Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2021 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2021 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Adeilad i hwyluso'r broses o adleoli'r iard stoc drig (Derbyniwyd y Cynllun Rheoli Aroglau ar 30 Medi 2021, Derbyniwyd Datganiad gan y Milfeddyg a chynlluniau diwygiedig, gan leihau maint yr adeilad a gwella'r dirwedd ar 18 Hydref 2021) Y CAE GER CROFFT YR HAIDD, CASTELLAU, BEDDAU, PONT-Y-CLUN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeilad i hwyluso'r broses o adleoli'r iard stoc drig (Derbyniwyd y Cynllun Rheoli Aroglau ar 30 Medi 2021, Derbyniwyd Datganiad gan y Milfeddyg a chynlluniau diwygiedig, gan leihau maint yr adeilad a gwella'r dirwedd ar 18 Hydref 2021) CAE, CROFT YR HAIDD, CASTELLAU, BEDDAU, PONT-Y-CLUN.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
Mr Ieuan Williams (Asiant) Mr Bob Stephenson (Asiant) Ms Susan Morris (Gwrthwynebydd) Mr Simon Young (Gwrthwynebydd) Mr Matthew Paul, Bargyfreithiwr ar gyfer Mr Robert Bevan (Gwrthwynebydd) – Cyflwyniad wedi'i Recordio
Nododd y Pwyllgor nad oedd Ms Carol Feehan (Gwrthwynebydd), a oedd wedi gwneud cais i annerch Aelodau ar y cais, yn bresennol i wneud hynny.
Arferodd yr Asiant, Mr Ieuan Williams, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Owen-Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys 12 llythyr 'hwyr' a ddaeth i law ynghylch y cais. Derbyniwyd deg llythyr 'hwyr' yn gwrthwynebu'r cais, gan gynnwys llythyr oddi wrth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd D Owen-Jones, a'r gweddill gan drigolion lleol. Derbyniwyd dau lythyr 'hwyr' pellach yn cefnogi'r cais, gan gynnwys llythyr oddi wrth Mr I Williams (Asiant) a thrigolyn lleol.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Parhau i ddefnyddio'r llawr gwaelod at ddibenion manwerthu, newid defnydd ac ailddatblygu lloriau uchaf yr eiddo i ddarparu 6 fflat preswyl ag 1 ystafell wely ac un fflat â 2 ystafell wely. 44-49 STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DG
Cofnodion: Parhau i ddefnyddio'r llawr gwaelod at ddibenion manwerthu, newid defnydd ac ailddatblygu lloriau uchaf yr eiddo i ddarparu 6 fflat preswyl ag 1 ystafell wely ac un fflat â 2 ystafell wely. NEW LOOK, 58 STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DG.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Phil Baxter (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill rhag pleidleisio ar yr eitem hon oherwydd nad oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl lawn).
|
|
Gwaith peirianneg y priffyrdd arfaethedig gan gynnwys y fynedfa i'r safle (derbyniwyd cynllun y safle p21/0946 ar 27/10/21) TIR AR SAFLE HEN YSBYTY ABERDÂR, HEOL ABERNANT, ABER-NANT, ABERDÂR
Cofnodion: Gwaith peirianneg y priffyrdd arfaethedig gan gynnwys y fynedfa i'r safle (derbyniwyd cynllun y safle p21/0946 ar 27/10/21) TIR AR SAFLE HEN YSBYTY ABERDÂR, HEOL ABER-NANT, ABER-NANT, ABERDÂR
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Rob Davies (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol S Bradwick ac M Forey, nad ydyn nhw'n Aelodau o'r Pwyllgor, ar y cais, gan ddweud eu bod nhw'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig. Serch hynny, nodwyd pryderon a godwyd gan drigolion Aber-nant ynghylch datblygiad y safle yn y dyfodol a diffyg ymgynghori cyhoeddus gan WDL Homes Ltd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio Amodau Caniatâd Cynllunio 17/0246/10 - 1 Ymestyn y terfyn amser a 2 Amnewid y cynllun sydd wedi'i gymeradwyo (gweithredu cynllun diwygiedig B hdw.ph/may.2001 yn lle cynllun diwygiedig A hdw/ph/may.2001). HEULWEN DEG, BYTHYNNOD Y GRAIG, GRAIG-WEN, PONTYPRIDD, CF37 2EF
Cofnodion: Amrywio Amodau Caniatâd Cynllunio 17/0246/10 - 1. Ymestyn y terfyn amser a 2. Amnewid y cynllun sydd wedi'i gymeradwyo (gweithredu cynllun diwygiedig B hdw.ph/may.2001 yn lle cynllun diwygiedig A hdw/ph/may.2001). HEULWEN DEG, BYTHYNNOD Y GRAIG, GRAIG-WEN, PONTYPRIDD, CF37 2EF
