Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes, P Jarman, J James ac W. Jones.

 

2.

Cyfleuster Ymchwil Craffu

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig. Dylid anfon unrhyw geisiadau i'r cyfeiriad e-bost craffu.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, gwnaeth Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher y datganiad o fuddiant personol canlynol mewn perthynas ag Eitem 4 ar yr Agenda, Astudiaeth o Gludiant Coridor Gogledd Orllewin Caerdydd:

 

“Mae fy mab yn un o gyfarwyddwyr Trafnidiaeth Cymru”

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021 yn rhai cywir.

 

5.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Penderfynodd yr Aelodau gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd, fod Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr wedi lansio ymgynghoriad ar drefn ddiogelwch tipiau glo newydd arfaethedig yng Nghymru a fyddai’n disodli deddfau sydd wedi dyddio ac yn gwella sut mae ystod o risgiau o ran tipiau glo yn cael eu rheoli. Y bwriad oedd y byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad cyn ei ddyddiad cau ym mis Medi 2021.

 

6.

Astudiaeth Cludiant Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd pdf icon PDF 216 KB

Derbyn adroddiad yr Astudiaeth Cludiant Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a'r bwriad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu roi sylwadau arno ac adborth i'r Cabinet mewn perthynas ag Astudiaeth o Gludiant Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd. Cadarnhawyd bod adroddiadau union yr un fath yn cael eu trafod gan Cyngor Dinas Caerdydd.

 

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y dylai'r Gweithgor Craffu sy'n trafod datblygu isadeiledd trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol er mwyn ymateb i gynllun Metro De Cymru, o ganlyniad i Rybudd o Gynnig yn y Cyngor Llawn, ailafael yn ei waith a chwrdd eto ar 7 Gorffennaf 2021. Bwriad hyn yw trafod yr ymatebion a gafwyd gan bartneriaid yn ogystal â'r wybodaeth yn yr adroddiad i'r Cabinet, a derbyn diweddariad am isadeiledd trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol.   

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen, ei adroddiad ac esboniodd, oherwydd twf sylweddol a nodwyd ar hyd y coridor sy'n cysylltu Tonysguboriau, Llantrisant a Gogledd-orllewin Caerdydd, o ran datblygiadau preswyl a gweithgaredd economaidd sydd wedi cael ei amlygu gan Gynlluniau Datblygu Lleol priodol Caerdydd. a RhCT, nodwyd coridor Gogledd-orllewin Caerdydd fel un o'r 4 coridor uchaf a dyfarnwyd cyllid iddo yn 2020/21 i symud ymlaen at gam cyntaf y broses WelTAG (Achos Amlinellol Strategol (SOC)). Canlyniad y Cam WelTAG 1 yw rhestr fer o atebion posib ar gyfer y coridor. Mae'n goridor sylweddol sydd heb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus go iawn ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod gwaith sylweddol eisoes yn mynd rhagddo megis gweithio gyda Tradnidiaeth Cymru ar y Metro i ddarparu 12 trên yr awr i Bontypridd, 4 trên yr awr i Gwm Rhondda a Chwm Cynon, a fydd o fudd i'r cymunedau hynny ar hyd y llwybr i Gaerdydd. Gwaith ar orsafoedd newydd yn Ystâd Trefforest, Glan-bad a'r potensial ar gyfer Gogledd Pontypridd. Ymestyn rhwydweithiau rheilffyrdd, Aberdâr tuag at Hirwaun a chomisiynu astudiaeth yn edrych ar estyniad o Dreherbert i Dynewydd. Coridor y Cymoedd Canol o Borthcawl (gyda chyswllt trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar hyd coridor yr A473 tuag at Drefforest ac yna ymlaen o Bontypridd i Abercynon, a chysylltiad rheilffordd newydd posib tuag at Treharris a Nelson, gan ddefnyddio'r llinell fwynau i Ystrad Mynach gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus pellach i'r dwyrain tuag at y Coed Duon, Pont-y-p?l a Brynbuga, o bosibl.

Mae Hwb y Porth yn parhau i gael ei ddatblygu ac ystyriaethau Parcio a Theithio o amgylch Pont-y-clun, Porth, Treorci, Trecynon a Hirwaun hefyd yn cael eu trafod. Mae'r prosiect tocynnau integredig hefyd yn cael ei ystyried.

I gloi, esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno o dan fframwaith WelTAG a nodwyd rhestr fer o opsiynau sy'n haeddu datblygiad ac asesiad pellach yng Ngham 2 WelTAG.

 

Trafododd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a nodi'r

opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus tymor byr a thymor hir sy'n cynnig yr achosion busnes gorau

er mwyn gwella mynediad o RhCT trwy Ogledd-orllewin Caerdydd i gyfeiriad canol y ddinas.

 

Nodon nhw'r ymholiadau canlynol-

Roedd yr aelodau'n awyddus i nodi sut y byddai'r opsiynau yn yr adroddiad yn cysylltu ag adolygiad CDLl  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cyn-graffu - Ymgynghori ar y Strategaeth Newid Hinsawdd (2021-2025) pdf icon PDF 3 MB

Gwaith cyn-graffu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor (2021-2025).

 

 

Cofnodion:

              

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd ei

adroddiad. gan roi cyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyflawni gwaith cyn-

graffu ar yr adroddiad ar yr Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Newid

Hinsawdd Ddrafft  (2021-2025).

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi ac Materion Ymgynghori Cortfforaethol fod y

Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd wedi'i alw yn "Dewch i Siarad am Newid yn

yr Hinsawdd RhCT",  a chafodd yr ymgyrch ei chynnal drwy borth ar-lein lle

roedd modd rhannu straeon, sgyrsiau, holiaduron byr a fideos. Roedd y garfan

Cyfryngau Cymdeithasol wedi cysylltu'r ymgynghoriad ag ymgyrchoedd

allweddol fel 'Diwrnod y Ddaear' i ennyn mwy o ddiddordeb a trafodaeth ymhlith

y preswylwyr, busnesau, ysgolion a'r  Grwpiau i Bobl H?n a oedd wedi

ymgysylltu. Y gobaith oedd y byddai ymgynghori wyneb yn wyneb yn bosibl yn

yr haf.

 

Croesawodd yr aelodau'r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ddrafft (2021-

2025), gan ddweud bod angen mawr amdani a'i bod wedi cychwyn trafodaeth

gadarnhaol ymhlith preswylwyr a busnesau RhCT. Fe wnaethon nhw nodi'r

awydd i fentrau gwyrdd gael eu cynnal nifer o grwpiau cymunedol ledled y

fwrdeistref sirol ond pwysleision nhw hefyd bwysigrwydd cydgysylltu'r gwaith

da yn lleol er mwyn osgoi 'dull ar wasgar'.

 

Cododd un Aelod bryder ynghylch y cwestiynau yn yr ymgynghoriad

a oedd yn rhy arweiniol yn eu barn nhw, ac yn annog yr ymatebion cadarnhaol

yn unig. Teimlai'r Aelod y gellid gwneud mwy i ymgysylltu â phreswylwyr a

busnesau, gan ofyn cwestiynau anoddach a mwy heriol am yr anfanteision a

gosod blaenoriaethau.

 

Roedd un Aelod yn siomedig mai dim ond 56% o'r ymatebwyr a oedd o'r farn y

byddai'r Ymrwymiadau Hinsawdd yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei dargedau o

ran gostyngiadau carbon.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y nifer fawr o gamau yn y Strategaeth ddrafft,

fel cefnogi landlordiaid i wneud eu heiddo yn 'wyrdd', fel gweithredoedd tymor

hir  a fydd yn cael eu gweithredu dros y 15-20 mlynedd nesaf. Pwysleisiodd fod

llawer o'r gweithredoedd, waeth pa mor fach ydynt, yn cyfrannu at y strategaeth

gyffredinol ac mai un rhan hollbwysig o gyflawni targedau oedd ymgysylltu â

phreswylwyr cymaint â phosibl.

 

Gwnaeth yr aelodau sylwadau a gofyn am sicrwydd bod y sgyrsiau parhaus a'r

strategaeth ddrafft yn ystyried:

 

         Cefnogaeth i blannu coed a fyddai'n helpu i liniaru llifogydd;

         Grwpiau cymunedol yn prynu coetir ac yn datblygu prosiectau gerddi trefol;

         Mabwysiadu safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer contractwyr a chyflenwyr i'w hannog i gefnogi'r cyngor i ddod yn garbon niwtral;

         Cynlluniau hydro;

         Isadeiledd priodol i gefnogi a hwyluso gwefru cerbydau trydan gartref ac i ymchwilio i ffyrdd o wireddu gwefru ar y stryd, sut i wneud hyn yn ymarferol;

         Trafodaethau cynnar gyda datblygwyr i osod cyfleusterau cerbydau trydan ym mhob adeilad newydd

 

   

Wrth ymateb i'r ymholiadau a godwyd, dywedodd y Prif Weithredwr fod

strategaeth yn cael ei datblygu i sicrhau aildyfiant naturiol coetir sy'n rhoi'r

'goeden iawn yn y lle iawn' yn fwy na phlannu, a gall hyn osgoi cyflwyno

afiechyd. Mae prosiectau adfer mawnog hefyd ar y gweill fel  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Crynhodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y pwyntiau allweddol a godwyd o'r trafodaethau cynharach ynghylch Astudiaeth o Gludiant Coridor Gogledd Orllewin Caerdydd ac o'r ymatebion ymgynghori a gafwyd o ran y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd yn ystod Ebrill a Mai 2021.

 

I gloi, diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r Pwyllgor.