Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 07.10.21 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
CAIS RHIF: 21/1108/10 PDF 158 KB Estyniad deulawr arfaethedig i gefn yr eiddo. 45 Clos Brenin, Brynsadler, Pont-y-clun, CF72 9GA
Cofnodion: Estyniad deulawr arfaethedig i gefn yr eiddo. 45 Clos Brenin, Brynsadler, Pont-y-clun, CF72 9GA
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
Mr S Coombes (Ymgeisydd) Ms J Rhodes (Gwrthwynebydd) Mr B Lewis (Gwrthwynebydd)
Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr C Richards (Asiant), a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais, yn bresennol i wneud hynny.
Arferodd yr Ymgeisydd, Mr S Coombes, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 21/0591/10 PDF 136 KB Bloc Stablau a Manège (Tystysgrif Perchenogaeth 'B' diwygiedig wedi dod i law ar 7 Gorffennaf 2021. Cynlluniau diwygiedig â newidiadau i'r safle - ailosod y bloc stablau a lleihau ei faint wedi dod i law ar 31 Awst 2021) Tir i'r de o 25-41 Stryd Kennard, Tonpentre, Pentre
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bloc Stablau a Manège (Tystysgrif Perchenogaeth 'B' diwygiedig wedi dod i law ar 7 Gorffennaf 2021. Cynlluniau diwygiedig â newidiadau i'r safle - ailosod y bloc stablau a lleihau ei faint wedi dod i law ar 31 Awst 2021) Tir i'r de o 25-41 Stryd Kennard, Tonpentre.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mrs S Bromwell (Ar ran yr Ymgeisydd). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Weaver, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.
Yn unol â Chofnod Rhif 91o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn amlinellu canlyniad yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd mewn perthynas â'r cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
CAIS RHIF: 21/1208/10 PDF 166 KB Adeiladu annedd newydd gyda garej ynghlwm. Tir ger Cartref Melys, Heol Llechau, Aberllechau, Porth, CF39 0PP
Cofnodion: Adeiladu annedd newydd gyda garej ynghlwm. Tir ger Cartref Melys, Heol Llechau, Aberllechau, Porth, CF39 0PP
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams y cyfarfod, ac ni ddychwelodd.)
|
|
Cabanau glampio i'w gosod ar gyfer gwyliau (cynlluniau diwygiedig cyf. 26/01/2021) (Cynllun Trefniant Draenio Carthffosiaeth cyf. 30/07/21) Fferm Pencaedrain, Teras Dinas i Goed Wernhir, Rhigos, Aberdâr, SA11 5NF
Cofnodion: Podiau glampio ar gyfer llety gwyliau (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 26/01/2021) (derbyniwyd Cynllun Trefniant Draenio Aflan 30/07/21) Fferm Pencaedrain, Teras Dinas i Goed Wernhir, Rhigos, Aberdâr, SA11 5NF
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 21/1122/10 PDF 383 KB Cadw
deciau a ffens yr ardd gefn.
Cofnodion: Cadw deciau a ffens sy wedi'u gosod yn yr ardd gefn. 86 Y Cwmwd, Cwmdâr, Aberdâr, CF44 8AQ
Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan Ms V Davies (Ymgeisydd).
Aeth ymlaen i gyflwyno'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 21/1088/10 PDF 314 KB Llwyfan wedi'i godi yng nghefn cartref preswyl 3 llawr i'w ddefnyddio fel dihangfa dân. (21/0442/10 wedi'i ailgyflwyno - Derbyniwyd y cynllun yn rhoi manylion am ffens â sgrin arfaethedig ar 13/09/2021). 25 Stryd Thomas, Tonypandy, CF40 2AH
Cofnodion: Llwyfan wedi'i godi yng nghefn cartref preswyl 3 llawr i'w ddefnyddio fel dihangfa dân. (wedi'i ailgyflwyno 21/0442/10 - Derbyniwyd y cynllun yn rhoi manylion am ffens â sgrin arfaethedig ar 13/09/2021). 25 Stryd Thomas, Tonypandy, CF40 2AH
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 21 Hydref 2021, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 101). Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod o'r farn na fyddai'r dyluniad yn cael effaith ormodol ac andwyol ar y cymdogion.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 25/10/2021 – 12/11/2021
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 25/10/2021 a 12/11/2021.
|