Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385 411807

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

172.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees wedi datgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â Chais Rhif: 21/0378- Estyniad rhannol ddeulawr, rhannol unllawr o'r ysgol bresennol i greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ac estyniad i'r neuadd, ynghyd â chyfleuster gofal plant Cymraeg hygyrch. Bydd yn cynnwys estyniad i'r maes parcio ac ardal chwarae wyneb caled ychwanegol. Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Rhodfa'r Tresi Aur, Cwmdâr, Aberdâr, CF44 8RT.

 

"Rydw i'n Llywodraethwr yn yr ysgol hon ac yn Llywodraethwr Cysylltiadau Cymunedol felly wedi trafod y cais gyda'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan y cais".

 

173.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

174.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

175.

Cofnodion pdf icon PDF 117 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

176.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

177.

CAIS RHIF: 21/0378 pdf icon PDF 241 KB

Estyniad rhannol ddeulawr, rhannol unllawr o'r ysgol bresennol i greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ac estyniad i'r neuadd, ynghyd â chyfleuster gofal plant Cymraeg cwbl hygyrch. Yn cynnwys estyniad i'r maes parcio ac ardal chwarae wyneb caled ychwanegol.

Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Rhodfa'r Tresi Aur, Cwmdâr, Aberdâr, CF44 8RT

 

Cofnodion:

Estyniad rhannol ddeulawr, rhannol unllawr o'r ysgol bresennol i greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ac estyniad i'r neuadd, ynghyd â chyfleuster gofal plant Cymraeg cwbl hygyrch. Bydd yn cynnwys estyniad i'r maes parcio ac ardal chwarae wyneb caled ychwanegol.

Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Rhodfa'r Tresi Aur, Cwmdâr, Aberdâr, CF44 8RT

 

Nodwch: Ar ôl datgan buddiant mewn perthynas â'r cais uchod, a oedd hefyd yn fuddiant sy'n rhagfarnu, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees wedi gadael ei rôl fel Cadeirydd a chyflawnodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple rôl y Cadeirydd ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda).

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr Phil Baxter (Asiant)

·         Mr Peter Cobley (Gwrthwynebydd)

·         Ms Lorna Cobley (Gwrthwynebydd)

·         Mr Terry Davies (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd yr Asiant, Mr Phil Baxter, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.

 

Ar ôl datgan buddiant mewn perthynas â'r cais (Cofnod Rhif 172), arferodd yr Aelod o'r Pwyllgor/Aelod Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S. Rees ei hawl i annerch y Pwyllgor o dan adran 14(2) o'r Côd Ymddygiad. Amlinellodd ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a ddilynodd.

 

Darllenodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Mr a Mrs Davies, a oedd yn amlinellu'u gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Hefyd, rhoddodd amlinelliad o gynnwys 2 lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer y ddadl gyfan.)

 

(Nodwch: Eiliwyd cynnig i gynnal ymweliad safle i ystyried materion llygredd, cynllun y safle a materion draenio ond nid oedd y cynnig yma'n llwyddiannus)

 

178.

CAIS RHIF: 20/1145/10 pdf icon PDF 143 KB

Cadw a chwblhau estyniad cefn unllawr, cadw balconi cefn uchel ar y llawr cyntaf, newid defnydd ystafell stoc i ardal clicio a chasglu estyniad storfa ac unllawr. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 05/04/21).

Tafarn y Carpenters Arms, Heol Ffrwd Philip, Efail Isaf, Pontypridd, CF38 1AR

 

Cofnodion:

Cadw a chwblhau estyniad cefn unllawr, cadw balconi cefn uchel ar y llawr cyntaf, newid defnydd ystafell stoc i ardal clicio a chasglu estyniad storfa ac unllawr. (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 05/04/21) Tafarn Carpenters Arms, Heol Ffrwd Philip, Efail Isaf, Pontypridd, CF38 1AR

 

(Nodwch: Dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees i'r cyfarfod gan ailgydio yn ei rôl fel Cadeirydd).

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan y cyfarfod.)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr Chris Davies (Ymgeisydd)

·         Mr David Rees (Gwrthwynebydd)

·         Ms Tracey Rees (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd yr Ymgeisydd, Mr Chris Davies, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.

 

Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi cynnwys datganiad ysgrifenedig gan Mr Rees Williams yn amlinellu ei bryderon.

 

(Nodwch: Ar yr adeg hon, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill wedi datgan buddiant personol ac sy'n rhagfarnu mewn perthynas â'r cais hwn.

 

Rydw i'n adnabod un o'r siaradwyr a gan fy mod i'n Aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu a gan ystyried bod materion trwyddedu yn cael eu nodi fel cam gorfodi posibl mewn perthynas â'r cais yma, fydda i ddim yn cymryd rhan yn y cais hwn"

 

Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â'r cais yma hefyd:

 

Rwy'n Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a gan ystyried bod materion trwyddedu yn cael eu nodi fel cam gorfodi posibl mewn perthynas â'r cais yma, fydda i ddim yn cymryd rhan yn y cais hwn."

 

Gadawodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Powderhill a D Williams y cyfarfod ar y pwynt hwn.)

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol canlynol sy'n gofyn bod y balconi dim ond yn cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl.

 

(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen wedi ymatal o'r bleidlais)

 

179.

CAIS RHIF: 21/0038

Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon (Arfaethedig) ar gyfer cartref plant preswyl yn Nosbarth Defnydd C3.

16 Llanerch Goed, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, CF38 2TB.

 

Cofnodion:

Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon (Arfaethedig) ar gyfer cartref plant preswyl yn Nosbarth Defnydd C3.

