Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

28.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

29.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

30.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 3 Rhagfyr 2020.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2019 yn rhai cywir.

 

 

31.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Clywodd yr Aelodau fod nifer yr hysbysiadau achlysuron dros dro (TENs) wedi cwympo yn dilyn yr haf, a nodwyd y gallai hynny fod oherwydd y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, lle mae rhagor o yfed alcohol/adloniant yn digwydd ledled y gymuned. Ers cyflwyno'r adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod un o'r hysbysiadau achlysuron dros dro wedi'i ddefnyddio er mwyn caniatáu i siop yn y Gilfach Goch werthu alcohol mewn hamperi ar gyfer achlysuron arbennig. Mae hyn yn dangos pa mor hyblyg yw'r broses.

 

Dywedodd fod dau gais wedi'u herio ers cyflwyno'r adroddiad diwethaf, y naill yn gais am drwydded bersonol a gafodd ei wrthod, a'r llall yn gais am amrywio tystysgrif safle clwb ar gyfer Clwb Pêl-droed Rhydfelen, a gafodd ei gymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod 90.5% o'r lleoliadau a gafodd eu harchwilio'n cydymffurfio i raddau helaeth, sy'n arddangos gwaith da parhaus y swyddogion ar y cyd â deiliaid trwyddedi. 

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Nodwyd fod yr Awdurdod Trwyddedu a Heddlu De Cymru wedi rhoi dull rhagweithiol ar waith i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sydd wedi codi er mwyn darparu cyngor a chymorth i ddeiliaid trwyddedi. Mae enghreifftiau o'r gwaith cadarnhaol yn cynnwys lleoliad yn ardal Penrhiw-ceibr/Aberpennar a lleoliad yng nghanol tref Pontypridd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth  at bryderon ynghylch yfed dan oed yn ardal Cwm Cynon, a dywedodd wrth y Pwyllgor Trwyddedu fod yr wybodaeth a ddaeth i law hefyd wedi'i rhannu â'r Panel Amlasiantaeth ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant (MACSE).

 

Roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod swyddogion yn mynychu cyfarfodydd 'Pubwatch' yn rheolaidd.

 

Roedd y diweddariad yn cynnwys adran o wybodaeth fanwl sy'n amlinellu'r cyngor cyn gwneud cais sydd wedi' nodi ar gyfer y rheiny sy'n dymuno gwneud cais. Mae'r wybodaeth yma'n dod gan yr Uwch Swyddog Trwyddedu, sy'n gweithredu fel yr Awdurdod Cyfrifol, sydd unwaith eto'n dangos dull rhagweithiol.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i roi sicrwydd i'r Aelodau bod swyddogion yn gweithio gyda'r busnesau hynny sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd yn dilyn Storm Dennis, a'u bod nhw'n ymweld â pherchnogion/tenantiaid ar y cyd â swyddogion hylendid bwyd, er mwyn eu helpu i ailagor cyn gynted â phosibl. 

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn dod i rym ar 2 Mawrth 2020. Eglurwyd y byddai'r Ddeddf yn cynnwys fformiwla er mwyn cyfrifo'r isafbris perthnasol.

 

Cafodd sylw'r Aelodau ei dynnu at Adran 4.6 yr adroddiad, lle roedd gwybodaeth ynghylch  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

33.

Trwyddedau a Chofrestriadau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth pwerau dirprwyedig ar gyfer y cyfnod

(i)  Trwyddedau Personol

(ii)  Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 18 Tachwedd 2019 i 9 Chwefror 2020.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.