Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

15.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones.

 

16.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau o'r Pwyllgor i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor ers y Flwyddyn Newydd gan gyflwyno Swyddogion, Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu a Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid.

 

17.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

18.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd rhithwir y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

Ø  1 Rhagfyr 2020

Ø  9 Rhagfyr 2020

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2020 a 9 Rhagfyr 2020 yn rhai cywir yn amodol ar y sylwadau canlynol:-

 

Ø  Roedd Mr Jeff Fish, Aelod Cyfetholedig yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020; a

Ø  Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Stephens wedi cywiro cyfrif llafar y Cynghorydd Webster, dylai'r cofnod nodi 'Stryd y Golofn' nid 'Stryd Callum'.

 

19.

Materion yn codi

Cofnodion:

Gofal Preswyl

Cododd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman bryder ynghylch cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynwyd i'r Cyngor yn gofyn am bapurau cefndir yn ymwneud â'r matrics sy'n nodi cryfderau a gwendidau pob un o'r 11 Cartref Gofal. Awgrymwyd bod y matrics wedi'i lunio gan swyddogion y Cyngor heb unrhyw gofnod ffurfiol na phapurau cefndir. Gofynnodd yr Aelod a fyddai modd cyflwyno adroddiad sy'n nodi esboniad yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

Ar ôl trafod y mater PENDERFYNWYD y byddai esboniad o sut y cafodd y matrics ei lunio'n cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf ynghylch Moderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd i Bobl H?n pan fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

20.

Rhaglenni Gwaith y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2020-21 pdf icon PDF 272 KB

Trafod blaengynlluniau'r Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn amlinellu blaenraglen waith ddrafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am weddill Blwyddyn y Cyngor 2021. Mae hefyd yn rhoi cyfle i graffu a nodi eitemau pellach i'w trafod yn rhan o waith cyn y cam craffu o raglen waith y Cabinet.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai dull sy'n canolbwyntio ar agwedd benodol yn parhau mewn perthynas â'r blaenraglen waith, fel sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, wrth i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fynd i'r afael â sawl mater strategol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod modd i flaenoriaethau'r blaenraglen waith newid, os bydd angen i'r Pwyllgor drafod materion busnes penodol eraill ar y dyddiad yma. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod hefyd y byddai sesiynau ymgysylltu'r Pwyllgorau Craffu/Cabinet yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd y sesiwn Trosolwg a Chraffu yn cael ei chynnal gyda'r Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber a'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd cyn diwedd y mis.

 

Cafodd Aelodau wybod y byddai datganiad sefyllfa'n cael ei gyflwyno i Weithgor y Pwyllgor Craffu cyn diwedd blwyddyn y Cyngor. Cafodd y Gweithgor yma ei sefydlu i drafod sut y byddai modd datblygu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth a rheilffordd ac adeiladu ar gamau gweithredu cynnar Metro De Cymru yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd y Pwyllgor eu hatgoffa bod y Rhybudd o Gynnig yma wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a bod gwaith wedi cychwyn ar y mater cyn y Pandemig, ond ers hynny, mae'r gwaith wedi cael ei ohirio.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai'r newyddion diweddaraf yn cael ei rannu â'r Pwyllgor mewn perthynas â'r deg argymhelliad a gafodd eu cyflwyno i'r Cabinet gan y Gweithgor Craffu a gafodd ei sefydlu i ddatblygu'r seilwaith i gefnogi Cerbydau Carbon Isel yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a gafodd ei drafod gan y Cyngor.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai Model Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif yn cael ei drafod gan y pwyllgor craffu yma yn hytrach na'r Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc unwaith y bydd y mater wedi cael ei nodi ar Raglen Waith y Cabinet yn unol â chyfarwyddyd y pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelod pryd y mae disgwyl i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu neu'r Cyngor gael y newyddion diweddaraf mewn perthynas â Bargen Ddinesig - Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac a fyddai modd i'r Pwyllgor gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar y materion canlynol sydd wedi'u nodi ar flaenraglen waith y Cabinet:-

 

