Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill a P. Howe.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 12 Mawrth 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 12 Mawrth 2019 yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod.
|
|
Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.
Nododd yr adroddiad fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TENs), sy'n ddisgwyliedig ar gyfer adeg yma'r flwyddyn yn dilyn prysurdeb y Nadolig. Serch hynny, roedd nifer o Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro wedi'u cyflwyno dros y Gwyliau Banc amrywiol, a chan fod yr haf yn agosáu, roedd cynnydd yn nifer yr achlysuron yn yr awyr agored, fel marchnadoedd awyr agored.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am ganlyniad cais a wrthwynebwyd a gafodd ei ystyried yn ystod y cyfnod, sef cais Chippy Plus. Penderfynodd yr Is-Bwyllgor wrthod y cais i amrywio'r drwydded safle. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei fod yn dal i ddisgwyl canlyniad un adolygiad, a oedd i'w gyflwyno ar 20 Mehefin 2019. Bydd canlyniad yr adolygiad yma yn cael ei adrodd i gyfarfod priodol nesaf y Pwyllgor Trwyddedu (yn rhinwedd ei swyddogaeth o dan Ddeddf Trwyddedu 2003).
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod 89% o safleoedd a oedd wedi cael eu harolygu yn cydymffurfio'n gyffredinol, a bod swyddogion wrthi'n datblygu cynlluniau gweithredu penodol er mwyn helpu deiliaid trwyddedau i gydymffurfio. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn gobeithio y byddai'r gwaith yn cynyddu'r gyfradd cydymffurfio ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf.
Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Cafodd yr Aelodau wybod bod swyddogion wedi gweithio'n agos gyda thrwyddedai mewn perthynas ag achlysuron sydd ar y gweill, gan gynnwys G?yl Cwrw a Jin yn Nhreorci a 'Ponty's Big Weekend' ym Mhontypridd i sicrhau eu bod yn achlysuron diogel a llwyddiannus. Roedd yn dda gwybod bod nifer y bobl sy'n mynychu cyfarfodydd Pub Watch, a chyfrannu atyn nhw yn gadarnhaol, a bod nifer y cwynion a dderbyniwyd wedi gostwng. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd yn fodlon bod noson siopa cudd wedi'i chynnal ac nad oedd unrhyw alcohol wedi'i werthu i bobl dan 18 oed.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau fod yr Awdurdod Trwyddedu wedi cyfrannu at sefydlu gweithgor yn ddiweddar i drafod cyflwyno Canolfan Triniaeth am Alcohol ym Mhontypridd. Er bod y rhain yn drafodaethau cychwynnol, byddai'r ganolfan yn cael ei rheoli gan y GIG ar y cyfan, er mwyn lleihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ddyddiadau posibl, a sicrhaodd y swyddog y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn y dyfodol agos.
Wrth drafod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd, cynghorodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod mwyafrif yr achosion wedi digwydd ym Mhontypridd. Dysgodd yr Aelodau fod 44 rhybudd wedi'u cyhoeddi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn Benderfyniad:- “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Trwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth pwerau dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 18.02.19 - 26.05.19: (i) Trwyddedau Personol (ii) Trwyddedau Safle Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 18 Chwefror, 2019 i 26 Mai, 2019.
Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.
|