Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion:
Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
1) Fe wnaeth Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams ddatgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â chais 21/0720/15, sef parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 (cyf:08/1380/10), Chwarel Craig Yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd. “Rwy’n Aelod o gr?p sy'n Gwrthwynebu Chwarel Hanson.”
2) Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman fuddiant personol mewn perthynas â Chais 21/0635/10 Byngalo 3 gwely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1). Fferm Bodwenarth, Llys yr Albion, Cilfynydd,CF37 4JA
“Siaradodd yr ymgeisydd â mi yn dilyn y cyfarfod. Fe wnes i gynghori'r unigolyn i gyflwyno sylwadau i holl Aelodau'r Pwyllgor a'r Adran Gynllunio. Dydw i ddim wedi rhag-benderfynu ar y cais."
3) Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan fuddiant personol mewn perthynas â'r Cais 20/1365/10. 3 Annedd ar wahân gyda 4 ystafell wely, pob un â lle parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 3 char. (Ailgyflwyno cais 19/0449/10) (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecoleg ar 5 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, lleihau maint ffin y safle ac ail-leoli anheddau arfaethedig ar 5 Ionawr 2021. Derbyniwyd cynllun diwygiedig, gan ychwanegu stribed bioamrywiaeth / ecoleg, 14 Ebrill 2021). TIR GER BRYNLLAN, FFORDD TREBANOG, TREBANOG, PORTH, CF39 9DU.
“Rwy’n adnabod yr ymgeisydd trwy fy rôl yn Gynghorydd Lleol gan ei fod yn byw yn fy ward.”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 26 Awst 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 26.08.21 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
3 Anheddau ar wahân gyda 4 ystafell wely, pob un â lle parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 3 char. (Ailgyflwyno cais 19/0449/10) (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecoleg ar 5 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, lleihau maint ffin y safle ac ail-leoli anheddau arfaethedig ar 5 Ionawr 2021. Derbyniwyd cynllun diwygiedig, gan ychwanegu stribed bioamrywiaeth / ecoleg, 14 Ebrill 2021). TIR GER BRYNLLAN, FFORDD TREBANOG, TREBANOG, PORTH, CF39 9DU
Cofnodion: 3 annedd ar wahân gyda 4 ystafell wely, pob un â lle parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 3 char. (Ailgyflwyno cais 19/0449/10) (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecoleg ar 5 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, lleihau maint ffin y safle ac ail-leoli anheddau arfaethedig ar 5 Ionawr 2021. Derbyniwyd cynllun diwygiedig, gan ychwanegu stribed bioamrywiaeth / ecoleg, 14 Ebrill 2021). TIR GER BRYNLLAN, FFORDD TREBANOG, TREBANOG, PORTH, CF39 9DU
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
Mr C Wilks (Asiant) Mr K Lawrence (Gwrthwynebydd) Ms M Morris (Gwrthwynebydd)
Bu'r Asiant yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan drigolyn lleol yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar amwynder lleol a materion yn ymwneud â diogelwch ar y priffyrdd.
O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol rhag pleidleisio ar yr eitem hon.)
|
|
Byngalo 3 ystafell wely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Yn effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1). FFERM BODWENARTH, LLYS YR ALBION, CILFYNYDD, PONTYPRIDD, CF37 4JA
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Byngalo 3 ystafell wely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Yn effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1). FFERM BODWENARTH, LLYS YR ALBION, CILFYNYDD, PONTYPRIDD, CF37 4JA
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms A Lloyd (Ymgeisydd) · Gwrthwynebydd 1 (Gwrthwynebydd)
Rhoddwyd y cyfle i'r Ymgeisydd ymateb i'r Gwrthwynebydd ond gwrthododd wneud hynny.
Yn unol â chofnod 53 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 2 Medi 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 21 Medi 2021 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.
Nodwyd bod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol yn bresennol yn yr adroddiad, ond nid oedd hynny'n wir.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen y cyfarfod, ac ni ddychwelodd.)
|
|
Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol 19/0791/10). (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 02/08/21) UNED STORIO ODDI AR HEOL Y BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2AG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol 19/0791/10). (Cynlluniau Diwygiedig wedi'u derbyn 02/08/21) UNED STORIO ODDI AR HEOL Y BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2AG
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr J Pritchard (Ymgeisydd) · Mr K Rees (Gwrthwynebydd)
Rhoddwyd y cyfle i'r Ymgeisydd ymateb i'r Gwrthwynebydd ond gwrthododd wneud hynny. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Barton, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig. Amlinellodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan drigolyn lleol a oedd yn gwrthwynebu'r cais. Yn unol â chofnod 54 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 2 Medi 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 21 Medi mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.
