Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principal Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

40.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens a L Walker

 

41.

Croeso

Cofnodion:

Estynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu groeso i'r Aelodau a oedd yn bresennol, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu a Chyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella

 

42.

Cyfleuster Ymchwil Craffu

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi atgoffa'r Aelodau bod cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig. Dylai'r Aelodau anfon unrhyw geisiadau drwy e-bost.

 

43.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

  1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

44.

Cofnodion pdf icon PDF 176 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

45.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau nodi’r wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

46.

Swyddfa Archwilio Cymru: Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020 pdf icon PDF 434 KB

Trafod 'Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020' Swyddfa Archwilio Cymrua gyflwynwyd i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Yn rhan o'i adroddiad, roedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau  Democrataidd a Chyfathrebu wedi rhoi amlinelliad o 'Grynodeb Archwilio Blynyddol 2020 Archwilio Cymru’ a gafodd ei gyflwyno i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2021 ac i'r Pwyllgor Archwilio ar 26 Ebrill 2021.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i drafod y cynnydd y mae Gwasanaethau'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ran cyflwyno cynigion ar gyfer gwella ac argymhellion Archwilio Cymru yn ogystal â thrafod a oes angen cyfeirio unrhyw faterion i Bwyllgor Archwilio'r Cyngor. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd wedi gofyn i'r Aelodau drafod unrhyw faterion y mae angen i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eu craffu ymhellach a'u cynnwys yn rhan o'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22.

 

Yn yr adran sy'n mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol' '(Gwasanaethau VAWDASV), holodd un Aelod a oedd unrhyw dystiolaeth sy'n dangos bod dynion, sydd hefyd yn dioddef cam-drin yn y cartref, yn cael eu trin yn gyfartal. Gofynnodd y Cadeirydd bod yr ymholiad yma'n cael ei drafod yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn sy'n cael ei gynnal ar 17 Mai gan y bydd y Swyddogion perthnasol a Heddlu De Cymru yn

bresennol.

 

Cafodd ei nodi hefyd y dylai'r adran ar dudalen 24 ddweud:

'Mae'n werth nodi bod yr Adroddiad Archwilio…. '

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cyfetholedig at y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru

ar gyfer 2018-20 a holwyd a fyddai unrhyw ymholiadau'n ymwneud â risgiau posibl o ganlyniad i Covid-19 yn cael eu cyfeirio i'r Pwyllgor Archwilio neu'r Pwyllgor Trosolwg a'r Chraffu?

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella bod adnoddau wedi cael eu dyrannu i fynd i'r afael â pheryglon yn gysylltiedig â Covid-19 yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020-21 megis Grantiau Cymorth Busnes a thaliadau Prydau Ysgol Am Ddim (PYD). Ychwanegodd y bydd yr adroddiadau hyn yn adroddiadau agored ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Archwilio'r Cyngor. Bydd unrhyw gais gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghylch cyflawni gwaith craffu mewn perthynas â'r adroddiadau yn cael ei wneud ble'n addas.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â gwaith datblygu'r gwasanaeth rhanbarthol newydd yn y tymor canolig o ran y Gwasanaethau VAWDASV, a fydd yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch dyblygu gwaith a fyddai'n codi yn sgil y gwahanol ddulliau o fewn yr awdurdod a gyda phartneriaid. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella wybod y byddai'r adborth yn cael ei rannu â'r Pwyllgor gan ddilyn y model gwasanaeth a'r gwaith sy'n cael ei gyflawni o hyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

O ran ymholiad a gafodd ei godi mewn perthynas ag adran 'Cysgu Allan yng

Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb,' rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor

Iechyd a Lles wybod fod ei Bwyllgor ef wedi cyflawni gwaith craffu mewn

perthynas â'r cynnydd y mae'r Gwasanaeth Tai yn ei wneud o ran Strategaeth

Digartrefedd CBSRhCT ar gyfer 2018-2022 a'r Cynllun Gweithredu sy'n cefnogi'r

Strategaeth honno.

