Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

18.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd yr Aelodau canlynol yn bresennol yn Siambr y Cyngor:

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Caple, G. Hughes a W. Lewis.

 

Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. James AS, M. Griffiths ac E. Stephens.

 

19.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

  1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

20.

Cofnodion pdf icon PDF 565 KB

Cymeradwyo cofnodion o gyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir:

 

Ø  Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021

 

Ø  Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2021, a chyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021, yn rhai cywir.

 

Materion sy'n Codi:

 

21 Medi 2021 – Gofynnodd Aelod am gadarnhad bod yr Adroddiad Ymchwilio Adran 19 sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer ardal Treherbert wedi cael ei rannu â'r Aelodau lleol cyn iddo gael ei gyhoeddi a bod cyfle i'r Aelodau gwrdd â Swyddogion wedi cael ei gynnig. (Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y byddai modd iddo gadarnhau hyn maes o law).

 

 

21.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

 Aeth yr Aelodau ati i gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu atgoffa Aelodau bod modd iddyn nhw godi mater ar unrhyw adeg os ydyn nhw'n dymuno llunio ymateb fel pwyllgor craffu i unrhyw ymgynghoriad.

 

O ran ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sef 'Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif', sy'n dod i ben ar 12 Ionawr 2022, ac yng ngoleuni'r gwaith roedd y Gweithgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc wedi'i gynnal, gan arwain ar y pwnc yma; gofynnwyd cwestiwn o ran a fydd y Cyngor yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a strategaeth, ac yn gwneud sylwadau, er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni disgwyliadau'r argymhellion a'r materion y mae'r gweithgor wedi tynnu sylw atyn nhw.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn ceisio cyfle i gynnwys a thrafod y mater yma yn rhan o'i flaenraglen waith a chadarnhaodd y byddai'r Gwasanaeth yn ymateb.

22.

Adroddiad Diweddaru - Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydanol, a'r Cynllun ar gyfer Rhoi Hynny ar Waith pdf icon PDF 188 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn rhoi diweddariad i'r Aelodau am y gwaith a wnaed wrth ddatblygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydanol (EVC).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a amlinellodd y cyfle i Aelodau drafod a herio'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan. Cafodd y Strategaeth ei chyflwyno, a'i mabwysiadu gan y Cabinet yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021.

 

Cafodd Aelodau eu hatgoffa o waith y Gweithgor Trosolwg a Chraffu i drafod 'datblygu seilwaith i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel yn Rhondda Cynon Taf' a llunio naw argymhelliad. Nodwyd ei waith ymgysylltu diweddar o ran yr ymgynghoriad eang a gyfrannodd at Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd 2021-2025 drafft y Cyngor.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fanylion am yr ymgynghoriad mewnol â rhanddeiliaid a dau ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd eu cynnal trwy wefan ymgysylltu'r Cyngor, 'Dewch i Siarad RhCT', er mwyn bwrw ymlaen â'r Strategaeth a'i lywio. Mae'r strategaeth bellach wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet.

 

Nododd y Cyfarwyddwr ddeg uchelgais y strategaeth a thynnodd sylw at y gydberthynas â'r deg argymhelliad a gafodd eu llunio gan y Gweithgor Craffu a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Pwysleisiodd fod y gwaith craffu blaenorol wedi llywio'r strategaeth gyfredol a rhoddodd wybod am sut y byddai'r strategaeth yn helpu i nodi dull RhCT o ran hyrwyddo ac annog datblygiad rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cadarn ac ymarferol yn y tymor byr, canolig a hir, a hynny wrth ystyried y materion ehangach megis y pontio o gerbydau petrol a diesel i gerbydau trydan yn rhan o nodau trafnidiaeth gynaliadwy ehangach y Cyngor.

 

Yn dilyn cyflwyniad cynhwysfawr y Cyfarwyddwr o'r Strategaeth ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan yn RhCT, rhoddodd wybod am ganllawiau diweddar Llywodraeth Cymru a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn gofyn am enghreifftiau o arfer da gan yr awdurdod lleol yma.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod pob cynllun sydd wrthi'n mynd rhagddo ledled yr Awdurdod Lleol hyd yn hyn wedi'i ariannu gan Fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd megis mannau gwefru ym meysydd parcio cyhoeddus. Serch hynny, mae'n bosibl y bydd angen cyllid ychwanegol i gyflawni ffrydiau gwaith newydd yn y dyfodol.

 

Cafodd Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfle i ofyn cwestiynau:

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad o ran uchelgais rhif wyth. Yn ôl yr Aelod, dyma fyddai'r her fwyaf oherwydd y nifer uchel o dai teras ledled y Fwrdeistref Sirol. Hefyd, gofynnodd a yw'r cyllid gan Fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer tacsis neu'r cyhoedd ehangach?

 

Aeth y Cyfarwyddwr ati i gydnabod y problemau o ran yr uchelgais benodol ond tawelodd feddyliau Aelodau trwy nodi y bydd canllawiau a map ffordd ar gael i drigolion pan fydd cwestiynau am wefru'n agos i eiddo preswyl yn codi. Os na fydd digon o dacsis yn defnyddio'r seilwaith ac offer gwefru, byddan nhw ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio cyn belled â bod modd iddyn nhw dalu am y cyfleuster gwefru.

