Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu - Cyfarfod Rhithwir

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Nodyn: Special Overview & Scrutiny Committee 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

17.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, J Brencher, J James, W Jones, D Owen-Jones ac E Stephens.

 

18.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud mewn perthynas ag Eitem 2 ar yr Agenda - Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM)

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman - “Rydw i'n Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu; byddaf yn cadw meddwl agored wrth ddweud yr hyn sydd gen i i'w ddweud heddiw, a byddaf i'n gwneud yr un peth pan fydd y mater yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Byddaf yn ymdrin â'r cais cynllunio ar sail y materion cynllunio sy'n cael eu cyflwyno ar y dydd, dydw i ddim wedi gwneud penderfyniad yngl?n â'r cais”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees - “Fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple - “Fi yw Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes - “Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis - “Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu”

 

19.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a chafodd cyflwyniadau eu gwneud.

 

20.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol pdf icon PDF 109 KB

Rhag-graffu ar Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant mewn perthynas â Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM),  Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Roedd cais i ychwanegu'r mater yma at flaenraglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eisoes wedi'i gyflwyno a phenderfynwyd cyflwyno'r eitem pan fo'n addas.

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad, ar hyn o bryd, yn ceisio caniatâd i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru i'w ystyried ym mis Gorffennaf / Awst 2021 ac i symud ymlaen i gam dau o broses y Model Buddsoddi Cydfuddiannol gyda Llywodraeth Cymru a'r partner sector preifat.

Yn dilyn trosolwg o'r adroddiad, gofynnodd nifer o Aelodau am eglurhad ynghylch y gwahaniaeth rhwng y Fenter Cyllid Preifat flaenorol a oedd yn cynnig pecyn gwasanaethau cynhwysol ac yn cynnwys yr holl wasanaethau rheoli cyfleusterau am gyfnod o 25 mlynedd, er enghraifft, gwasanaethau glanhau; cynnal a chadw'r tir; dodrefn; a TGCh ymhlith eraill.  Mae'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol presennol ond yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau am gyfnod o 25 mlynedd.  Yn ogystal â hynny, mae gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol drefniadau mwy cadarn ar waith ar lefel Llywodraeth Cymru, megis Cyfarwyddwr Prosiect penodol ar gyfer MIM, Bwrdd Partneriaeth Strategol gyda chynrychiolaeth o'r holl Awdurdodau Lleol (mae Andrea Richards a Dave Powell yn cynrychioli RhCT), contractau cyffredinol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob Awdurdod Lleol a chyfradd ymyrraeth o 81%.

Roedd yr Aelodau'n awyddus i nodi a fyddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen os yw'r cais yn aflwyddiannus a gofynnwyd a oes gan yr awdurdod lleol drefniadau amgen yn yr achos hwnnw, megis model cyllido mwy traddodiadol.

Nododd yr Aelodau fod y cyllid cyfalaf ar gyfer rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, Band B, wedi'i neilltuo ar gyfer Ysgolion ardal Pontypridd a bod y rhaglen gyfan ar gyfer buddsoddi cyfalaf wedi'i dyrannu. Fe'u cynghorwyd bod Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef yr unig opsiwn sydd ar gael i'r Awdurdod Lleol, yn cynnig manteision, yn fforddiadwy ac yn galluogi'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o Ysgolion yr 21ain Ganrif gan ei fod yn ffynhonnell cyllid ychwanegol. Cafodd yr Aelodau gwybod bod RhCT yn un o ddau Awdurdod Lleol a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda Phrosiect Braenaru Ysgolion - Model Buddsoddi Cydfuddiannol.  Oherwydd bod y prosiect yma'n Brosiect Braenaru a chynllun peilot Carbon Sero-Net, bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu 100% o'r gwaith arolygu ychwanegol a’r gwaith Carbon Sero-Net technegol.

Cododd yr Aelodau yr ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ei hun:

  • Sut mae'r costau dangosol yn cymharu ag ysgolion eraill sy'n cael eu hariannu'n draddodiadol?
  • Trosglwyddo risg i'r sector preifat - os bydd y cwmnïau'n cael eu diddymu, pwy sy'n talu'r costau ariannol a sut fyddai'r contract yn cael ei gynnal?

