Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda ar yr adeg yma.
Serch hynny, gwnaeth Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher y datganiad o fuddiant personol canlynol nes ymlaen yn y cyfarfod (cofnod 27) - “Mae fy mab yn gweithio i gwmni Trafnidiaeth Cymru”.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E Stephens ac L Walker.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2020 yn rhai cywir.
|
|
Dolenni Ymgynghori Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadauperthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.
|
|
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd PDF 126 KB Derbyn diweddariad am gynnydd Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ('CCR') (y 'Cabinet Rhanbarthol' - cyd-bwyllgor), i oruchwylio twf economaidd y Rhanbarth ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod adroddiad mewn perthynas â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cael ei gyflwyno i Aelodau er mwyn cyflawni gwaith cyn y cam craffu cyn i'r adroddiad gael ei drafod yn ystod cyfarfod o'r Cabinet ar 25 Chwefror 2021, a hynny yn dilyn trafodaethau yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 18 Ionawr 2021.
Rhannodd y Prif Weithredwr adroddiad, sy'n rhoi diweddariad am gynnydd gwaith Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ('CCR') (y 'Cabinet Rhanbarthol' - cyd-bwyllgor), i oruchwylio twf economaidd y Rhanbarth ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafodd Aelodau wybod am gefndir y cynllun i greu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2016, a rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod hyn yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg arweinydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafodd Aelodau grynodeb o raglen y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys:
Aeth y Prif Weithredwr ymlaen gan roi gwybod bod y buddsoddiad gwerth £ 1.2biliwn ar gyfer cynllun Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys dwy elfen benodol. Mae hyn yn cynnwys £734miliwn ar gyfer cynllun METRO a £495miliwn ar gyfer Cronfa Buddsoddi Ehangach y Cabinet Rhanbarthol. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5 yr adroddiad, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf ar y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r Adolygiad Porth y mae angen ei gyflawni bob 5 mlynedd. Cafodd yr Aelodau wybod bod SQW wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU i gyflawni gwerthusiad o effaith y buddsoddiadau sydd wedi'u gwneud hyd yn hyn yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafodd manylion yngl?n â'r cynnydd a'r buddsoddiadau mawr sydd wedi'u gwneud hyd yn hyn eu rhannu â'r Aelodau. Daeth y Prif Weithredwr a'i adroddiad i ben trwy roi gwybod am y gwaith cadarnhaol y mae'r deg awdurdod lleol wedi'u gwneud i ddatblygu Bargen Ddinesig sydd wedi'i chydlynu, sy'n drefnus ac sy'n canolbwyntio ar faterion economaidd sy'n darparu sylfaen arbennig i gyflawni pymtheng mlynedd nesaf rhaglen gyllid y Fargen Ddinesig, gan ddyblu'r cyllid grant sydd ar gael a chreu cyfres o gronfeydd cynaliadwy sy'n gallu cefnogi twf economaidd am sawl flwyddyn i ddod. Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen a Chyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â gwaith yr awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol ac effaith adfywio a thai a'r manteision y mae'r rhain yn eu cynnig i'r Fwrdeistref Sirol. Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddogion am yr adroddiad a nododd y datblygiadau cadarnhaol mewn perthynas â'r seilwaith trydanol i gefnogi mannau gwefru ar gyfer tacsis. Cafodd y rhain eu nodi yn ystod adolygiad y gweithgor a gafodd ei sefydlu i drafod datblygu seilwaith i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel. Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman wedi holi cyfres o gwestiynau i swyddogion ac aethon nhw ati i ymateb iddyn nhw. Cafodd yr Aelod wybod bod mwy ... view the full Cofnodion text for item 27. |
|
Trefniadau'r Awdurdod Lleol ar gyfer Diogelu Plant ac Oedolion mewn Perygl PDF 248 KB Mae'r adroddiad yma'n diweddaru'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y trefniadausydd ar waith ar hyn o bryd, a'r rhai sydd ar y gweill, sy'n cefnogi Cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol y Cyngor.
