Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

21.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Howe ac S Morgans.

 

22.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

23.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

24.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 10 Medi 2019.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2019 yn rhai cywir.

 

25.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd wrth y Pwyllgor fod y Datganiad Polisi Trwyddedu newydd ar gyfer 2020-2025 wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2019 gyda'r bwriad y bydd y datganiad newydd yn dod i rym o 7 Ionawr 2020.

 

Adroddwyd y bu nifer uchel o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro yn ystod y cyfnod, oherwydd digwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd, Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ystod yr amser hwn.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau a wrthwynebwyd i adrodd amdanynt ond roedd penderfyniad yngl?n ag un apêl ers y cyfarfod diwethaf. Cafodd yr Aelodau wybod bod cyfnod ataliad Chicken and Kebab Land wedi'i ostwng yn dilyn yr Apêl, o dri mis i bythefnos. Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at adran 4.3 yr adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniadau archwiliadau eiddo a thorcyfraith. Mae'r lefel cyflawniad ar gyfer eiddo sydd wedi'u harchwilio yn parhau yn 91%, sy'n gyson â'r canlyniadau blaenorol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Pub Watch Pontypridd wedi dod yn ail yng ngwobrau Pub Watch cenedlaethol blynyddol, gyda chydnabyddiaeth i’w waith yn diogelu pobl sy'n agored i niwed a'i berthynas waith agos gyda'r Ardal Gwella Busnes. Hefyd, cafwyd cadarnhad bod Pub Watch Trefforest, sy'n gr?p annibynnol, wedi ailddechrau.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau am ganlyniad ymarfer gyda'r nos a gynhaliwyd gan swyddogion trwyddedu yn dilyn honiadau o yfed dan oed yn ardal Cwm Cynon. Cafodd gwybodaeth bellach am faterion eraill mewn perthynas ag eiddo yn Aberdâr ei hadrodd hefyd. O ganlyniad cafodd mesurau eu gweithredu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel Teledu Cylch Cyfyng a darpariaeth ar gyfer canfod cwsmeriaid sydd â chyllyll yn eu meddiant.

 

Adroddwyd ar nifer o faterion eraill ledled y Fwrdeistref Sirol megis materion parhaus yngl?n â diffyg cydymffurfio yn ardal y Tymbl ym Mhontypridd.

 

I gloi, diweddarodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Pwyllgor yngl?n â materion yn ymwneud â Deddf Gamblo 2005.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:-

 

(i)            Nodi cynnwys yr adroddiad ar faterion Deddf Trwyddedu 2003, a gafodd ei ddarparu er gwybodaeth;

(ii)          Nodi cynnwys Deddf Gamblo 2005, a gafodd ei ddarparu er gwybodaeth.

 

 

 

26.

Trafod Cadarnhau'r Cynnig Isod yn Benderfyniad:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

27.

Trwyddedau a Chofrestriadau a Gyhoeddwyd o dan Ddarpariaeth Pwerau Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: 26.08.19 - 27.11.19

(i)  Trwyddedau Personol

(ii)  Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 26 Awst 2019 i 27 Tachwedd 2019.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.