1.     Prosesu Deunyddiau Ailgylchu Cymysg Ymyl y Ffordd

2.     Ymateb y Cyngor i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

3.     Lleoliadau Arbenigol

4.     Mynwentydd yn RhCT

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bod y trefniadau craffu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach yn nwylo RhCT ac yn cael eu gweithredu mewn modd cadarn. Cadarnhaodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu ac y byddai Prif Weithredwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Cynllun Adborth Corfforaethol y Cyngor (CFS) pdf icon PDF 437 KB

Derbyn trosolwg o Gynllun Adborth Corfforaethol y Cyngor gyda'r bwriad o nodi themâu, tueddiadau a gwelliannaui'w hadolygu yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymuned a'r Gwasanaethau i Blant gyda'r nod o rannu'r Adroddiad Blynyddol cyntaf mewn perthynas â gweithredu ac effeithiolrwydd Cynllun Adborth Cwsmeriaid Corfforaethol ('CFS') y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn i'r Cabinet drafod y mater.

Dywedodd y Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid fod yr adroddiad gerbron yr Aelodau yn ystyried Cynllun Adborth Cwsmeriaid sy'n wahanol i'r cynllun sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau i Oedolion/Gwasanaethau i Blant. Mae ganddo system adrodd wahanol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid drosolwg o faterion gweithredu'r Cynllun Adborth Cwsmeriaid (CFS), gan gynnwys sut mae ansawdd y dulliau rhoi gwybod a lefel yr wybodaeth sydd ar gael wedi gwella ac sydd felly wedi datblygu effeithiolrwydd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu o fewn y meysydd gwasanaeth unigol.

 

Cofnodwyd cyfanswm o 1155 o eitemau adborth ar gyfer 2019/20. Rhoddodd y Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid wybod bod y cyfanswm yma'n debygol o fod yn is na'r swm gwirioneddol, gan fod llai o ganmolaeth yn cael eu cofnodi. Cafodd ei nodi bod system adrodd newydd ar fin gael ei gweithredu. Bydd y system yma'n sicrhau bod yr adborth yn cael ei gasglu'n well.

 

Cafodd Aelodau wybod bod yr Ombwdsmon yn gyfrifol am bennu'r categorïau ac maen nhw wedi cael eu nodi fel 'Yn Ddilys' neu 'Ddim yn Ddilys'. Fodd bynnag y bwriad yw datblygu'r categorïau yma er mwyn galluogi meysydd gwasanaeth i gofnodi dilys/ddim yn ddilys yn ogystal â nodi natur y g?yn a'r deilliant. Roedd 70% o gwynion Cam 1 wedi derbyn sylw o fewn 10 diwrnod gwaith gyda 59% o gwynion Cam 2 yn derbyn sylw o fewn yr 20 diwrnod gwaith penodedig. Mae hyn yn ganlyniad cadarnhaol ac yn dystiolaeth sy'n dangos bod staff y rheng flaen yn ymateb i gwynion ac yn eu datrys.

Rhoddodd  y Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid wybod bod  39 o gwynion wedi'u cyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd 14 o gwynion a gafodd eu cyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at yr adran sy'n pennu enghreifftiau o gwynion a gwelliannau i'r gwasanaethau sy'n dangos y cynnydd da sydd wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf, gan nodi sut mae'r gwasanaeth yn bwriadu gwella, cafodd enghreifftiau o sylwadau a chanmoliaeth eu cynnwys yn yr adroddiad.

I gloi, siaradodd y Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid am ddatblygiadau a blaenoriaethau'r gwasanaeth ar gyfer 2020/21 megis hyfforddiant gwell mewn perthynas â chwynion, dulliau rhoi gwybod gwell, gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd a dull casglu adborth gan gwsmeriaid gwell.

 

Roedd y Rheolwr Materion Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid wedi ymateb i'r cwestiynau canlynol: -

 

Ø  Beth yw cwyn?

Ø  A yw'r Cyngor yn nodi'r materion sy'n cael eu codi gan breswylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol?

Ø  A yw'r data'n cynnwys materion a godwyd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i'r Aelodau am fynychu'r cyfarfod a rhoddodd wybod y byddai cyfarfod rhithwir nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei gynnal ar 23 Chwefror 2021.