Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Adeiladu t? newydd sy'n defnyddio'r trac mynediad presennol ar y safle. (Derbyniwyd Asesiad o'r Effaith Ecolegol diwygiedig ar 16/04/2021) (derbyniwyd cynllun safle'r lleoliad diwygiedig ar 21/07/2021). TIR AR GLOS TYNYBEDW, TREORCI, CF42 6RN
Cofnodion: Adeiladu t? newydd sy'n defnyddio'r trac mynediad presennol ar y safle. (Derbyniwyd Asesiad o'r Effaith Ecolegol diwygiedig ar 16/04/2021) (Derbyniwyd cynllun safle'r lleoliad diwygiedig ar 21/07/2021). TIR AR GLOS TYNYBEDW, TREORCI, CF42 6RN
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr P Williams (Asiant) · Ms L Lumby (Gwrthwynebydd) · Ms B Cennard (Gwrthwynebydd) Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr N Searle (Gwrthwynebydd) a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais yn bresennol i wneud hynny. Bu'r Asiant yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth hir am y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar newid i Amod 8 i gynnwys manylion mynediad newydd i'r bont a'r cwlfert. (Nodwch: Roedd y Cynghorwr Bwrdeistref Sirol J Williams am gofnodi ei bod hi wedi pleidleisio yn erbyn cymeradwyo'r cais uchod). (Nodyn: Roedd y cynnig i gynnal ymweliad i'r safle i weld y mynediad i'r priffyrdd yn aflwyddiannus)
|
|
CAIS RHIF: 21/0591/10 PDF 198 KB Bloc Stablau a Manège (Tystysgrif Perchenogaeth 'B' diwygiedig wedi dod i law ar 7 Gorffennaf 2021. Cynlluniau diwygiedig â newidiadau i'r safle - ailosod y bloc stablau a lleihau ei faint wedi dod i law ar 31 Awst 2021) Tir i'r de o 25-41 Stryd Kennard, Tonpentre
Cofnodion: Bloc Stablau a Manège (Tystysgrif Perchenogaeth 'B' diwygiedig wedi dod i law ar 7 Gorffennaf 2021. Cynlluniau diwygiedig â newidiadau i'r safle - ailosod y bloc stablau a lleihau ei faint wedi dod i law ar 31 Awst 2021) Tir i'r de o 25-4 Stryd Kennard, Tonpentre.
PENDERFYNWYD gohirio'r cais i gynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu er mwyn trafod effaith posibl cymeradwyo bloc o stablau ger y tai preswyl cyfagos.
Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol er mwyn annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma y byddai raid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw wneud hynny.
|
|
Ffensio gerddi ac ehangu'r dreif. 14 HEOL-Y-SARN, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8DB
Cofnodion: Ffensio'r ardd ac ehangu'r dreif. 14 HEOL-Y-SARN, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8DB
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms R Newland (Ymgeisydd) · Ms K Nicholls (Gwrthwynebydd) · Ms D Nicholls-Davies (Gwrthwynebydd)
Bu'r Ymgeisydd yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio amod 2 (cynlluniau) caniatâd cynllunio 17/0321/10, i leihau uchder canolbwynt a blaen y tyrbin. (Derbyniwyd cynllun diwygiedig gyda'r tyrbin newydd ar 9 Awst 2021). TIR GER SAFLE TIRLENWI NANT-Y-GWYDDON
Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau) caniatâd cynllunio 17/0321/10, i leihau uchder canolbwynt a blaen y tyrbin. (Derbyniwyd cynllun diwygiedig gyda'r tyrbin newydd ar 9 Awst 2021). TIR GER SAFLE TIRLENWI NANT-Y-GWYDDON
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys 15 llythyr 'hwyr' a ddaeth i law yn gwrthwynebu'r cais.