Cofnodion: Rhannodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y newyddion diweddaraf yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol y Cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf. Cyfeiriwyd at adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a gynhaliwyd yn 2019 a oedd wedi canfod bod y Cyngor wedi cwrdd, neu wedi cwrdd yn rhannol, â'r rhan fwyaf o'r argymhellion a'r cynigion blaenorol ar gyfer gwella. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod rhai cynigion pellach ar gyfer gwella wedi'u gwneud er mwyn cryfhau agweddau ar drefniadau Diogelu Corfforaethol y Cyngor a chafodd manylion ynghylch chwe chynnig eu darparu.
Aeth y Cyfarwyddwr Cyfadran ymlaen i drafod y sefyllfa bresennol a'r gwaith pellach y mae angen ei gyflawni mewn perthynas â'r trefniadau diogelu, gan gyfeirio at atal hunanladdiad, Cam-drin Plant yn Rhywiol a Diogelu Cyd-destunol.
Siaradodd Aelodau'r Pwyllgor am bwysigrwydd materion megis trefniadau diogelu ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed. Siaradodd y Cadeirydd a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol Jarman am yr effaith dorcalonnus y mae hunanladdiad yn ei chael ar aelodau'r teulu a chafodd y Cyfarwyddwr Cyfadran ei holi am y cymorth sydd ar gael i gefnogi aelodau'r teulu yn ystod cyfnodau heriol yn rhan o'r strategaeth amlasiantaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y Bwrdd wedi bwrw ymlaen â gr?p goruchwylio strategol sy'n ceisio llunio drafft o strategaeth atal hunanladdiad, ar ôl cydnabod nad oedd bwrdd cydlynu rhanbarthol yn bodoli ac o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr achosion o hunanladdiad yn y rhanbarth. Siaradodd Cyfarwyddwr y Gr?p am y trefniadau ychwanegol sydd ar waith mewn perthynas â gr?p adolygu sy'n edrych ar 'wersi a ddysgwyd'. Darparodd y Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Cwm Taf rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag un strategaeth ranbarthol ar gyfer atal hunanladdiad sydd wedi cael ei datblygu a'r amcan strategol sydd wedi'i nodi yn y strategaeth ac sy'n ymwneud â gwella sut mae gwybodaeth yn cael ei darparu i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad. Nododd y Rheolwr bod y Bwrdd wedi cydnabod bod angen gwella hyn. Cafodd yr Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi penodi Cydlynydd Atal Hunanladdiad a rhoddodd y Rheolwr wybod am y gwaith agos sy'n cael ei gyflawni rhwng y Bwrdd a'r Cydlynydd ar gyfer y rhanbarth. Cyfeiriodd hefyd at y llwybr profedigaeth Cenedlaethol sy'n cael ei gyflawni yn yr ardal yma.
Holodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Cox a oedd y trefniadau diogelu wedi'u heffeithio o ganlyniad i bandemig covid, gan ystyried bod plant ddim wedi bod yn bresennol yn lleoliadau ysgol a felly mae'n bosibl bod llai o atgyfeiriadau wedi bod. Holodd yr Aelod am gynlluniau hir dymor i sicrhau nad yw plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu colli yn ystod y cyfnod unigryw yma.
Cytunodd y Cyfarwyddwr Cyfadran taw dyma un o'r brif heriau ar gyfer y gwasanaeth ac roedd y gwasanaeth yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod plant ac oedolion sy'n agored i niwed ddim yn cael eu colli, gan ... view the full Cofnodion text for item 28. |
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Crynhodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r pwyntiau trafod allweddol ac estynnodd ei ddiolch i'r Aelodau a'r Swyddogion am eu presenoldeb ac am gyfarfod adeiladol a heriol. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai sylwadau'r Aelodau ar yr adroddiadau a drafodwyd yn cael eu hadrodd i'r Cabinet gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
|