Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

41.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

1)    Fe wnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman ddatgan buddiant personol mewn perthynas â chais 20/1182 i ddatblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWM-BACH, ABERDÂR

“Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd, mae'n byw'n lleol ac rydw i wedi siarad gydag e i gadarnhau manylion yr ymweliad â'r safle yn unig."

2)    Fe wnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol D Williams ddatgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â chais 21/0720/15, sef parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10 Chwarel Craig yr Hesg, Berw Road, Pontypridd CF37 3BG.

“Rwy’n Aelod o gr?p sy'n Gwrthwynebu Chwarel Hanson.”

 

 

42.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

43.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

44.

Cofnodion pdf icon PDF 615 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 yn rhai cywir, yn amodol ar newid y canlynol ar gais Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i funud 15, sef:

 

  • Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio yr adroddiad i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hir PENDERFYNWYD cymeradwyo cymryd camau gorfodi yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblyguond yn amodol ar leihau'r amser a argymhellir ar gyfer cydymffurfio o 12 mis i 6 mis o'r diwrnod y daw'r rhybudd i rym, ganfod y datblygiad yn dwysáu'r defnydd o lôn is-safonol heb lain welededd, man troi, digon o led, cilfachau pasio na strwythur digonol. Byddai'r elfennau yma'n effeithio ar ddiogelwch y briffordd a llif y traffig ar yr A4059, ac o ganlyniad, ystyrir nad yw'r datblygiad yn cydymffurfio â Pholisïau AW5 a NSA12 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

(Nodyn: Roedd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman yn dymuno cofnodi iddi ymatal rhag y bleidlais ar y gwelliant yma gan nad oedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021.)

 

45.

CAIS RHIF: 21/0720/15 pdf icon PDF 336 KB

Parhau â chwarela a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 - 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd yn rhan o atodlen amodau Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau, Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013, cyf: 08/1380/10

Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd, CF37 3BG

 

Cofnodion:

Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10 Chwarel Craig yr Hesg, Berw Road, Pontypridd CF37 3BG

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr G Jenkins (Asiant)

·         Mr M Hervey (Gwrthwynebydd)

·         Ms S Griffiths (Gwrthwynebydd)

·         Mr S Pritchard (Gwrthwynebydd)

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr R Davies (Gwrthwynebydd) a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais yn bresennol i wneud hynny.

 

Arferodd yr Asiant, Mr G Jenkins, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr.

 

Siaradodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol H Fychan a'r Cynghorydd M Powell, nad ydyn nhw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi eu pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais yn flaenorol (Cofnod Rhif 41), arferodd yr Aelod o'r Pwyllgor/Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams, ei hawl i annerch y Pwyllgor ar y cais o dan adran 14(2) o'r Cod Ymddygiad. Amlinellodd ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ddilynol).

 

Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan Vikki Howells AS yn gwrthwynebu'r cais. Cafodd 13 llythyr 'hwyr' arall a dderbyniwyd gan drigolion eu crynhoi ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny am eu bod nhw o'r farn bod modd i'r cais niweidio'r amwynder a niweidio lles yr ardal. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

46.

CAIS RHIF: 20/1182 pdf icon PDF 132 KB

Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021).

HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWMBACH, ABERDÂR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Nodwch: Ar y pwynt yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams i'r cyfarfod)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr R Warren (Asiant)

·         Ms K Doughton (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd yr Asiant, Mr R Warren, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol T Williams, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r Datblygiad arfaethedig.

 

Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan yr Aelod nad yw ar y Pwyllgor / Aelod Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Elliott, yn gwrthwynebu'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amodau ychwanegol canlynol, yn unol â chais Isadran y Priffyrdd:

 

·         Amod 11 - Serch y manylion ar y cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno, fydd y datblygiad ddim yn cychwyn nes bod cynlluniau'n cynnwys addasiad i ffin y safle ger y ffordd ddienw / Rhes Morgan i gynnwys llain welededd o 2.4m x 40m o Faes y Pwll wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac wedi'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod.

 

·         Amod 12 - Cyn i'r datblygiad gychwyn, bydd adroddiad yn nodi methodoleg ar gyfer cynnal arolwg amodau o ffyrdd lleol (y gallai'r datblygiad arfaethedig effeithio arnyn nhw) yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig. Dylai'r adroddiad gynnwys: yr amserlenni ar gyfer cynnal yr arolygon a'r dull(iau) o adrodd ar y canfyddiadau i'r Awdurdod Cynllunio Lleol; ffotograffau cynhwysfawr; a threfniadau iawndal posibl. Fydd y datblygiad ddim yn cael ei ddefnyddio nes bydd yr arolwg terfynol (ar ôl cwblhau'r datblygiad a gymeradwyir drwy hyn) ac unrhyw drefniadau iawndal wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig.