Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E. Webster a M. Diamond.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu 2020–2025 PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu Cynorthwyol i'r Aelodau'r diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2020-2025.
Adroddwyd manylion y newidiadau allweddol i'r Polisi Trwyddedu i'r Pwyllgor a thynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at y Datganiad Polisi Drafft ar gyfer 2020-2025, a atgynhyrchwyd fel Atodiad 1.Esboniwyd bod proses ymgynghori gyhoeddus yn parhau gyda thri achlysur ymgysylltu wedi'u trefnu ym mhob un o'r bwrdeistrefi, Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái. Soniodd y swyddog am gyfarfod Polisi Trwyddedu, a gynhaliwyd ar 1 Mai, i asesu barn yr asiantaethau partner perthnasol a sicrhau bod eu barn yn cael ei hymgorffori mewn diwygiadau drafft.
Cyfeiriodd yr aelodau at arwyddocâd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Teimlwyd y byddai dolenni electronig yn fuddiol yn y Datganiad i gryfhau'r cynnwys ac i atal dyblygu gwybodaeth.
Cafwyd trafodaethau ynghylch yr Ardoll Hwyr y Nosa Gorchmynion Cyfyngiadau Ben Bore a gyflwynwyd trwy Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cytunodd yr aelodau, er nad yw'r Awdurdod ar hyn o bryd o'r farn fod angen Ardoll Hwyr y Nos yn RhCT, byddai'n bwysig egluro yn y Datganiad Polisi Trwyddedu, bod yr opsiwn ar gael, pe bai erioed modd cyfiawnhau hynny.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd y byddai'r sylwadau a'r diwygiadau sydd wedi'u gwneud gan y Pwyllgor Trwyddedu yn cael eu cynnwys, ar y cyd â'r sylwadau hynny a gafodd eu gwneud yn ystod yr ymarfer ymgynghori, a'u hadrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu sy'n eistedd yn ei rôl o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Polisi Trwyddedu wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Adain Weithredol ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, yn cael eu mabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2019.
Cyn gorffen y cyflwyniad, cafodd yr Aelodau gyfle i ateb cwestiynau'r ymgynghoriad ynghylch y diwygiadau i'r Datganiad ac roedden nhw'n unfryd bod y Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer 2020 - 2025 yn hyrwyddo'r pedwar Amcan Trwyddedu.
Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i estyn eu diolch i swyddogion am ddatblygu’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn ddogfen fwy hawdd ei defnyddio a hygyrch.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: a) Nodi'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag ymarferwyr trwyddedu a datblygiad y Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft am y cyfnod 2020-25; b) Nodi'r ymgynghoriad parhaus ar y cynigion, wedi'u targedu at ddeiliaid trwydded, sefydliadau masnach ac aelodau o'r cyhoedd; c) Cyfrannu at yr ymarfer ymgynghori trwy roi sylwadau ar y Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft; a d) Nodi cynnig Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned i adrodd canlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor yma, ynghyd ag unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft, cyn ei gyflwyno i'r Adain Weithredol.
|