Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424110

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill a P. Jarman.

 

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

3.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

4.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

5.

COFNODION pdf icon PDF 196 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

ENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021 yn rhai cywir.

 

6.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

7.

CAIS RHIF: 20/1337/10 pdf icon PDF 89 KB

BIRCHWOOD, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR - Adeiladu 3 annedd ar wahân.   Cadw'r annedd bresennol a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 15/02/2021)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

BIRCHWOOD, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR - Adeiladu 3 annedd ar wahân. Cadw'r annedd bresennol a

gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 15/02/2021)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Andrew Ayles (Gwrthwynebydd). Cafodd e bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Archwiliad o'r Safle i drafod y broblem o ran llifogydd a pha mor agos yw'r datblygiad i eiddo cyfagos.

 

8.

CAIS RHIF: 20/0219/10 pdf icon PDF 125 KB

ENTERPRISE RENT A CAR, HEOL CAERDYDD, Y DDRAENEN WEN, PONTYPRIDD - Canopi newydd ar gyfer y bae golchi ceir. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig pellach, sy'n cynnwys manylion am ddrysau awtomatig y canopi, manyleb y gwneuthurwr a'r datganiad ategol, ar 26/4/21)

 

 

Cofnodion:

ENTERPRISE RENT A CAR, HEOL CAERDYDD, Y DDRAENEN WEN, PONTYPRIDD - Canopi newydd ar gyfer y bae golchi ceir.  (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig pellach, sy'n cynnwys manylion am ddrysau awtomatig y canopi, manyleb y gwneuthurwr a'r datganiad ategol, ar 26/4/21)  

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Liam Farbrace (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

Rhoddodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi amlinelliad o gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Fidler Jones oedd yn nodi rhai pryderon ynghylch y cais a Ms Dawn Parker yn gwrthwynebu'r cais.

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ychwanegu'r nodyn canlynol i'r caniatâd cynllunio:

 

·         Er mwyn sicrhau eglurder, mae diffiniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol o'r term 'glanhau cerbydau', fel sydd wedi'i nodi yn amod 5 a 6, yn cyfeirio at olchi, glanhau, valet y tu fewn neu'r tu fas i'r cerbyd, boed hynny drwy ddefnyddio offer trydanol ai peidio.

 

9.

CAIS RHIF: 20/1345/15 pdf icon PDF 122 KB

Amrywio amod 7 (gwerthu nwyddau) o ganiatâd cynllunio 98/4284/15. CAEAU TIRFOUNDER, CWM-BACH, ABERDÂR

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amrywio amod 7 (gwerthu nwyddau) o ganiatâd cynllunio 98/4284/15. CAEAU TIRFOUNDER, CWM-BACH, ABERDÂR

 

Yn unol â Chofnod Rhif 168 ac 169 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 29 Ebrill 2021, aeth y pwyllgor ati i drafod adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd, sy'n amlinellu'r archwiliad o'r safle a gafodd ei gynnal ar 30 Mai 2021 mewn perthynas â'r cais uchod a chais 20/1346/15 isod. Roedd hyn mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Materion Cynllunio.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Rob Mitchell (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod, a chais 20/1345/15 sydd wedi'i nodi yng nghofnod 9 isod, i'r Aelodau.

 

Yn ogystal â hynny amlinellodd gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd a oedd yn gwrthwynebu'r cais.

 

Clywodd yr Aelodau gan y Swyddog Rheoli Perygl Llifogydd a aeth i'r afael â phryderon yr Aelodau ynghylch y posibilrwydd o lifogydd ar y safle.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

10.

CAIS RHIF: 20/1346/15 pdf icon PDF 122 KB

Amrywio amod 1 o'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo yn rhan o ganiatâd cynllunio 18/0366/39. CAEAU TIRFOUNDER, CWM-BACH, ABERDÂR

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amrywio amod 1 o'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo yn rhan o ganiatâd cynllunio 18/0366/39.  CAEAU TIRFOUNDER, CWM-BACH, ABERDÂR

 

Yn unol â'r manylion uchod yng nghofnod 9, cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYDcymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

11.

Cais 20/1336/15 pdf icon PDF 140 KB

Y TIR GER FFERM FERNHILL, ODDI AR STRYD CAROLINE/STRYD Y NANT, BLAENRHONDDA - Diddymu amod 13 (Arolwg strwythurol o'r bont ffordd) o ganiatâd cynllunio 19/0882/10 ar gyfer ffermdy dros dro, cabanau gwersylla moethus, storfa a gwaith datblygu cysylltiedig.

 

 

Cofnodion:

Y TIR GER FFERM FERNHILL, ODDI AR STRYD CAROLINE/STRYD Y NANT, BLAENRHONDDA - Diddymu amod 13 (Arolwg strwythurol o'r bont ffordd) o ganiatâd cynllunio 19/0882/10 ar gyfer ffermdy dros dro, cabanau gwersylla moethus, storfa a gwaith datblygu cysylltiedig..

