r cynigion newydd beri dryswch i drigolion y Fwrdeistref Sirol wrth iddynt wahaniaethu rhwng cynrychiolaeth leol ar lefel y Senedd ym Mae Caerdydd a'r Cyngor. Mynegodd yr aelodau bryder hefyd fod etholaethau cyfagos fel Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yn ymddangos eu bod yn cael eu cadw yn y cynigion newydd, ond gyda wardiau unigol o Rondda Cynon Taf wedi'u hychwanegu atynt.

 

Cyflwynodd yr aelodau bwyntiau mewn perthynas â wardiau etholaethol Pont-y-clun, Ffynnon Taf a Nantgarw, a mynegon nhw bryderon am etholaethau newydd Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, gan eu bod yn teimlo bod cysylltiadau lleol cyfyngedig rhyngddynt. Nododd yr aelodau'n gyffredinol y byddai modd i'r cyhoedd deimlo bod pedair etholaeth Rhondda Cynon Taf wedi'u torri'n ddarnau gan fod hyn yn 'opsiwn haws' na chynnig ailgynllunio ffiniau Seneddol y brifddinas.

 

Nododd yr aelodau bryderon tebyg am gymunedau Llanharan a Brynna yn cael eu cynnwys yn etholaeth Cwm Rhondda yn y dyfodol. Roedden nhw'n teimlo bod y cymunedau hyn ar wahân yn diwylliannol ac yn hanesyddol, a gofynnon nhw a fyddai cyfle i'r cymunedau hyn ddod yn rhan o etholaeth newydd Pen-y-bont ar Ogwr neu Fro Morgannwg, neu'n rhan o etholaeth newydd Pontypridd. Roedd yr Aelodau'r awyddus i ddal ati i ddefnyddio enw'r Rhondda o fewn unrhyw drefniadau etholaethol yn y dyfodol o ganlyniad i'w arwyddocâd hanesyddol yn hanes Cymru fodern ac o fewn y Fwrdeistref Sirol ehangach.  

 

Holodd yr aelodau pam y bydd Evanstown, yn rhan o etholaeth newydd Cwm Rhondda er ei fod wedi'i leoli yn etholaeth Ogwr ac yn cysylltu â'r Gilfach Goch.

 

Roedd yr aelodau'n unfryd yn eu barn  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Adolygiad o Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2021-22 pdf icon PDF 260 KB

Cynnal adolygiad o raglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ôl trafod blaen-raglen waith y Cabinet ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu eiadroddiad a roddodd i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

gyfle i adolygu ei raglen waith a'i diweddaru yn ôl yr angen ar gyfer Blwyddyn 2021/22 y Cyngor yn dilyn trafod blaengynllun y Cabinet.

 

Lle y bo'n briodol, cafodd yr aelodau wybod am adroddiadau'r Pwyllgorau Craffu eraill megis Diweddariad Band B Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif, a fyddai'n cael ei drafod gan y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y newidiadau canlynol i ddyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'r aelodau eu cymeradwyo yn amodol ar unrhyw sylwadau:

 

Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn – 1 Rhagfyr 2021 gyda chyflwyniad ychwanegol gan Heddlu De Cymru mewn perthynas â gwrth-lygredigaeth

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – 9 Rhagfyr 2021 i dderbyn y  Adroddiadau Llifogydd Statudol Adran 19 yn amodol ar eu cyhoeddi

Gweithgor Trosolwg a Chraffu (wedi'i aildrefnu) – 16 Tachwedd 2021

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam nad oedd y Cabinet wedi ystyried penderfyniad dirprwyedig fel eitem busnes, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Pwll Nofio y Ddraenen Wen wedi bod yn broses o drosglwyddo perchnogaeth yn ôl i'r cyngor ar ddiwedd cytundeb Trosglwyddo Asedau Cymunedol 5 mlynedd.

(Noder: Ar y pwynt hwn, datganodd Cynghorydd  y Fwrdeistref Sirol J Bonetto fuddiant sy'n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod gan nodi “Rwy'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac wedi cymryd rhan mewn trafodaethau cynharach mewn perthynas â'r mater”

Yn dilyn adolygiad o'r rhaglen waith Trosolwg a Chraffu, PENDERFYNWYD cytuno ar y Rhaglen Waith Trosolwg a Chraffu am weddill Blwyddyn 2021/22 y Cyngor yn amodol ar gynnwys y dyddiadau diwygiedig yn unol â chyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

16.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Crynhodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu bwyntiau allweddol y cyfarfod i gynnwys y dyddiadau diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y cytunwyd arnynt gan yr Aelodau a chadarnhaodd y byddai'r sylwadau a'r adborth o gynigion cychwynnol y Comisiwn Ffiniau i Gymru cael eu hadrodd i gyfarfod y Cyngor ar 20 Hydref 2021.

 

I gloi, diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion a'r aelodau am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.

 

 

17.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.