Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Council Chamber, The Pavilions, Cambrian Park. Clydach Vale, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

7.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol T. Williams, A. Cox ac L. Jones

 

8.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

9.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

10.

Cofnodion pdf icon PDF 70 KB

Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 11 Medi, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2018 yn rhai cywir.

 

 

11.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd ei adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yn adroddiad chwarterol ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Dywedwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TEN). Roedd hyn yn bennaf oherwydd digwyddiadau a gynhaliwyd ar gyfer Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt a digwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer adeg y Nadolig. Tynnodd y swyddog sylw hefyd at un safle a oedd wedi defnyddio Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro i dreialu gwerthu alcohol mewn bar micro fragdy i brofi hyfywedd gwneud cais am Drwydded Safle.

 

Dysgodd yr aelodau fod un cais wedi ei herio, sef cais Clwb Platform 11, Pontypridd, lle penderfynodd Aelodau ganiatáu amrywio'r oriau gweithredu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn ond gwrthod caniatáu oriau masnachu ychwanegol ar ddydd Iau. Cafodd Aelodau wybod na chafodd unrhyw adolygiadau nac apeliadau eu cyflwyno ers yr adroddiad diwethaf.

 

Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o safleoedd a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod 89% o'r adeiladau a arolygwyd yn cydymffurfio ar y cyfan, o'i gymharu â 79% yn ystod yr un cyfnod yn 2017.

 

Cafodd Aelodau wybod bod nifer o gwynion wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â niwsans s?n. Eglurwyd bod cynnydd yn nifer yr achosion honedig o werthu alcohol i bobl dan oed yn ystod y cyfnod, ond cafodd Aelodau sicrhad bod y rhain wedi cael blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod yr Amcan Trwyddedu i 'Ddiogelu Plant rhag Niwed' yn parhau i gael ei fodloni.

 

Cyflwynodd y swyddog drosolwg i'r Pwyllgor o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y Garfan Trwyddedu ledled RhCT yn ystod y cyfnod. Roedd y swyddog yn falch o roi gwybod i Aelodau y bu cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu cyfarfodydd 'Pubwatch' ers y cyfnod diwethaf a bod cyfarfod newydd wedi'i sefydlu yng Nghlwb Hibernian y Gelli sy'n rhoi sylw i safleoedd trwyddedig o'r Pentre i Lwynypïa.

 

Soniodd y swyddog am gamau cadarnhaol sy wedi cael eu gwneud er mwyn annog pobl ifainc i beidio ag yfed alcohol. Dechreuodd y gwaith yma yn dilyn lansio Partneriaeth Alcohol Gymunedol Pontypridd yn llwyddiannus. Siaradodd y swyddog am y gystadleuaeth Dragons Den a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn partneriaeth â Sainsbury's, Pontypridd a Charfan Partneriaeth Ymgysylltu Ieuenctid y Cyngor. Dywedodd y byddai'r cynlluniau llwyddiannus yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol. Roedd Aelodau hefyd yn falch o glywed bod y chwe pherson ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn y cymhwyster Hyrwyddwr Iechyd Pobl Ifainc wedi llwyddo.

 

Cafodd Aelodau eu diweddaru yngl?n â'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd a ddaeth i rym ar 1 Medi, 2018 a chawsant wybod bod naw o bobl wedi cael eu halcohol wedi'i gymryd oddi wrthyn nhw hyd yma ac wedi derbyn rhybuddion.

 

O ran y Datganiad o Egwyddorion diwygiedig, o dan ddarpariaethau Deddf Gamblo  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn Benderfyniad:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

13.

Trwyddedau a Chofrestriadau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth pwerau dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 27.08.18 - 18.11.18

(i)  Trwyddedau Personol                                                                                                                                            

(ii) Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 27 Awst, 2018 tan 18 Tachwedd, 2018.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.