 

Cafodd yr Aelodau gwybod y byddai'r Cwmni Cerbydau Pwrpas Arbennig (SPV), hynny yw’r cwmni a gafodd ei bennu i gyflawni'r prosiect yma ac sydd â chontract gyda'r Awdurdod Lleol, yn talu unrhyw gostau ychwanegol - pe byddai'r contractwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Ymatebion i'r ymgynghoriad - Trefniadau diogelwch newydd ar gyfer tomenni glo yng Nghymru pdf icon PDF 174 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a

Chyfathrebu ei adroddiad. Rhoddodd yr adroddiad gyfle i aelodau'r Pwyllgor

Trosolwg a Chraffu drafod ei ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar

Reoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru a'i fabwysiadu'n ffurfiol, a

hynny yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr Comisiwn y Gyfraith (Cymru a

Lloegr) yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf 2021.

 

Cafodd yr Aelodau gwybod y byddai unrhyw sylwadau pellach mewn perthynas â'r ymgynghoriad yn cael eu hychwanegu at yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd wedi'u hatodi a'u cyflwyno cyn y dyddiad cau ar 10 Medi 2021.

 

Er bod yr ymatebion drafft yn cynnwys y rhan fwyaf o’u sylwadau a'u hadborth, roedd yr Aelodau’n dymuno bod y pwyntiau canlynol yn cael eu cynnwys cyn cyflwyno'r fersiwn derfynol i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith:

 

Ø  Ai bwriad Llywodraeth Cymru yw diddymu Deddf Mwynfeydd a Chwareli (Tipiau) 1969 neu barhau â Deddfwriaeth Cymru a Lloegr, ar sail ofnau y bydd y ddau yn gwrthdaro ar ryw adeg yn y dyfodol?;

 

Ø  Cwestiwn 31 yr ymgynghoriad - Yn gyffredinol, roedd yr Aelodau o'r farn y dylid gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol yn yr achosion hyn sy'n nodi mai staff arbenigol, cymwys a phanel o beirianwyr fydd yn gyfrifol ac yn gweithredu o dan yr amgylchiadau hyn. Dywedodd yr Aelodau hefyd y dylai'r awdurdod priodol fod yn gyfrifol am wneud y penderfyniadau, gweithredu (yn gyflym lle bo angen) ac ymateb i argyfyngau tomenni glo;

 

Ø  Cwestiwn 32 yr ymgynghoriad - Gofynnodd yr Aelodau eto am gyngor ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn diddymu Rheoliad 40 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 o blaid dewis arall yng Nghymru;

 

Ø  Cwestiwn 34 yr ymgynghoriad - Roedd yr Aelodau'n gobeithio y byddai'r Ecolegwyr yn parhau i gydnabod bod llawer o domenni glo bellach yn datblygu i fod yn gynefinoedd ecolegol unigryw yn eu rhinwedd eu hun;

 

Ø  Cwestiwn 13 yr ymgynghoriad - Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr ymateb yma gan eu bod yn teimlo y dylai gwybodaeth am y Gofrestr Tomenni fod ar gael i'r cyhoedd ond roeddent yn ymwybodol na ddylai gwybodaeth benodol a gynhwysir yn y gofrestr, megis gwybodaeth bersonol, cyfrifiadau a chostau, fod yn hygyrch i'r cyhoedd. O ran adroddiadau archwilio tomenni, awgrymodd y Pwyllgor y gallai'r rhain gael eu rhyddhau os oes dull unffurf safonol a system dosbarthu mewn perthynas â'r adroddiadau tomenni ar waith a bod peirianwyr cymwys, profiadol yn ymgymryd â nhw. Fodd bynnag, roedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn cydnabod y gallai fod angen eglurhad pellach gan Wasanaethau Cyfreithiol y Cyngor cyn darparu ymateb a dywedodd y byddai'n cadarnhau hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

 

Yn dilyn trafodaeth bellach mewn perthynas â'r materion a godwyd a'r ymatebion, PENDERFYNWYD:

 

·       Ychwanegu'r sylwadau uchod at yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyn eu cyflwyno; a

 

·       Bod llythyr yn cael ei anfon at y Gweinidogion perthnasol ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gofyn am eglurhad clir a diamwys ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn diddymu Deddf Mwynfeydd a Chwareli (Tomenni) 1969 neu  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Cyd-bwyllgorau Corfforedig - ymgynghoriad ar reoliadau cyffredinol drafft pdf icon PDF 191 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a

Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn ceisio adborth gan yr Aelodau mewn

perthynas â'rymgynghoriad a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y

gyfres nesaf o reoliadau cyffredinol - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig

(Cyffredinol) (Cymru) 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, er gwaethaf yr oedi o ran rhoi gwybod

am yr ymgynghoriad, ybyddai hwn yn gyfle i'r Pwyllgor ymateb i'r gyfres nesaf o

reoliadau cyffredinol sy'n ymwneud â rolau 'swyddogion gweithredol' penodol i

gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, rhai darpariaethau cyffredinol

mewn perthynas â staff y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a chyflawni

swyddogaethau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig gan bersonau eraill (is-bwyllgorau,

staff ac ati). Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth un newid sylweddol mewn

perthynas â chael gwared ar y Prif Swyddog Llywodraethu fel bod modd i'r 'nifer

fach o swyddogaethau a nodwyd gael eu cyflawni gan Swyddog Monitro’r Cyd

-bwyllgorau Corfforedig'.

 

I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd y camau nesaf yn cynnwys

ymgynghoriad pellach mewn perthynas â'r canllawiau statudol (drafft) ar gyfer

Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Bydd yr ymgynghoriad yma'n para 12

wythnos ac yn cau ddydd Llun 4 Hydref 2021. Cynigiodd y dylai'r Pwyllgor

Trosolwg a Chraffu drafod yr ymgynghoriad hwn yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2021.

 

Nododd yr Aelodau’r newid sylweddol fel yr amlinellwyd gan y Cyfarwyddwr

Gwasanaeth a chodwyd ymholiad yngl?n â phenodi'r Prif Swyddog Monitro

a'r Prif Weithredwr gan ofyn a fyddai ganddynt ddyletswyddau ychwanegol a

hefyd yn gwasanaethu'r awdurdodau lleol priodol, gan wisgo 'dwy het statudol'

wrth gyflawni'r rolau hyn. Codwyd pryder ynghylch cyflogi staff sydd ddim yn

meddu ar unrhyw wybodaeth leol o'r ardal ddaearyddol dan sylw staff i

wasanaeth y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

 

Dywedodd yr Aelodau y byddai'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn sefydliad

pwerus ac y byddai rhai gwasanaethau statudol yn cael eu trosglwyddo iddyn

nhw, gan roi Arweinwyr yr awdurdodau lleol wrth wraidd y broses benderfynu.

 

Cododd y Cadeirydd bryder ynghylch y cynnig i ddiddymu swydd y Prif Swyddog

Llywodraethu, gan ystyried yr wybodaeth brin sydd ar gael a'r diffyg gwaith

craffu ac atebolrwydd sy'n gysylltiedig â'r cynigion. Croesawodd yr awgrym i

dderbyn gwybodaeth bellach ynghylch y trefniadau craffu maes o law.

 

Rhannodd Aelod arall ei amheuon mewn perthynas â'r model yn enwedig o ran mynediad at wybodaeth sy'n nodi y bydd gan aelodau o'r Prif Awdurdodau fynediad at ddogfennau, ac eithrio'r rhai sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig. Awgrymodd yr Aelod fod yr adroddiadau eithriedig yn cynnwys y broses bwysicaf o ran gwybodaeth a gwneud penderfyniadau. Codwyd pryder hefyd yngl?n â phennu’r gyllideb. Bydd modd i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wneud hyn cyn i'r Prif Awdurdod gytuno arni. Nodwyd y byddai hyn yn rhwystro craffu ar gyllid a mynediad at wybodaeth.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod yr angen am gyfrinachedd mewn rhai achosion megis yn achos Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) sy'n yn ymwneud â gwybodaeth fasnachol sensitif ac awgrymodd y gallai hyn fod yn wall sydd wedi codi wrth ddrafftio’r gwaith.

 

Trafododd y Pwyllgor bryderon ynghylch pennu'r gyllideb a phryderon y gallai'r cynigion gael effaith niweidiol ar  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Manteisiodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y cyfle i grynhoi'r pwyntiau allweddol o'r cyfarfod. Roedd hyn yn cynnwys gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (bydd y sylwadau yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar 24 Gorffennaf), llunio ymateb ffurfiol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 a llunio ymateb y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar Reoleiddio diogelwch tomenni glo yng Nghymru.

 

I gloi, dymunodd y Cadeirydd ddiolch i Swyddogion ac Aelodau am eu presenoldeb a'u sylwadau.