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Rob Hathaway (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cyflwyno manylion cais materion wedi'u cadw'n ôl (yn unol ag amod 9 o ganiatâd cynllunio 19/0380/15) ar gyfer Cam 2 gwaith y priffyrdd, sy'n cynnwys gwaith ailfodelu Ffordd Bleddyn a Heol Caerdydd, gan gynnwys adeiladu pontydd i hwyluso mynediad i'r depo trenau arfaethedig yn Ffynnon Taf; ynghyd â chyflwyno deunyddiau a manylion triniaeth ffiniau, sy'n berthnasol i Gam 2 (yn unol ag amodau 28 a 30 o ganiatâd cynllunio 19/0380/15); a chynllun cam wrth gam wedi'i ddiweddaru (yn unol ag amod 41 o ganiatâd cynllunio 19/0380/15). (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol a/neu newydd: 14/09/21 (Astudiaeth Ddichonoldeb Maes Parcio Gorsaf Drenau Ffynnon Taf (05/08/21)) TIR AR SAFLE YSTAD DDIWYDIANNOL GARTH WORKS A GORSAF DRENAU FFYNNON TAF, I'R GORLLEWIN O'R A470
Cofnodion: Cyflwyno manylion cais materion wedi'u cadw'n ôl (yn unol ag amod 9 o ganiatâd cynllunio 19/0380/15) ar gyfer Cam 2 gwaith y priffyrdd, sy'n cynnwys gwaith ailfodelu Ffordd Bleddyn a Heol Caerdydd, gan gynnwys adeiladu pontydd i hwyluso mynediad i'r depo trenau arfaethedig yn Ffynnon Taf; ynghyd â chyflwyno deunyddiau a manylion triniaeth ffiniau, sy'n berthnasol i Gam 2 (yn unol ag amodau 28 a 30 o ganiatâd cynllunio 19/0380/15); a chynllun cam wrth gam wedi'i ddiweddaru (yn unol ag amod 41 o ganiatâd cynllunio 19/0380/15). (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol a/neu newydd: 14/09/21 (Astudiaeth Ddichonoldeb Maes Parcio Gorsaf Drenau Ffynnon Taf (05/08/21)) TIR AR SAFLE YSTAD DDIWYDIANNOL GARTH WORKS A GORSAF DRENAU FFYNNON TAF, I'R GORLLEWIN O'R A470
Ar yr adeg yma, penderfynodd y Pwyllgor y byddai'r cyfarfod yn parhau am fwy na 3 awr.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Sam Taylor (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau, a chais 21/0568 sydd wedi'i nodi yng nghofnod 169 isod.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn am:
· Talu swm ariannol (yr union ffigur i’w gytuno) tuag at gostau’r Cyngor o ran penodi swyddog rheoleiddio/gorfodi traffig i helpu i orfodi unrhyw orchmynion rheoli traffig sydd mewn grym yn Ffynnon Taf yn ystod cyfnod adeiladu’r holl ddatblygiad (nid yn unig y gwaith priffyrdd Cam 2)
· Bod yr ymgeisydd/datblygwr yn darparu o leiaf 178 o leoedd parcio i wasanaethu Gorsaf Drenau Ffynnon Taf. Bod yr ymgeisydd/datblygwr yn cadarnhau pa un o blith pedwar opsiwn a gyflwynwyd y bydd yn mynd ar ei drywydd erbyn 30 Ebrill 2023, a darparu'r lleoedd parcio hyn erbyn diwedd cyfnod prydles bresennol y maes parcio. Na fydd y datblygiad yn gweithredu oni bai bod lleiafswm o 178 o leoedd parcio cyhoeddus ar gael i wasanaethu Gorsaf Drenau Ffynnon Taf.
Cytunwyd hefyd y byddai'r Pennaeth Cynllunio'n cyflwyno llythyr i Drafnidiaeth Cymru ar ran y Pwyllgor i fynegi’r angen am waith ymgysylltu llawn a phriodol â’r gymuned leol yn ystod y broses adeiladu.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams y cyfarfod (6.13pm))
|
|
Cais materion wedi'u cadw'n ôl (yn unol ag elfen amlinellol o gais 19/0380/15) a gafodd ei gyflwyno mewn perthynas â Cham 3 y datblygiad - adeiladu Prif Adeilad y Depo ar gyfer Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, Metro De Cymru (bydd yn cynnwys sied cynnal a chadw, adeilad sy'n cynnwys swyddfeydd; cyfleuster sandio; adeilad golchi cerbydau ac ystafell beiriannau; cyfleuster golchi a glanhau'r ffrâm isaf; seilwaith trydanol cysylltiedig (generadur, ystafelloedd trydan foltedd isel a foltedd uchel); porthdy; maes parcio i staff ac ymwelwyr; traciau mewnol, man cadw trenau a seilwaith llinell drydan uwchben cysylltiedig, nenbontydd a mannau archwilio) ynghyd â gwaith ategol sy'n cynnwys gwaith ffensio, goleuadau, diogelwch a thirlunio. (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol a/neu newydd ar: 08/07/21 (Cynlluniau trefniant cyffredinol y priffyrdd, cynllun(iau) trawstoriad y droedffordd a chynllun(iau) ar gyfer troedffordd/llwybr beicio a rennir/ar wahân; 14/09/21 (Astudiaeth Ddichonoldeb Maes Parcio Gorsaf Drenau Ffynnon Taf (05/08/21)). Y TIR AR HEN YSTAD DDIWYDIANNOL GARTH WORKS.
