Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Democratic Services  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

26.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes, D Grehan a W Owen.

27.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:-

 

1)    Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman wedi datgan buddiant mewn perthynas â chais 20 1182: Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWM-BACH, ABERDÂR

“Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd, ac yntau'n trigolyn lleol, ac mae'r ymgeisydd wedi cysylltu â fi ynghylch dyddiad/amser yr ymweliad â'r safle."

2)    Dywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees ei bod hi'n bosibl y bydd angen iddi ddatgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â chais 21/0665/10: Dwy uned gofal preswyl gyda phedair fflat dwy ystafell wely hunangynhwysol ymhob uned. Adeilad ar wahân i'w ddefnyddio fel swyddfa a golchdy. Tir ger 74 Stryd Corbett, Treherbert, Treorci, CF42 5ET Roedd y Cynghorydd yn meddwl ei bod hi'n adnabod y siaradwr cyhoeddus sy'n siarad ar ran yr ymgeisydd o'i swydd flaenorol ond ni fyddai modd iddi gadarnhau nes ei bod hi'n gweld y siaradwr.

 

28.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

29.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

30.

Cofnodion pdf icon PDF 625 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021 yn rhai cywir.

 

31.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

32.

CAIS RHIF: 21/0023/10 pdf icon PDF 289 KB

Dec uchel yn yr ardd gefn (Derbyniwyd Cynllun Lleoliad y Safle Diwygiedig a Chynllun Bloc 30/06/21)

6 Bryn y Rhosyn Coch, Pentre, CF41 7PU

 

Cofnodion:

Dec uchel yn yr ardd gefn (Derbyniwyd Cynllun Lleoliad y Safle Diwygiedig a Chynllun Bloc 30/06/21) 6 Bryn y Rhosyn Coch, Pentre, CF41 7PU

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mrs C Wall - Ymgeisydd

·         Mr S Wall - Ymgeisydd

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer y ddadl gyfan.)

 

 

33.

CAIS RHIF: 21/0665/10 pdf icon PDF 203 KB

Dwy uned gofal preswyl gyda phedair fflat dwy ystafell wely hunangynhwysol ymhob uned.  Adeilad ar wahân i'w ddefnyddio fel swyddfa a golchdy.

Tir ger 74 Stryd Corbett, Treherbert, Treorci, CF42 5ET

 

Cofnodion:

Dec uchel yn yr ardd gefn (Derbyniwyd Cynllun Lleoliad y Safle Diwygiedig a Chynllun Bloc 30/06/21) 6 Bryn y Rhosyn Coch, Pentre, CF41 7PU

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mrs C Wall - Ymgeisydd

·         Mr S Wall - Ymgeisydd

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer y ddadl gyfan.)

 

 

34.

CAIS RHIF: 20/0882 pdf icon PDF 296 KB

Cais amlinellol ar gyfer 3 annedd preswyl a ffordd fynediad (pob mater wedi'i gadw (derbyniwyd Cynlluniau Ychwanegol 16/11/2020 a 17/12/2020) (derbyniwyd yr Arolwg Ecoleg 18/06/21)

Sunnyside, Ffordd Hirwaun, Penywaun, Aberdâr, CF44 9LL

 

Cofnodion:

Cais amlinellol ar gyfer 3 annedd preswyl a ffordd fynediad (pob mater wedi'i gadw (derbyniwyd Cynlluniau Ychwanegol 16/11/2020 a 17/12/2020) (derbyniwyd yr Arolwg Ecoleg 18/06/21) Sunnyside, Ffordd Hirwaun, Pen-y-waun, Aberdâr, CF44 9LL

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais gan siarad am y newid i'r ffordd y mae Amod 1 wedi'i ysgrifennu:

 

1.    (a) Rhaid i fanylion y cynllun, mynedfa, graddfa, ymddangosiad a thirlunio (a elwir yn “materion wedi'u cadw'n ôl” o hyn ymlaen) gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig a'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i unrhyw waith datblygu ddechrau a rhaid i'r datblygiad gael ei gwblhau fel y'i cymeradwywyd.

 

(b) Rhaid i unrhyw geisiadau am gymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl gael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol heb fod yn hwyrach na 3 blynedd o ddyddiad y caniatâd hwn.

