Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

30.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd W jones a Mr Fish - Cynrychiolydd Rhiant Lywodraethwr â hawl pleidleisio 

 

31.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a chafodd cyflwyniadau eu gwneud gan yr Aelodau.

 

32.

Cyfleuster Ymchwil Craffu

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Aelodau fod y cyfleuster ymchwil a chraffu ar gael yn rhan o Uned Busnes y Cyngor er mwyn helpu'r Aelodau i ymgymryd â'u cyfrifoldebau o ran craffu a'u gwaith ehangach fel Aelodau Etholedig. Fel sydd wedi'i nodi ar yr agenda, dylai unrhyw geisiadau gael eu cyflwyno trwy ebost.

 

33.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda ar yr adeg yma. 

 

 

34.

Cofnodion pdf icon PDF 136 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021 yn rhai cywir.

 

 

35.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Penderfynodd yr Aelodau gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

Wrth ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r dolenni ymgynghori, ynghylch a fyddai'r cyllid ar gyfer Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn parhau, cadarnhaodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy'n cynnal swydd Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol ond cadarnhaodd y byddai ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei rannu â'r Pwyllgor yn y man.

 

36.

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 3 MB

Cyflawni gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.

 

 

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu amlinelliad o'r cyfle cyn y cam craffu a ddarparwyd i Aelodau mewn perthynas â'r adroddiad monitro cydraddoldeb blynyddol ar gyfer 2019/20, gan roi cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyflwyno'i sylwadau i'r Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021.

Cyflwynodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant adroddiad monitro cydraddoldeb blynyddol y Cyngor ar gyfer 2019/20 gan roi gwybod bod yr adroddiad yn cynnwys y cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y flwyddyn 2019/20 wrth gyflawni'r amcanion cydraddoldeb sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor.

 

Tynnodd Aelod sylw at bwysigrwydd ymateb i ddigwyddiadau diweddar yn y cyfryngau, a’r angen i fynd i’r afael â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus. Cafodd cynnig ei gyflwyno y dylai cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth fel Pwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn y Cyngor, gael ei drefnu ar frys, i drafod diogelwch a chydraddoldeb i fenywod yn y gymuned gan gynnig gwahoddiad i bartneriaid perthnasol. Pleidleisiodd y Cynghorwyr yn unfrydol o blaid y cynnig gyda'r bwriad o drefnu cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn.

 

Trafododd yr Aelodau'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ac roedden nhw o'r farn bod y gofynion adrodd allweddol mewn perthynas ag adrodd ynghylch monitro cyflogaeth, cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol ac ymrwymiad y Cyngor i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael eu cyflawni. Wrth ymateb i ymholiad ynghylch effaith Covid-19 ar materion megis troseddau casineb, rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb wybod y byddai'r adroddiad blynyddol nesaf yn adlewyrchu unrhyw effaith ar y maes yma o ganlyniad i'r pandemig. Cydnabyddodd y byddai darparu ffigurau lleol ar ôl Covid-19 yn ddefnyddiol er mwyn i'r Pwyllgor eu hadolygu.

 

Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad bod gwaith yn cael ei wneud mewn

perthynas â nifer o feysydd sydd angen eu gwella o ran cydraddoldeb ac

amrywiaeth. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau

Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod y Gweithgor Gwasanaethau

Democrataidd: Amrywiaeth mewn Democratiaeth wedi cael ei sefydlu'n

ddiweddar i gynorthwyo'r Cyngor i sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth

cyn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac i annog unigolion i gymryd rhan mewn gwaith Cynghorau Tref, Cymuned a'r Prif Awdurdodau. Cafodd ei nodi bod cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu i wella amrywiaeth y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod hwn yn agenda sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n cael ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at bapur a oedd ar fin cael ei gyflwyno i Gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer newidiadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar ôl 2022.

 

Rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant amlinelliad o'r materion

ynghylch cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gweithdrefn adolygu cyflawniad

staff y Cyngor sy'n cael ei chyflwyno fesul cam i sicrhau ei bod yn cael ei

weithredu mewn modd effeithiol a bod gan bawb ddealltwriaeth o'r weithdrefn

yn ogystal â'r gwaith parhaus i ddatblygu cynllun gweithredu fydd yn cefnogi

rhaglen Menywod mewn Arweinyddiaeth, llinyn penodol o waith fydd yn cael ei

rannu gyda'r pwyllgor maes o law.  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf icon PDF 254 KB

Derbyn crynodeb o elfennau amrywiol y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a

Chyfathrebu ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a

oedd yn crynhoi elfennau gwahanol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

2021 a dderbyniodd Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried datganiad sefyllfa'r Cyngor mewn

perthynas â gofynion y Ddeddf gan roi sylw arbennig i'r camau y bydd angen mynd

i'r afael â hwy i sicrhau bod RhCT yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd sawl elfen yn cael eu hystyried yn

rhan o gyfarfodydd nifer o Bwyllgorau ffurfiol y cyngor megis y Pwyllgor Safonau, a

fydd yn trafod Cod Ymddygiad yr Aelodau a'r rôl y bydd yr Arweinwyr Gr?p yn ei

chwarae o ran ymddygiad eu haelodau a bydd y Cabinet hefyd yn trafod yr

adroddiad hwn yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2021.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod bod rhan fawr o'r trafodaethau

hyd yma wedi canolbwyntio ar y Cydbwyllgorau Corfforedig ac ymestyn yr

etholfraint i 16 ac 17 oed yn ystod etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf

yn ogystal â pharatoi ar gyfer ymestyn yr etholfraint i'r gr?p oedran yma mewn da

bryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn falch o roi gwybod bod y Cyngor eisoes

wedi gwneud llawer o'r gwaith cychwynnol er mwyn hyrwyddo prosesau

democrataidd ac ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n ffurfio rhai o ystyriaethau'r Ddeddf ac

a fydd yn cael eu cyflawni gan y Cyngor. Tynnodd sylw'r Aelodau at y meysydd

eraill y mae'r Ddeddf yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth ar eu cyfer, megis y p?er

cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif gynghorau a'r cynghorau cymuned cymwys,

galluogi Gweinidogion Cymru i weithredu dulliau gweithio rhanbarthol mwy cydlynol

ledled Cymru, perfformiad mwy ffurfiol a threfniadau llywodraethu wedi'u seilio ar

adolygiadau hunanasesu a chyfoedion. Dywedodd y Cyfarwyddwr

Gwasanaeth fod y cynigion i sicrhau bod rôl craffu o fewn prif gyngoryn fwy

effeithiol gan gryfhau'r trefniadau craffu'n berthnasol iawn i'r Pwyllgor Trosolwg a

Chraffu. Mae hyn oherwydd bod y Pwyllgor yn cyflwyno cyfleoedd i graffu a thrafod

penderfyniadau allweddol cyn i'r Cabinet benderfynu ar y materion hynny. Nodwyd

bod hyn yn faes y mae'r Pwyllgor Craffu eisoes yn ei gyflawni fel mater o arfer da.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod meysydd allweddol eraill o

ddiddordeb y bydd angen i'r pwyllgor yma'u trafod yn y dyfodol, megis diwygio

cyfranogiad y cyhoedd a'r penderfyniad a fydd yn galluogi'r Aelodau i fynychu

cyfarfodydd rhithwir. Esboniodd y bydd modd i'r Cyngor ddarlledu'i gyfarfodydd cyn

bo hir ar ôl cyflwyno cyfleuster gweddarlledu sy'n cael ei ddarparu gan Public I.

Bydd y cyfleuster yn cael ei integreiddio'n llwyr â'r trefniadau rhithwir presennol.

Byddan nhw hefyd yn ein galluogi ni i ddarparu dull hybrid ar gyfer cyfarfodydd gan

barhau i allu darlledu'n fyw ar-lein. 

 

O ran agenda amrywiaeth, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod yna

newidiadau i'r trefniadau absenoldeb teuluol a chyfleoedd rhannu swydd ar gyfer

Aelodau'r Cabinet a Chadeiryddion y Pwyllgorau. Gwelliannau  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am ddod ac am eu cyfraniadau yn ystod y cyfarfod. Crynhodd y pwyntiau allweddol i fod wedi codi o'r ddau adroddiad a ystyriwyd a'r argymhellion i gynnwys yr argymhelliad ychwanegol y dylid cynnull Pwyllgor Trosedd ac Anhwylder cyn gynted â phosibl.

 

39.

Busnes Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.