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

12.

CAIS RHIF: 20/1342/10 pdf icon PDF 124 KB

11 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig (storfa finiau wedi'i hadleoli a man amwynder a rennir) a lluniau/gweddluniau ychwanegol mewn perthynas â llain 6, ar 9 Mawrth 2021.

HEN YSGOL GYNRADD MEISGYN, HEOL YR YSGOL, MEISGYN, PONT-Y-CLUN

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig.  Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig (storfa finiau wedi'i hadleoli a man amwynder a rennir) a lluniau/gweddluniau ychwanegol mewn perthynas â llain 6, ar 9 Mawrth 2021.

HEN YSGOL GYNRADD MEISGYN, HEOL YR YSGOL, MEISGYN,

PONT-Y-CLUN

 

Yn unol â Chofnod Rhif:  166 o gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 29 Ebrill 2021, aeth y Pwyllgor ati i drafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 18 Mai 2021 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Yn ogystal â hynny amlinellodd gynnwys 4 llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd, a oedd yn gwrthwynebu'r cais.

 

Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio wybod i'r Aelodau am ddiweddariad a dderbyniwyd gan Cadw yn ystod y cyfarfod mewn perthynas â chais i sefydlu'r safle'n safle rhestredig. Rhoddodd wybod i'r Aelodau bod Cadw wedi ymateb gan nodi nad oedd y safle'n bodloni'r meini prawf ar gyfer adeilad rhestredig.

 

Aeth ymlaen i gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb Adran 106, sy'n gofyn i'r datblygwr sicrhau bod anheddau'n cael eu sefydlu a'u cadw'n unedau fforddiadwy, at ddibenion parhaus bodloni'r anghenion lleol sydd wedi'u nodi o ran tai.

 

13.

CAIS RHIF: 20/1171/10 pdf icon PDF 120 KB

Y TIR CYFERBYN Â 186 HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3BY (HEN SAFLE CAPEL Y BEDYDDWYR) - Adeiladu 4 o dai teras gyda maes parcio cwrtil cysylltiedig oddi ar y fynedfa gefn.

 

 

 

Cofnodion:

Y TIR CYFERBYN Â 186 HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3BY (HEN SAFLE CAPEL Y BEDYDDWYR) - Adeiladu 4 o dai teras gyda maes parcio cwrtil cysylltiedig oddi ar y fynedfa gefn

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

Rhoddodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi amlinelliad o gynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd gan Mr Stephen Waldren (Asiant), a oedd yn cefnogi'r cais.

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 20 Mai 2021, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 184).

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol:

 

  • O ganlyniad i'r dyluniad a'r cynllun, bydd yr anheddau arfaethedig yn cynnig cyfleusterau parcio anaddas ac annigonol a byddai'n sefydlu cyfleuster parcio ar ochr y ffordd yn yr ardal, a fydd yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y priffyrdd. Yn ogystal â hynny, byddai mas a dwysedd yr anheddau'n ormodol, gan arwain at orddatblygu ar y safle. Bydd hyn felly yn cael effaith negyddol ar olwg y stryd. Ni fyddai'r datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi AW5 ac AW6 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf na chanllawiau cynllunio atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Gofynion Parcio.

 

 

 

14.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad Paragraff 12 o Atodlen 12(A) o'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau i basio'r penderfyniad heb ei grybwyll:

 

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad Paragraff 12 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

 

15.

EN 21/00171

Tir yn Rose Row, Heol Penderyn, Hirwaun - Newid defnydd y tir er mwyn lleoli carafanau at ddibenion preswyl (safle Sipsiwn/Teithwyr ar gyfer un teulu) -

 

 

 

Cofnodion:

TIR YN ROSE ROW, HEOL PENDERYN, HIRWAUN - Newid

defnydd y tir er mwyn lleoli carafanau at ddibenion preswyl

(safle Sipsiwn/Teithwyr ar gyfer un teulu)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r adroddiad i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo cymryd camau gweithredu yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, ond yn amodol ar leihau'r amser a argymhellwyd ar gyfer cydymffurfio o 12 mis i 6 mis o ddyddiad dod i rym yr hysbysiad. Mae hyn oherwydd bod y datblygiad yn cynyddu'r defnydd o'r lôn sydd heb ddigon o leiniau gwelededd, man troi, sydd ddim yn ddigon llydan o ran y ffordd gerbydau, sydd heb gilfachau pasio na chyfanrwydd strwythurol digonol. Byddai hyn yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y priffyrdd a llif y traffig ar yr A4059, o ganlyniad i hyn, mae'r Pwyllgor o'r farn nad yw'r datblygiad yn cydymffurfio â Pholisïau AW5 ac NSA12 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

16.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 51 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 10/05/2021 – 11/06/2021

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 10/05/2021 – 11/06/2021.