 

(c) Bydd y datblygiad sy'n cael ei ganiatáu drwy hyn yn dechrau cyn diwedd pum mlynedd o ddyddiad y caniatâd cynllunio yma neu cyn pen dwy flynedd o ddyddiad cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl, p'un bynnag yw'r hwyraf.

 

Rhesymau:Cydymffurfio ag Adrannau 92 a 93 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ychwanegu'r Amodau sydd wedi'u hamlinellu uchod.

 

35.

CAIS RHIF: 21/0613 pdf icon PDF 184 KB

Newid defnydd o siop nwyddau'r fyddin (A1) i siop gwrw a bar coctel (A3) gyda drws ffrynt â rholer.

12 Stryd y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST

 

Cofnodion:

Newid defnydd o siop nwyddau'r fyddin (A1) i siop gwrw a bar coctel (A3) gyda drws ffrynt â rholer. 12 Stryd y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr C Rees (Ymgeisydd) a oedd wedi gofyn i annerch yr Aelodau ar y cais yn bresennol i wneud hynny.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Archwiliad o'r Safle i ystyried effaith cerddoriaeth o'r safle ar yr ardal gyfagos.

 

 

36.

CAIS RHIF: 21/0760/15 pdf icon PDF 180 KB

Amrywio Amod 1 - terfyn amser (16/0391/13)

Tir i'r de o 186 Heol y Dwyrain, Tylorstown, Glynrhedynog, CF43 3BY

 

Cofnodion:

Amrywio Amod 1 - terfyn amser (16/0391/13) Tir i'r de o 186 Heol y Dwyrain, Tylorstown, Glynrhedynog, CF43 3BY

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Adams, nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon ynghylch orddatblygu ar y safle, nododd ei fod e ddim yn gwrthwynebu'r cais, er gwaetha'i bryderon.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

37.

CAIS RHIF: 21/0974/10 pdf icon PDF 153 KB

Estyniad deulawr yn y cefn.

236 Heol Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy CF40 2PB.

 

Cofnodion:

Estyniad deulawr yn y cefn. 236 Heol Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy CF40 2PB.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

38.

CAIS RHIF: 20 1182 pdf icon PDF 132 KB

Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021).

HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWM-BACH, ABERDÂR

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWM-BACH, ABERDÂR

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Pwyllgor gohirio'r penderfyniad mewn perthynas â'r cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod gan yr aelodau o'r cyhoedd gyfle i fynychu'r cyfarfod a rhannu'u barn â'r Pwyllgor. 

 

39.

CAIS RHIF: 20/0843/10 pdf icon PDF 396 KB

Annedd arfaethedig.

Tir rhwng Clwb Rygbi Wattstown a 25 Teras Dan-y-graig, Ynys-hir.

 

 

Cofnodion:

Annedd arfaethedig. Tir rhwng Clwb Rygbi Wattstown a 25 Teras Dan-y-graig, Ynys-hir

 

Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd, oedd o blaid y cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020, ac roedd yr Aelodau o blaid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 47).

 

O ganlyniad i hyn, penderfynwyd gohirio'r penderfyniad ar y cais er mwyn derbyn adroddiad pellach i dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwneud penderfyniad sy'n mynd yn groes i argymhelliad y swyddog. Felly cafodd y cais ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu eto ar 5 Tachwedd 2020.

 

Yn y cyfarfod hwnnw penderfynodd yr Aelodau ohirio’r cais er mwyn derbyn adroddiad pellach a fydd yn rhoi cyngor ar sefydlogrwydd y safle a’r domen yn y cefn, yn ogystal â goblygiadau’r cwrs d?r cyfagos sydd i'w gweld yn y ffotograffau o'r safle a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod Pwyllgor.

 

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, roedd gan yr Aelodau bryderon ynghylch sefydlogrwydd y tir y tu cefn i'r safle a diogelwch yr ymgeisydd a'r cyhoedd, PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rheswm canlynol:

 

·         Nid yw'r cais yn profi y bydd y llethr y tu cefn i'r safle'n dderbyniol o ran sefydlogrwydd. O ganlyniad i hynny, byddai'r datblygiad yma'n peri risg i ddiogelwch y cyhoedd ac yn mynd yn groes i Bolisi AW 10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

40.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 108 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 12/07/2021 – 30/07/2021.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 12/07/2021 – 30/07/2021.