Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

12.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Fox, S. Bradwick, E. Webster, A. Cox a S. Powderhill.

 

13.

Cyhoeddiad gan y Cadeirydd

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn dymuno llongyfarch y Cynghorydd A. Fox ar ran y Pwyllgor Trwyddedu, ar enedigaeth ei ferch.

 

14.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

15.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

16.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 11 Mehefin 2019 a 29 Gorffennaf 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2019 a 29 Gorffennaf 2019 yn rhai cywir.

 

 

17.

Review of Licensing Act 2003 and Gambling Act 2005 pdf icon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Nododd yr adroddiad fod cynnydd wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TENs), sy'n ddisgwyliedig ar gyfer adeg yma'r flwyddyn yn dilyn misoedd yr haf.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth na fu unrhyw geisiadau a wrthwynebwyd ers yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bu dau Adolygiad, ac roedd un ohonyn nhw ar gyfer Family Shopper, y Porth, lle penderfynodd yr Aelodau ddirymu'r drwydded; a'r ail ar gyfer Chicken and Kebab Land, Pontypridd, lle penderfynodd yr Aelodau atal y drwydded am ddau fis. Cafodd yr aelodau wybod bod y penderfyniad ar gyfer Chicken and Kebab Land wedi cael ei herio a'i restru ar gyfer Gwrandawiad Apêl yn Llys Ynadon Merthyr, ac y byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd i gyfarfod priodol nesaf y Pwyllgor Trwyddedu (yn eistedd yn ei rôl o dan Ddeddf Trwyddedu 2003).

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod 91% o'r adeiladau a arolygwyd yn cydymffurfio ar y cyfan. Roedd hyn yn gynnydd ers adroddiad blaenorol y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Dysgodd yr aelodau fod swyddogion wedi mynychu nifer o gyfarfodydd cyngor cyn ymgeisio, ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fach ac ar raddfa fwy fel Cegaid o Fwyd Cymru a Ponty's Big Weekend, a oedd yn llwyddiannus. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw faterion o bwys.

 

Aeth y swyddog ymlaen i siarad am y sefydliadau lluniaeth hwyr y nos yn Ardal y Tymbl, Pontypridd, a chynghorodd yr Aelodau fod problemau yn dal i fodoli ynghylch diffyg cydymffurfio.

 

Gan gyfeirio at honiadau bod staff drws yn defnyddio cyffuriau mewn clwb nos lleol yn Aberdâr, dywedodd y swyddog, er na nodwyd unrhyw gamweddau, nad oedd polisi ar atafaelu cyffuriau. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod gwaith yn cael ei wneud gyda Heddlu De Cymru i lunio polisi cyffuriau sydd wedi'i eirio mewn ffordd newydd. Y gobaith yw y byddai'n cael ei weithredu yn y dyfodol agos.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r Aelodau, yn dilyn ymarferion prynu prawf a gynhaliwyd gan Safonau Trwyddedu a Masnachu ar gyfer gwerthu alcohol i bobl ifainc o dan 18 oed, cafodd alcohol ei werthu i ferch 15 oed yng Nghwm Cynon. Sicrhawyd yr aelodau bod y digwyddiad yn cael ei ymchwilio.

 

O ran gamblo, cafodd yr Aelodau wybod bod archwiliadau o adeiladau wedi'u cynnal am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd ac y canfuwyd bod yr holl adeiladau yng Nghwm Rhondda yn cydymffurfio'n llawn. Sicrhaodd y swyddog yr Aelodau fod arolygiadau mewn ardaloedd eraill yn parhau  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu 2020–2025 pdf icon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd ddarparu Datganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2020-2025 i'r Pwyllgor Trwyddedu, a oedd yn cynnwys y diwygiadau a'r diwygiadau arfaethedig a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu ar 10 Medi 2019, ar y cyd â sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

Adroddwyd manylion y newidiadau allweddol i'r Polisi Trwyddedu i'r Pwyllgor a thynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at y Datganiad Polisi ar gyfer 2020-2025, a atgynhyrchwyd yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, pe bai'r Aelodau'n cymeradwyo'r Datganiad Polisi Trwyddedu, y byddai'r Adain Weithredol yn ei ystyried ar 24 Medi ac yn amodol ar gymeradwyaeth, byddai'r Cyngor yn ei ystyried i'w fabwysiadu ym mis Tachwedd 2019.

 

 PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r Datganiad Polisi Trwyddedu newydd 2020-2025 a chymeradwyo'r Datganiad diwygiedig i'r Cabinet i'w ystyried cyn i argymhelliad gael ei wneud i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

 

 

 

 

 

 

19.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

20.

Licences and Registrations issued under the provision of delegated powers for the period: 27.05.19 - 25.08.19

(i)  Trwyddedau Personol

(ii)  Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 27 Mai, 2019 i 25 Awst, 2019.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.