16 LLANERCH GOED, LLANILLTUD FAERDREF, PONTYPRIDD, CF38 2TB

 

(Nodwch: Ar ôl gadael y cyfarfod yn gynharach, dychwelodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill a D Williams i'r cyfarfod.)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Graham Jenkins (Gwrthwynebydd). Cafodd e bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys tri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

 

·         Mr J Pain (Ymgeisydd)

·         Ms Gronow (Gwrthwynebydd)

·         Mr Roche (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Evans (Gwrthwynebydd)

·         Mr a Mrs Swaysland (Gwrthwynebwyr)

·         Mr a Mrs Jones (Gwrthwynebydd)

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl ei drafod PENDERFYNWYD  cyflwyno Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Defnydd Arfaethedig).

180.

CAIS RHIF: 21/0075/10 pdf icon PDF 142 KB

Garej ac iard galed y tu ôl i'r eiddo.

59B Heol Pantygraigwen, Pantygraigwen, Pontypridd, CF37 2RS

 

Cofnodion:

Garej ac iard galed y tu ôl i'r eiddo.

59B Heol Pantygraigwen, Pantygraigwen, Pontypridd, CF37 2RS

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

181.

CAIS RHIF: 21/0207/10 pdf icon PDF 150 KB

Maes parcio newydd gyda phymtheg o leoedd, gan gynnwys un ardal i bobl anabl ac ardal gollwng/casglu teithwyr. 

Clos y Ddôl Hir, Hirwaun

 

Cofnodion:

Maes parcio newydd gyda phymtheg o leoedd, gan gynnwys un ardal i bobl anabl ac ardal gollwng/casglu teithwyr. Clos y Ddôl Hir, Hirwaun

 

Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Ms R Powell a'r Cynghorydd Gymuned ar gyfer ardal Hirwaun a Phenderyn, R Jones.

 

Siaradodd yr Aelod nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor/Aelod Lleol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan am y cais gan nodi nifer o bryderon yngl?n â'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac amod ychwanegol sy'n gofyn bod mannau parcio hygyrch ychwanegol yn cael eu darparu yn y maes parcio.

 

182.

CAIS RHIF: 21/0269/16 pdf icon PDF 806 KB

Mae'r cais materion neilltuedig yn ceisio cymeradwyaeth i'r holl faterion neilltuedig sy'n weddill (cynllun, graddfa, ymddangosiad a thirlunio) sy'n ymwneud â chais cynllunio 18/0302/08.

TIR I'R GORLLEWIN O SAFLE GWAREDU GWASTRAFF BRYN PICA, HEOL MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0BX

 

Cofnodion:

Mae'r cais materion neilltuedig yn ceisio cymeradwyaeth i'r holl faterion neilltuedig sy'n weddill (cynllun, graddfa, ymddangosiad a thirlunio) sy'n ymwneud â chais cynllunio 18/0302/08.

TIR I'R GORLLEWIN O SAFLE GWAREDU GWASTRAFF BRYN PICA, HEOL MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0BX

 

Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar nodi amod ychwanegol sy'n rhestru'r cynlluniau a'r dogfennau wedi'u cymeradwyo.

 

183.

RHEOL 8 - DULL GWEITHREDU'R CYNGOR

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y byddai'r Pwyllgor yn parhau â'r cyfarfod yn unol â

Rheol 8 o Ddull Gweithredu'r Cyngor, a hynny fel bod modd trafod yr eitemau sy'n weddill ar yr agenda.

 

184.

CAIS RHIF: 20/1171 pdf icon PDF 123 KB

Adeiladu 4 o dai teras gyda maes parcio cwrtil cysylltiedig oddi ar y fynedfa gefn.

Tir Ger 186 Heol y Dwyrain, Tylorstown, CF43 3BY (Hen Safle Capel y Bedyddwyr)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adeiladu 4 o dai teras gyda maes parcio cwrtil cysylltiedig oddi ar y fynedfa gefn.

Tir Ger 186 Heol y Dwyrain, Tylorstown, CF43 3BY (Hen Safle Capel y Bedyddwyr)

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Adams yn amlinellu ei bryderon mewn perthynas â'r cais.

 

Darllenodd gynnwys datganiad ysgrifenedig ar ran Mr S Waldren (Asiant) hefyd.

 

Yn unol â chofnod 110 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 25 Chwefror 2021, roedd y Pwyllgor wedi trafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad safle a gafodd ei gynnal ar 5 Mai 2021 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Yn dilyn trafodaeth, roedd yr Aelodau o blaidgwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr, Ffyniant a Datblygu gan fod yr Aelodau o'r farn y byddai nifer cynyddol o gerbydau yn parcio ar Stryd y Dwyrain a bod diffyg mesurau diogelwch ar gyfer cerbydau sy'n parcio tu cefn i'r safle arfaethedig, pryderon ynghylch gorddatblygu ar y safle gan arwain at ormod o gerbydau o yn defnyddio'r maes parcio a gadarnhawyd, pryderon ynghylch pa mor addas yw'r lôn heb ei mabwysiadu a'r nifer gyfyngedig o gerbydau sy'n teithio ar y lôn ar hyn o bryd. Felly, bydd y mater yn cael ei ohirio i'r cyfarfod addas nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu er mwyn i'r Cyfarwyddwr materion Ffyniant a Datblygu, ynghyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (os oes angen), gyflwyno adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a gwendidau posibl sy'n gysylltiedig â mynd yn groes i argymhelliad y swyddog neu unrhyw reswm posibl neu sydd wedi'i gynnig ar gyfer gwneud penderfyniad o'r math.

 

185.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 49 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 19/04/2021 – 07/05/2021

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 19/04/2021 – 07/05/2021.