Agenda

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Marc Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424102

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

Derbyn y cofnodion o gyfarfod blaenorol Pwyllgor Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol a gafodd ei gynnal ar 24 Mai 2019.

 

3.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad Paragraff 12 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

 

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR ADDYSG A GWASANAETHAU CYNHWYSIANT

4.

CAIS AR GYFER PENODI LLYWODRAETHWYR YR AWDURDOD ADDYSG LLEOL

Ystyried ceisiadau ar gyfer penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol

 

5.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.