Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

9.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Brencher, J James ac A Cox. Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan Mr J Fish - Cynrychiolydd Rhieni/Llywodraethwyr â Phleidlais 

 

10.

Cyfleuster Ymchwil Craffu

Cofnodion:

Dywedodd y cadeirydd wrth yr Aelodau am y cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig. Dylid anfon unrhyw geisiadau i'r cyfeiriad e-bost craffu.

 

11.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 174 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

 

13.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Penderfynodd yr Aelodau gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

14.

RHAGLENNI GWAITH Y CABINET A'R PWYLLGORAU CRAFFU AR GYFER 2021-22 pdf icon PDF 127 KB

Trafod blaenraglenni gwaith y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gyda chytundeb y Cadeirydd, cafodd yr agenda ei thrafod mewn trefn wahanol o ganlyniad i

broblem dechnegol, a hynny er mwyn rhoi mwy o amser i'r rhanddeiliad allanol ymuno â'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad

 a oedd yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo Rhaglen Waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn

y Cyngor 2021/22 a nodi unrhyw bynciau ar Raglen Waith y Cabinet y gall y Pwyllgor yma graffu

arnyn nhw ymlaen llaw. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod sesiynau ymgysylltu Cabinet/Craffu

wedi'u cynnal yn ddiweddar 

 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at y cyfarwyddyd a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Leol

ac Etholiadau (Cymru), sy'n trafod dull gweithredu mwy penodol o ran craffu. Mae hyn wedi bod

yn bwnc trafod yn ystod y sesiynau ymgysylltu diweddar rhwng Aelodau'r Cabinet a Chadeiryddion

y Pwyllgorau Craffu perthnasol. Codwyd ychydig o bwyntiau gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth megis

rhag-graffu ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) cyn i'r Cabinet ei drafod mewn Pwyllgor

Trosolwg a Chraffu Arbennig yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor lunio ei ymateb ffurfiol i ymgynghoriad

Comisiwn y Gyfraith ar Reoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru yn y Pwyllgor Trosolwg

a Chraffu Arbennig ar 16 Gorffennaf, yn dilyn trafodaethau cychwynnol gyda Chomisiwn y Gyfraith

Cymru a Lloegr yn y cyfarfod heddiw. Byddai'r dull hwn yn caniatáu cyfle pellach i ystyried ymateb

 y Pwyllgor a'i roi ar waith yn ffurfiol.

 

Codwyd ymholiad mewn perthynas ag amseriad yr adroddiadau Adran 19 statudol,

a gaiff eu trafod gan y Pwyllgor ym mis Medi 2021. Yn dilyn yr ymchwiliadau parhaus y mae'r

Cyngor yn eu cynnal i'r Llifogydd ym mis Chwefror, ag yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol

(LLFA) o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r adroddiadau

yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor ar ôl eu  cwblhau, ac y bydden nhw'n cael eu trafod mewnsetiau,

gyda'r cyntaf i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar 21 Medi 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai adroddiadau terfynol o ran  'Moderneiddio Gofal

Preswyl a Gofal Oriau Dydd i Bobl H?n' yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn diwedd y flwyddyn galendr.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y byddai'n gofyn, gyda chytundeb y Pwyllgor,

 i'r Cyfarwyddwr AD gyflwyno'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol i'r Pwyllgor ac iddo gael ei

ychwanegu at y Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cytuno ar y Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22 yn

amodol ar y diwygiadau/ychwanegiadau canlynol:

 

Ø  Y byddai'r ymateb ffurfiol i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar Reoleiddio

Ø  Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru yn cael ei lunio yn y Pwyllgor Trosolwg a

Chraffu Arbennig ar 16 Gorffennaf 2021 yn dilyn trafodaethau cychwynnol gyda chynrychiolwyr Comisiwn y Gyfraith;

Ø  Bod yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Waith

ar gyfer y Dyfodol y Pwyllgor, ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

 

15.

Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr - Cynigion i wella diogelwch tomenni glo yng Nghymru pdf icon PDF 190 KB

Croesawu swyddogion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr a fydd yn amlinellu cynigion yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r trefniadau diogelwch newydd ar gyfer tomenni glo yng Nghymru.