Cofnodion: Cais materion wedi'u cadw'n ôl (yn unol ag elfen amlinellol o gais 19/0380/15) a gafodd ei gyflwyno mewn perthynas â Cham 3 y datblygiad - adeiladu Prif Adeilad y Depo ar gyfer Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, Metro De Cymru (bydd yn cynnwys sied cynnal a chadw, adeilad sy'n cynnwys swyddfeydd; cyfleuster sandio; adeilad golchi cerbydau ac ystafell beiriannau; cyfleuster golchi a glanhau'r ffrâm isaf; seilwaith trydanol cysylltiedig (generadur, ystafelloedd trydan foltedd isel a foltedd uchel); porthdy; maes parcio i staff ac ymwelwyr; traciau mewnol, man cadw trenau a seilwaith llinell drydan uwchben cysylltiedig, nenbontydd a mannau archwilio) ynghyd â gwaith ategol sy'n cynnwys gwaith ffensio, goleuadau, diogelwch a thirlunio. (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol a/neu newydd: 08/07/21 (Cynlluniau trefniant cyffredinol y priffyrdd, cynllun(iau) trawstoriad y droedffordd a chynllun(iau) ar gyfer troedffordd/llwybr beicio a rennir/ar wahân; 14/09/21 (Astudiaeth Ddichonoldeb Maes Parcio Gorsaf Drenau Ffynnon Taf (05/08/21)) TIR YN HEN SAFLE YSTAD DDIWYDIANNOL GARTH WORKS.
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan drigolyn lleol yn gwrthwynebu'r cais, gan nodi pryderon am waith yn ystod y nos.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal ag amod ychwanegol i sicrhau maes parcio
(Nodwch: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen y cyfarfod yn ystod yr eitem yma (6.22pm) ac felly ni phleidleisiodd ar yr eitem).
|
|
Creu tair llain i deithwyr gan gynnwys carafán sefydlog, carafán deithio ac ystafell ddydd/amlbwrpas fesul llain a sefydlu gwaith trin (yn rhannol ôl-weithredol). (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecolegol diwygiedig ar 1/9/20; Derbyniwyd Adroddiadau Pathewod ac Ystlumod a chynllun safle diwygiedig/cynlluniau'r ystafell ddydd ar 24/11/10) STABLAU BROAD OAKS, HEOL LLANHARI, LLANHARI, PONT-Y-CLUN, CF72 9LY
Cofnodion: Creu tair llain i deithwyr gan gynnwys carafán sefydlog, carafán deithio ac ystafell ddydd/amlbwrpas fesul llain a sefydlu gwaith trin (yn rhannol ôl-weithredol). (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecolegol diwygiedig ar 1/9/20; Derbyniwyd Adroddiadau Pathewod ac Ystlumod a chynllun safle diwygiedig/cynlluniau'r ystafell ddydd ar 24/11/10) STABLAU BROAD OAKS, HEOL LLANHARI, LLANHARI, PONT-Y-CLUN, CF72 9LY
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu parc sglefrio concrit newydd ym Mharc Tyn-Y-Bryn. PARC TYN-Y-BRYN, HEOL TYNYBRYN, TONYREFAIL
Cofnodion: Adeiladu parc sglefrio concrit newydd o fewn Parc Tyn-y-Bryn, SAFLE O FEWN PARC TYN-Y-BRYN, HEOL TYN-Y-BRYN, TONYREFAIL.
Ar ôl datgan buddiant yn y cais uchod yn gynharach (Cofnod Rhif 159), arferodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan yr hawl i siarad ar y cais cyn gadael y cyfarfod am hyd y drafodaeth.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
2 bâr o dai pâr. Y TIR I'R DE O DERAS Y TAF, CWM CLYDACH, TONYPANDY
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 2 bâr o dai pâr, TIR I'R DE O DERAS TAF, CLYDACH, TONYPANDY
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y cyfarfod (6.44pm))
|
|
Trosi'r eglwys yn 8 fflat (Ail-gyflwyno 19/0829/10). EGLWYS CALFARI, HEOL Y COED, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cofnodion: Trosi eglwys yn 8 fflat (Ailgyflwyno 19/0829/10), EGLWYS CALFARI, HEOL Y COED, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 21 Hydref 2021, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 94).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, gan dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygiad.
