Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

9.

Croeso a Chyhoeddiadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a manteisiodd ar y cyfle i longyfarch y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned ar ei swydd newydd.

 

Adleisiodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick sylwadau'r Cadeirydd a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r Adran Drwyddedu am gyflawni gwaith gorfodi yn ddiweddar yn ei gymuned leol, er gwaethaf y pwysau presennol.

 

Roedd yr Aelod hefyd yn dymuno cofnodi ei fod yn meddwl am ffrindiau a theulu perchnogion y Conway Inn, Aberdâr, ac yn gweddïo drostynt, yn sgil y newyddion trist eu bod wedi marw ar ôl dal Covid-19.

 

10.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

11.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 218 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 2 Hydref 2020.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2020 yn rhai cywir.

 

 

13.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Cyn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor am wall yn yr adroddiad a nododd fod yr wybodaeth yn trafod y cyfnod hyd at 17 Ionawr 2021, nid 2 Chwefror 2021 fel oedd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

Adroddwyd y bu gostyngiad yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TENs), gyda dim ond 18 yn cael eu cyflwyno. Roedd hyn oherwydd y sefyllfa eithriadol o anodd sy'n wynebu'r diwydiant o ganlyniad i'r pandemig Covid-19, y cyfnod atal byr, a'r cyfyngiadau symud yng Nghymru yn ystod y cyfnod. Nododd y Cyfarwyddwr hefyd fod nifer sylweddol o drosglwyddiadau a newidiadau o ran Goruchwyliwr Safle Penodedig, a hynny hefyd, mae'n debyg, o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n wynebu tafarndai a chlybiau oherwydd y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y bu dadlau yngl?n â dau gais ers yr adroddiad Pwyllgor diwethaf. Roedd un o'r rhain yn Gais i Amrywio Trwydded Safle, ac roedd y llall yn gais i Amrywio Goruchwyliwr Safle Penodedig.

 

Adroddwyd hefyd y bu dau adolygiad ar gais Heddlu De Cymru yn ystod y cyfnod. Roedd yr adolygiad cyntaf yn ymwneud â The Legion, y Porth, lle benderfynodd yr Is-Bwyllgor ddiddymu'r Drwydded am bythefnos a diwygio'i hamodau. Roedd yr ail gais yn ymwneud â'r Treorchy Hotel, Treorci, lle benderfynodd yr Is-Bwyllgor ddiwygio amodau'r drwydded. Yn ogystal â hynny, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r pwyllgor bod dau adolygiad arall yn yr arfaeth, wedi'u trefnu ar gyfer mis Chwefror 2021. Byddai'r rhain yn cael eu hadrodd i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Cafodd yr Aelodau wybod bod y gyfradd cyflawniad gyfredol yn parhau ar 90.5% gan fod cyn lleied o arolygiadau wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod, wrth i swyddogion ganolbwyntio ar arolygiadau Covid-19.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ati i ddisgrifio sefyllfa'r diwydiant yn ystod y pandemig Covid-19, gan esbonio fod effaith fawr wedi bod ar y sector lletygarwch oherwydd y rheoliadau llym, ac yna'r cyfyngiadau symud. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor bod swyddogion wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni ymweliadau cydymffurfio Covid a'i fod yn hapus i ddweud bod eiddo yn RhCT wedi cydymffurfio ar y cyfan.

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod 359 o ymweliadau wedi'u cofnodi yn ystod y cyfnod, a hynny heb gynnwys y galwadau ffôn roedd Heddlu De Cymru wedi'u derbyn, ond dywedodd ei bod yn teimlo bod hyn yn tanamcangyfrif y gwaith a wnaed. Cafodd yr Aelodau wybod bod yna safleoedd a oedd wedi methu â glynu wrth y safonau. Roedd hyn wedi arwain at gyhoeddi 18 o hysbysiadau cau a 12 o hysbysiadau gwella yn ystod y cyfnod. Roedd yr Aelodau'n siomedig i nodi bod 74 o hysbysiadau gwella wedi'u cyhoeddi ar y cyfan yn  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

15.

Trwyddedau a Chofrestriadau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth pwerau dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: 28.09.20 – 17.01.21

(i)  Trwyddedau Personol

(ii)  Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned fanylion i'r Pwyllgor am y trwyddedau a'r cofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod 28 Medi 2020 i 17 Ionawr 2021.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.