 

Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru | Comisiwn y Gyfraith

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad gan ddweud wrth y Pwyllgor fod cynrychiolwyr o Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr yn bresennol yn y cyfarfod i amlinellu'r cynigion o ran ymgynghori ar y drefn ddiogelwch newydd ar gyfer tomenni glo yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y cyflwyniad Power Point 'Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru' o dan y penawdau canlynol:

 

Ø  Y gyfraith gyfredol a phroblemau gyda'r gyfraith gyfredol

Ø  Cynigion Arfaethedig

Ø  Cwestiynau enghreifftiol ar gyfer Rhanddeiliaid

Ø  Ymgynghori

 

Ymatebodd cynrychiolwyr o Gomisiwn y Gyfraith, Mr Nicholas Paines QC a Lisa Smith, Cyfreithiwr, i nifer o gwestiynau:

 

Ø  A fydd y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig, i ddisodli deddfwriaeth 1969, yn Ddeddfwriaeth Sylfaenol sy'n ddeddfwriaeth ledled y DU neu'n ddeddfwriaeth eilaidd, gan ychwanegu at Ddeddf 1969;

Ø  A yw'r brîff yn cynnwys ystyried atebolrwydd o ran tomenni glo neu a fydd hyn yn aros y tu allan i'r brîff?

Ø  A yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn Ddeddfwriaeth Sylfaenol o fewn y DU?

Ø  Beth sy'n digwydd gyda Thirfeddianwyr absennol?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Comisiwn y Gyfraith i gynnal adolygiad annibynnol o ddeddfwriaeth diogelwch tomenni glo, gyda diogelwch yn dod o dan fesurau datganoledig. Mae gan y Senedd y grym i lunio cyfundrefn newydd a'i phasio fel Deddfwriaeth Sylfaenol, byddai'n fater i Lywodraeth y DU pe byddai'n dymuno efelychu cyfundrefn Cymru.

 

Dywedodd Comisiwn y Gyfraith nad oes ganddo awdurdodaeth i argymell i ba raddau y dylai Llywodraeth y DU ryddhau cyllid pellach. Byddai angen i'r Senedd wneud penderfyniad polisi ynghylch a yw cost adfer tomenni yn deillio o arian cyhoeddus neu gan dirfeddianwyr unigol. Mae'r cynllun deddfwriaeth cyfredol yn golygu mai'r tirfeddiannwr sy'n gyfrifol, ond bydd Comisiwn y Gyfraith yn argymell strwythur eang sy'n sicrhau cyllid o arian cyhoeddus pan fydd ar gael, ac yn rhoi cyfle i godi tâl ar dirfeddianwyr am ddarnau unigol o waith neu drwy ffi flynyddol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen drosolwg o'r cyfundrefnau arolygu a gaiff eu dilyn yn RhCT. Ar hyn o bryd mae'r Tasglu Diogelwch Tomenni, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â'r Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Awdurdodau Lleol yn adolygu'r tomenni ledled y wlad. Mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i gynnal asesiadau risg ac archwilio ei domenni, ac mae'r Awdurdod Glo yn cefnogi'r gwaith yma. 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gwaith hyd yma yn dilyn y tirlithriad a ddigwyddodd ar ochr bryn Llanwynno, Tylorstown, yn ogystal â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ynghylch cyllido cam dau a thri (amcangyfrifir mai cost hyn fydd oddeutu £2.5 miliwn). Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhannu ar wefan y Cyngor (a chaiff yr Aelodau lleol eu hysbysu) sy'n cynnwys trosolwg o Gam 4 a gweledigaeth y Cyngor ar gyfer yr ardal yma yn y dyfodol.

 

Cododd rhai Aelodau bryder ynghylch y diffyg gwybodaeth o ran yr angen i roi sylw ar unwaith i unrhyw domenni yn yr awdurdod lleol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod dros £1  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Crynhodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y pwyntiau allweddol a godwyd o'r trafodaethau cynharach o ran y Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol, a gafodd ei chytuno gan yr Aelodau yn amodol ar gynnwys yr Adroddiad Cydraddoldebau. Ychwanegodd hefyd y byddai ymateb ffurfiol yn cael ei lunio ar gyfer y cynigion i wella diogelwch tomenni glo yng Nghymru yng nghyfarfod dilynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 16 Gorffennaf 2021.

 

I gloi, diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu cyfraniadau, a diolchodd i Gomisiwn y Gyfraith am eu presenoldeb.