 

Mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Adroddiad Blynyddol 2021/22 – Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 443 KB

Derbyn y newyddion diweddaraf am Adroddiad Blynyddol - Trosolwg a Chraffu 2021/22.

 

Cofnodion:

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ati i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2020/21 - Trosolwg a Chraffu, sy'n cynnig trosolwg o holl swyddogaethau craffu'r Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd yn mynd ati i ymgysylltu â Chadeiryddion y pwyllgorau craffu, os yw'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad blynyddol, i gadarnhau cynnwys yr adrannau gwahanol (bydd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Lles, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad a'r Pwyllgor Craffu - Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant yn bresennol ar gyfer y cyfarfod er mwyn cyfrannu).

 

Cyn gofyn am sylwadau ac adborth gan yr Aelodau, awgrymodd y Cadeirydd fod y wybodaeth yn Atodiad 1 yn cael ei nodi ym mhob adran unigol o'r adroddiad blynyddol er mwyn sicrhau cysondeb.

 

Gofynnodd Aelodau eraill (gan gynnwys yr Aelod Cyfetholedig) bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud:

 

  1. Cynnwys yr Achos Galw i Mewn
  2. Cywiro'r gwallau ar dudalen 46
  3. Cyfeirio at y Strategaeth Cyflogaeth a Sgiliau (Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad) er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu cylch gorchwyl 'Economi'
  4. Ychwanegu troednodyn i gydnabod y bydd gweithgor craffu - Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei sefydlu yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

Sylwadau eraill:

 

Ø  Wrth ymateb i ymholiad ynghylch y llifogydd a chategori tomenni - cadarnhawyd y bydd cyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas ag Adroddiad Adran 19 cyn cyflwyno'r adroddiad i'r Cabinet ym mis Mehefin 2021. Mae'r dyddiad yn adlewyrchu'r amser sydd ei angen i gasglu swm mawr o dystiolaeth, gwybodaeth dechnegol, sylwadau gan bartneriaid allweddol, cyfweliadau gan drigolion a gwybodaeth ategol;

Ø  Adroddiad Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu 2020/21 - Bydd yr adroddiad yma'n adroddiad ar wahân sy'n cael ei gyflwyno yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Mehefin/Gorffennaf 2021.

Ø  Roedd Cadeirydd y Pwyllgorau Craffu wedi trafod fformat/themâu'r adroddiad Blynyddol yn ystod ei gyfarfod ym mis Chwefror 2021;

Ø  Fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, mae Gwasanaeth Gofal Preswyl i Bobl H?n y Cyngor, yn cynnig datblygiad cyffrous a chadarnhaol ar gyfer pobl h?n, mae'n adroddiad gwych.

 

Roedd yr Aelodau wedi cydnabod bod fformat syml yr adroddiad craffu blynyddol yn adlewyrchu dylanwad Covid-19, ond yn dyst i'r gwaith y mae'r Pwyllgorau Craffu wedi'i gyflawni yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020/21. Cytunodd yr Aelodau nad oedd modd gorffwys ar ein rhwyfau a bod gwaith da wedi'i gyflawni gan bob un o'r Pwyllgorau Craffu a'u bod nhw wedi derbyn cymorth effeithiol gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu a'r Swyddogion perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

  1. Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/21, fel y'i diwygiwyd, a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2021; a

 

  1. Rhoi caniatâd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ymgynghori â'r Cadeiryddion mewn perthynas â'r pwyllgorau craffu thematig nad oedden nhw'n bresennol, i gadarnhau cynnwys eu Hadroddiadau Blynyddol unigol.

 

48.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am fynychu'r cyfarfod ac am eu cyfraniad gwerthfawr. Roedd y Cadeirydd wedi diolch iddyn nhw am eu gwaith caled ac am gefnogi'i gilydd drwy gydol y Flwyddyn. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau am gyfarfod y Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn a fydd yn cael ei gynnal ar yr 17 Mai 2021 am 5pm.