Byddai nifer yr unedau arfaethedig yn golygu bod y safle'n cael ei orddatblygu, a fyddai'n arwain at unedau sy'n darparu ansawdd ac amodau bywyd gwael i drigolion y dyfodol, yn groes i Bolisi AW5 o Gynllun Datblygu Rhondda Cynon Taf.
|
|
Dymchwel The Dragon (The Bridge Inn gynt) a Rhif 1 Stryd Saron, a chodi 5 uned bwrpasol i fyfyrwyr (sui generis). Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 19/10/21. THE DRAGON INN A RHIF 1 STRYD SARON, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cofnodion: Dymchwel The Dragon (The Bridge Inn gynt) a Rhif 1 Stryd Saron, a chodi 5 uned bwrpasol i fyfyrwyr (sui generis). Cynlluniau diwygiedig a dderbyniwyd 19/01/21, THE DRAGON INN A RHIF 1 STRYD SARON, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Rhagfyr 2021, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 134).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, gan dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygiad.
O ganlyniad i faint ac edrychiad y bloc llety myfyrwyr arfaethedig, ystyrir y byddai'r datblygiad yn ymddangos yn anghydnaws â chymeriad ac edrychiad y datblygiad presennol yng nghyffiniau'r safle a'r ardal gadwraeth ehangach. Ystyrir felly bod y cynnig yn groes i bolisïau AW5, AW6 ac AW7 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a Pholisi Cynllunio Cymru.
|
|
Adeiladu garejys newydd sy'n cynnwys 3 garej sengl (derbyniwyd y cynlluniau wedi'u diwygio a'r cynlluniau ychwanegol ar 19/10/2021 a 24/11/2021). Y TIR CYFERBYN Â WOODVILLE, HEOL PANTYGRAIGWEN, PANT-Y-GRAIG-WEN, PONTYPRIDD
Cofnodion: Adeiladu garejys newydd sy'n cynnwys 3 garej sengl (derbyniwyd y cynlluniau wedi'u diwygio a'r cynlluniau ychwanegol ar 19/10/2021 a 24/11/2021), TIR GYFERBYN Â WOODVILLE, HEOL PANTYGRAIGWEN, PANT-Y-GRAIG-WEN, PONTYPRIDD.
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2021 pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 154).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, gan dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygiad.
1. Byddai’r garejys arfaethedig yn arwain at gynnydd yn y gwrthdaro rhwng defnyddwyr y briffordd oherwydd agosrwydd safle’r datblygiad at gyffordd Ffordd Graigwen a Heol Pantygraigwen, sydd â diffyg darpariaeth barhaus o lwybrau troed ac sy’n dioddef o ormodedd o barcio ar y stryd. Byddai hyn yn arwain at risg uwch o berygl i ddiogelwch priffyrdd a cherddwyr, a llif rhydd traffig. Ni fyddai'r datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf na chanllawiau cynllunio atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Gofynion Parcio.
2. Ni ystyrir bod gosod y bloc modurdai yn ôl o'r briffordd yn fesur digonol er mwyn lliniaru'r gwrthdaro posibl rhwng cerbydau sy'n mynd i mewn ac allan o'r modurdai a cherddwyr a cherbydau sy'n defnyddio Heol Pantygraigwen. Ni fyddai'r datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf na chanllawiau cynllunio atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Gofynion Parcio.
|
|
Trosi eiddo yn 8 fflat stiwdio, gan gynnwys estyniad deulawr y tu cefn i'r eiddo, addasiadau mewnol a chyfleusterau parcio oddi ar y stryd y tu cefn i'r eiddo (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 18/10/21 a derbyniwyd y disgrifiad diwygiedig ar 18/10/21). T? GWYNFA, YR HEOL FAWR, PENTRE'R EGLWYS, PONTYPRIDD
Cofnodion: Trosi eiddo yn 8 fflat stiwdio, gan gynnwys estyniad deulawr y tu cefn i'r eiddo, addasiadau mewnol a chyfleusterau parcio oddi ar y stryd y tu cefn i'r eiddo (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 18/10/21 a derbyniwyd y disgrifiad diwygiedig ar 18/10/21). GWYNFA HOUSE, YR HEOL FAWR, PENTRE'R EGLWYS, PONTYPRIDD.
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2021, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 155).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, gan dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygiad.
Byddai'r cynnig yn golygu gorddatblygu'r safle gan y byddai'n darparu llety byw o ansawdd gwael i breswylwyr y dyfodol. Byddai'r datblygiad felly yn groes i Bolisïau AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 06/12/2021 a 31/12/2021
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 06/12/2021 a 31/12/2021.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
|