Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Civic Offices, Merthyr Tydfil County Borough Council, Merthyr Tydfil

Cyswllt: Marc Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424102

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf).

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Doedd dim datganiadau o fuddiant yn ymwneud â'r agenda.

3.

ETHOL CADEIRYDD CYDBWYLLGOR AMLOSGFA LLWYDCOED AR GYFER 2019-20

Ethol Cadeirydd Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed ar gyfer Blwyddyn 2019-2020 y Cyngor

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Isaac yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer blwyddyn 2019-20 y Cyngor.

4.

ETHOL IS-GADEIRYDD CYDBWYLLGOR AMLOSGFA LLWYDCOED AR GYFER 2019-20

Ethol Is-gadeirydd Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed ar gyfer Blwyddyn 2019-2020 y Cyngor

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Boggis yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer blwyddyn 2019-20 y Cyngor.

 

5.

COFNODION pdf icon PDF 94 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed a gafodd ei gynnal ar 19 Mawrth 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion o gyfarfod Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2019 yn rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD RHEOLWR Y GWASANAETHAU PROFEDIGAETHAU pdf icon PDF 71 KB

Trafod adroddiad Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaethau

 

 

Cofnodion:

Yn ei hadroddiad, rhoddodd y Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaethau Ystadegau a ffigurau Cyflawniad i'r Aelodau sy'n ymwneud â gweithrediad yr Amlosgfa ers y cyfarfod diwethaf ac yn dilyn ystyried yr eitemau hynny, PENDERFYNWYD  nodi'r wybodaeth.

 

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL (DRAFFT) AR GYFER Y FLWYDDYN SY'N DOD I BEN 31 MAWRTH 2019 pdf icon PDF 986 KB

Trafod adroddiad y Trysorydd.

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad y Trysorydd gan yr Aelodau.      

 

Cafodd aelodau wybodaeth mewn perthynas â'r materion:

 

·         Cyflawniad ariannol a thrafodion cronfeydd mae modd eu defnyddio

·         Mantolen ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019

·         Gweddillion y Gronfa gyffredinol 2013/14 hyd at 2018/19

 

Yn dilyn ystyried a thrafod y mater, gan hynny, PENDERFYNWYD –

 

(1)  Nodi'r adroddiad.

 

(2)  Nodi'r Datganiad Blynyddol sydd ddim wedi'i archwilio am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 fel y mae wedi'i gyflwyno.

 

(3)  Bod Cadeirydd y Cyd-bwyllgor yn llofnodi'r Adran Cymeradwyo ac Ardystio sy'n rhan o'r Adroddiad Blynyddol.

 

(4)  Nodi a chymeradwyo'r Adroddiad Terfynol Archwilio Mewnol

8.

UNRHYW FATERION ERAILL

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Members raised concern with regard to the overspill of the car park at Mynegodd yr Aelodau bryder yngl?n â gorlifiad y maes parcio yn Amlosgfa Llwydcoed yn ystod seremonïau amlosgi. 

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD cynnal prawf dichonoldeb ar y safle i asesu'r problemau parcio a godwyd.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â'r systemau camera sefydlog yn Amlosgfa Llwydcoed, dywedwyd y byddai'r mater hwn yn cael ei adolygu yn y dyfodol agos.