 

Awgrymodd Aelod arall i'r Cyngor ystyried ei fannau cyhoeddus lle y gallai cyfleusterau gwefru ar gyfer tai teras ddod yn anodd. Gofynnwyd cwestiwn o ran a fydd modd i drigolion a phartneriaid fanteisio ar gyfleusterau gwefru gweithleoedd y Cyngor ac yn  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Adolygiad o Raglen Waith Y Pwyllgor Trosolwg A Chraffu 2021-22 pdf icon PDF 257 KB

Cynnal adolygiad o raglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ôl trafod blaen-raglen waith ddrafft y Cabinet ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a roddodd gyfle i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu adolygu a diweddaru, lle bo angen, ei flaen-raglen waith y cytunwyd arni ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22, ar ôl trafod blaengynllun drafft y Cabinet sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ati i atgoffa Aelodau mai adroddiad terfynol y Cabinet a Phwyllgor Craffu yw rhaglen waith 2021/22, wedi’i datblygu ar gyfer y cyfnod hyd at yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022. Rhoddwyd cyngor i Aelodau i drafod unrhyw bynciau o raglen waith 2021/22 sydd wedi'i hatodi er mwyn cynnal gwaith cyn y cam craffu i ystyried amcanion y Pwyllgor, yn ogystal ag ychwanegu gwerth at waith y Cyngor am weddill Blwyddyn y Cyngor.

 

Nododd Aelod bryder am 'Foderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd ar gyfer Pobl H?n' fel sydd wedi'i nodi yn rhaglen waith craffu ddrafft Blwyddyn y Cyngor 2021/22 a phwysigrwydd derbyn diweddariadau pellach i sicrhau bod gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi'i roi ar waith mewn ffordd effeithlon ac effeithiol wrth ddelio â materion gofal cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Nodwyd nad oedd unrhyw sôn am ddiogelwch tomenni ym mlaen-raglen waith y Cabinet.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y gallai'r Cyfarwyddwr priodol roi diweddariad i'r Pwyllgor mewn perthynas â sefyllfa bresennol y Cyngor ar adeg addas. Nododd y Cadeirydd y byddai modd mynd i'r afael â'r adroddiad diweddaru yn hwyrach yn y flwyddyn o ganlyniad i'r nifer o adroddiadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr 2022.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd yr adroddiadau ymchwilio Adran 19 yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ôl eu cyhoeddi.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn 2021-22 y Cyngor, ac i gael diweddariad pellach bob tri mis.

 

(Nodwch: Cafodd y cynnig a gollwyd i gyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn diwedd Blwyddyn y Cyngor, mewn perthynas â 'Moderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd ar gyfer Pobl H?n', eigynnig gan y Cynghorydd P Jarman a'i eilio gan y Cynghorydd D Owen-Jones. Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Jarman ac W Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi eu bod wedi pleidleisio o blaid y cynnig a gollwyd).

 

 

24.

Argymhellion y Gweithgor Craffu pdf icon PDF 195 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas ag argymhellion y Gweithgor Craffu mewn perthynas ag adroddiad “Datblygu seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol er mwyn ymateb i gynllun Metro De Cymru”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad, a roddodd yr argymhellion a chasgliadau y cytunwyd arnyn nhw gan y Gweithgor Craffu, i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cafodd y gweithgor craffu ei sefydlu i fwrw ymlaen â'r cynnig a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 18 Medi 2019 fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ati i atgoffa Aelodau o'r cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod misoedd olaf 2019 a misoedd cyntaf 2020, gyda'r galwad am dystiolaeth gan bartneriaid fel Trafnidiaeth Cymru i gefnogi proses ystyried Aelodau. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cynnydd wedi'i rhwystro o ganlyniad i'r pandemig, gan arwain at gyfarfod arall o'r Gweithgor yn gynnar yn 2021. Yn ystod y cyfnod yma, cafodd newidiadau sylweddol eu rhoi ar waith mewn perthynas â thirwedd trafnidiaeth, sef cynnydd Metro De Cymru.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai'r argymhellion sydd wedi'u nodi ym mharagraff 6.1 o'r adroddiad, yn amodol ar drafodaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn yn y flwyddyn newydd.

 

Gofynnodd un Aelod am eglurhad o ran y ddau argymhelliad olaf, yn bennaf o ran delio â'r trefniadau moratoriwm wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd cwestiwn mewn perthynas â'r rheilffordd tuag at Lofa'r T?r i Zip World. Awgrymodd yr Aelod y dylai rheilffyrdd ar gyfer cymuned Hirwaun gael eu trafod ymhellach a'i obaith yw y bydden nhw'n rhan o'r penderfyniad terfynol o ran dewis lleoliad yr orsaf trwy broses ymgynghori. Nododd y Cadeirydd fod y mater yma i'w weld yn yr adroddiad ar dudalennau 149-151.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gymeradwyo casgliadau ac argymhellion y Gweithgor fel sydd wedi'u nodi ym mharagraff 6 o'r adroddiad (yn amodol ar ei ddiwygio i nodi bod y Cyng G Caple yn Aelod ward lleol ar gyfer Cymer nid Porth fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad).

 

Wedyn nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod modd iddo gadarnhau bod rhybudd ymlaen llaw wedi'i roi o ran yr adroddiad ymchwilio Adran 19 ar gyfer Treherbert i'r ddau Aelod lleol ar 16 Tachwedd 2021, cyn y dyddiad cyhoeddi.

25.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Aelodau am fod yn bresennol ac am gyfrannu at y cyfarfod. Rhoddodd grynodeb o'r pwyntiau allweddol yn y cyfarfod, gan nodi'n arbennig y Swyddogion hynny a oedd yn rhan o waith llunio'r adroddiad ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan a chroesawodd y cyfle i gynnal gwaith cyn y cam craffu ar y cynllun gweithredu a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu maes o law.