Parhaodd i gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hirfaith, roedd yr Aelodau'n bwriadu gwrthod y cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd gan yr Aelodau bryderon ynghylch diogelu'r bilen pe bai'r datblygiad yn mynd rhagddo.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Trosi'r eglwys yn 8 fflat (Ail-gyflwyno 19/0829/10). EGLWYS CALFARI, HEOL Y COED, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cofnodion: Trosi'r eglwys yn 8 fflat (Ail-gyflwyno cais 19/0829/10). EGLWYS CALFARI, HEOL Y COED, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio ei gais i'w Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn nad oedd safon y llety ddigon da, ac roedd ganddyn nhw bryderon byddai'r safle'n cael ei orddatblygu.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Codi tyrbin gwynt unigol a'r gwaith seilwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd y Datganiad Dull Cludo Ceblau ar 2 Awst 2021) TIR AR FFERM RHIWFELIN FACH, HEOL LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ
Cofnodion: Codi tyrbin gwynt unigol a'r gwaith seilwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd y Datganiad Dull Cludo Ceblau ar 2 Awst 2021) TIR AR FFERM RHIWFELIN FACH, HEOL LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar Gytundeb o dan Adran 106 ar gyfer Cynllun Rheoli Cynefin er mwyn cynnal y gwaith lliniaru a gwaith gwella ecolegol yn Nodyn Ardal Darged 2, fel sydd wedi'i amlinelli yn yr Asesiad Ecolegol.
|
|
Estyniad arfaethedig, addasiadau mewnol, trawsnewid storfa oer ar wahân yn fragdy meicro ar y safle a gosod paneli solar PV ar y to. TAFARN BUNCH OF GRAPES, 40 HEOL YNYSANGHARAD, PONTYPRIDD, CF37 4DA
Cofnodion: Estyniad arfaethedig, addasiadau mewnol, trawsnewid storfa oer ar wahân yn fragdy meicro ar y safle a gosod paneli solar PV ar y to. TAFARN BUNCH OF GRAPES, 40 HEOL YNYSANGHARAD, PONTYPRIDD, CF37 4DA
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
2 bâr o dai pâr. Tir i'r de o Deras y Taf, Cwm Clydach, Tonypandy
Cofnodion: 2 bâr o dai pâr. Tir i'r de o Deras y Taf, Cwm Clydach, Tonypandy
Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys dau lythyr 'hwyr' gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol R. Norris, nad yw'n aelod o'r pwyllgor, a swyddog o Adran Eiddo'r Cyngor, Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i archwilio'r mater ynghylch yr hawliau tramwy.
|
|
Newid Defnydd Arfaethedig o siop fanwerthu i siop gludfwyd 27 Stryd y Nant, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1RB
Cofnodion: Newid Defnydd Arfaethedig o siop fanwerthu i siop gludfwyd 27 Stryd y Nant, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1RB
Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan fusnes gerllaw a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Parhaodd drwy gyflwyno'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/0158/10 PDF 332 KB Dymchwel 2 adeilad masnachol presennol er mwyn adeiladu adeilad newydd, pwrpasol gyda storfa / ystafell dorri ac ystafell arddangos ynghyd â maes parcio, tirlunio a gwaith ategol. (Derbyniwyd Adroddiad Ystlumod 26/10/20) (Derbyniwyd Dadansoddiad Llwybr i Gerbydau 29/01/21) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig 07/07/21). Leeway Carpets and Flooring, 500-555 Ffordd Llantrisant, Penycoedcae,Pontypridd, CF37 1PL
Cofnodion: Dymchwel 2 adeilad masnachol presennol er mwyn adeiladu adeilad newydd, pwrpasol gyda storfa / ystafell dorri ac ystafell arddangos ynghyd â maes parcio, tirlunio a gwaith ategol. (Derbyniwyd Adroddiad Ystlumod 26/10/20) (Derbyniwyd Dadansoddiad Llwybr i Gerbydau 29/01/21) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig 07/07/21). Leeway Carpets and Flooring, 500-555 Ffordd Llantrisant, Penycoedcae, Pontypridd, CF37 1PL
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Gwaredu amod 13 (waliau cynnal) o ganiatâd cynllunio cyf: 21/0378/08. Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Rhodfa'r Tresi Aur, Cwm-bach
Cofnodion: Gwaredu amod 13 (waliau cynnal) o ganiatâd cynllunio cyf: 21/0378/08. Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Rhodfa'r Tresi Aur, Cwm-bach
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 21/1088/10 PDF 223 KB Llwyfan wedi'i godi yng nghefn cartref preswyl 3 llawr i'w ddefnyddio feldihangfa dân. (Ailgyflwyno cais 21/0442/10). 25 Stryd Thomas, Tonypandy.
Cofnodion: Llwyfan wedi'i godi yng nghefn cartref preswyl 3 llawr i'w ddefnyddio fel dihangfa dân. (Ailgyflwyno cais 21/0442/10). 25 Stryd Thomas, Tonypandy.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod nhw o'r farn na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith ormesol nac yn arwain at edrych dros eiddo cyfagos. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 27/09/2021 – 08/10/2021
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 27/09/2021 – 08/10/2021.
|