Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyhoeddiad gan y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L. Jones a L. Hooper i'w cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Trwyddedu yn dilyn newidiadau i'r aelodaeth yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i'r garfan Drwyddedu am ei gwaith caled parhaus yn ystod y cyfnod anodd yma, gan nodi bod swyddogion wedi mynd y tu hwnt i'r galw.

 

2.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E. Webster, T. Williams a S. Powderhill.

 

3.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

4.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

5.

Cofnodion pdf icon PDF 220 KB

Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 25 Chwefror 2020.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gafodd ei gynnal ar  25.02.20 yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod.

 

 

6.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd yr adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Adroddwyd y bu gostyngiad yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro, sydd, o bosibl, oherwydd y pandemig Covid-19. Arweiniodd y pandemig at gau adeiladau trwyddedig a doedd dim modd cynnal yr achlysuron cymunedol a fyddai fel arfer yn digwydd yn ystod y misoedd hynny. Yn dilyn llacio'r cyfyngiadau, derbyniwyd nifer o Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro er mwyn caniatáu i sefydliadau fasnachu yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod heriol yma.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod dau gais yn yr arfaeth ers yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor, y naill yn Gais i Amrywio Trwydded Safle; a'r llall yn gais ar gyfer Amrywio Goruchwyliwr Dynodedig y Safle.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Dysgodd yr Aelodau fod 90.5% o'r safleoedd a gafodd eu harolygu yn cydymffurfio i raddau helaeth - doedd y nifer ddim wedi newid ers y cyfnod diwethaf, a hynny oherwydd diffyg ymweliadau yn dilyn pandemig y coronafeirws a'r mesurau diogelu ychwanegol yr oedd gofyn i staff y Cyngor eu rhoi ar waith. 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at y sesiwn hyfforddi ar-lein a gynhaliwyd gan Mr D Lucas o'r Sefydliad Trwyddedu, gan nodi bod nifer fawr o aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu wedi cymryd rhan ynddi. Nododd fod y sesiwn yn gyfle gwerthfawr i'r Aelodau ddysgu rhagor neu ddiwygio'u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u harbenigedd o ran swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu a'r Cynghorwyr, a sut i gynnal gwrandawiadau trwyddedu.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ddisgrifiad o'r sefyllfa sy'n wynebu masnachwyr yn ystod pandemig Covid-19, ac eglurodd fod y diwydiant wedi'i effeithio'n sylweddol gan hyn a'i bod hi'n adeg heriol iawn. Clywodd yr Aelodau fod y newid parhaus o ran amgylchiadau a chanllawiau'r Llywodraeth wedi peri gofid i swyddogion a masnachwyr. Fodd bynnag, roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod y swyddogion wedi rhoi dull rhagweithiol ar waith drwy gysylltu â safleoedd fesul un er mwyn cynnig cymorth. The Service Director continued and spoke of the number of complaints received in respect of licenced premises operating indoors at the beginning of the lockdown period and advised that officers had successfully worked with South Wales Police to further investigate these. Yn dilyn ailagor y safleoedd ar 3 Awst 2020, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Garfan Drwyddedu wedi dechrau ymweld â safleoedd. Hyd yma, derbyniodd dri safle orchymyn i gau, a derbyniodd nifer o safleoedd hysbysiadau gwella. Canmolodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y garfan, ac eglurodd eu bod nhw wedi mynd y tu hwnt i'r galw, er gwaetha'r cynnydd yn eu llwyth gwaith. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n amlwg bod y rhan fwyaf o safleoedd yn ceisio dilyn y rheolau, a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Garfan yn mynd i'r afael ag unrhyw safleoedd lle nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn Benderfyniad:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

8.

Trwyddedau a Chofrestriadau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth pwerau dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: 10.02.20 - 27.09.20

(i)  Trwyddedau Personol

(ii)  Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 10 Chwefror 2020 i 27 Medi 2020.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.