Yn dilyn trafodaeth, roedd yr Aelodau o'r farn y dylid gwrthod y cais uchod yn groes i argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, gan eu bod o'r farn bod yr adeilad yn strwythur diwydiannol ac yn un sy'n anghydnaws â natur yr ardal, sy'n ardal breswyl. Teimlai'r aelodau hefyd y byddai cynyddu uchder yr adeilad a'i symud yn cael effaith andwyol ar amwynder lleol a gweledol, ac roedden nhw'n pryderu y byddai mynediad i'r briffordd o safon is na'r disgwyl. Roedd pryderon hefyd o ran defnyddio'r datblygiad at ddibenion busnes a masnachu yn y dyfodol.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Bwriad i addasu ac ychwanegu estyniad 3 llawr i'r adeilad swyddfa presennol i ddarparu 10 uned breswyl ac 1 uned fasnachol (siop goffi/caffi). (Derbyniwyd adroddiad arolwg ystlumod 02/09/2021) YR HEN ADEILADU CYFRADDAU, 42/43 Y STRYD FAWR, ABERDÂR, CF44 7AA
Cofnodion: Bwriad i addasu ac ychwanegu estyniad 3 llawr i'r adeilad swyddfa presennol i ddarparu 10 uned breswyl ac 1 uned fasnachol (siop goffi/caffi). (Derbyniwyd adroddiad arolwg ystlumod ar 02/09/2021) YR HEN ADEILAD CYFRADDAU, 42/43 STRYD FAWR, ABERDÂR, CF44 7AA
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol lleol S. Bradwick a M. Forey i gefnogi'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr hyn a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol sy'n gofyn am ddarparu storfa finiau mewn lleoliad i'w gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol.
|
|
Trosi llofft dormer cefn arfaethedig, cyntedd blaen ac estyniad i'r gegin. 38 CLOS MYDDLYN, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2JS
Cofnodion: Trosi llofft dormer cefn arfaethedig, cyntedd blaen ac estyniad i'r gegin. 38 CLOS MYDDLYN, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2JS
Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Medi 2020, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 55).
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny am y rheswm canlynol:
Oherwydd eu maint, eu màs cyffredinol a'u lleoliad, byddai'r estyniadau arfaethedig yn anghydnaws yn weledol ac yn amharu ar gymdogion, a byddant yn arwain at orddatblygu'r safle ac yn edrych dros eiddo cyfagos yn uniongyrchol mewn modd sy'n annerbyniol. Mae hyn yn groes i Bolisïau AW5 ac AW6 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
T? ar wahân gyda garej ddwbl. HEN SAFLE GLEN TRANSPORT, HEOL PENYCOEDCAE, PENYCOEDCAE, PONTYPRIDD
Cofnodion: T? ar wahân gyda garej ddwbl integredig. HEN SAFLE GLEN TRANSPORT, HEOL PENYCOEDCAE, PENYCOEDCAE, PONTYPRIDD
Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Medi 2021, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 57).
Adroddodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi ar lafar am gywiriad i amod 6 yr adroddiad ar dudalen 84, i ddileu'r gair 'not' fel ei fod yn darllen fel a ganlyn:
6. No dwelling, hereby permitted, shall be occupied until the measures approved in the scheme (referred to in Condition 5) have been implemented and a suitable validation report of the proposed scheme has been submitted to and approved in writing by the Local Planning Authority. Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac amwynder amgylcheddol yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio gan fod yr Aelodau o'r farn fod y safle'n dderbyniol o ran yr effaith bosibl ar gymeriad a golwg yr ardal, amwynder preswylwyr cyfagos a diogelwch ar y briffordd, yn amodol ar y canlynol:
1. Bydd y datblygiad sy'n cael ei ganiatáu drwy hyn yn dechrau cyn diwedd pum mlynedd i ddyddiad y caniatâd yma. Rheswm: Cydymffurfio ag Adrannau 91 a 93 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
2. Bydd y datblygiad sy'n cael ei ganiatáu drwy hyn yn cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau wedi eu cymeradwyo: ·Rhif y Darlun 2013 PL-01 Cynllun y lleoliad ·Rhif y Darlun 2013 PL-02 Cynllun safle arfaethedig ·Rhif y Darlun 2013 PL-03 A Cynlluniau llawr gwaelod a llawr cyntaf ·Rhif y Darlun 2013 PL-04 Cynllun to arfaethedig ·Rhif y Darlun 2013 PL-05 A Drychiadau arfaethedig i'r gorllewin a'r de ·Rhif y Darlun 2013 PL-06 Drychiadau arfaethedig i'r dwyrain a'r gogledd, a'r dogfennau a ddaeth i law'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 18/01/21, 08/02/21 a 15/02/21, oni bai eu bod nhw wedi eu cymeradwyo a'u disodli gan fanylion sy'n ofynnol yn unol ag unrhyw amod arall wedi ei atodi i'r gymeradwyaeth hon. Rheswm: Sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a'r dogfennau wedi eu cymeradwyo a diffinio ffiniau'r caniatâd yn glir.
3. Bydd y dreif arfaethedig ar ddarlun rhif "2013.PL-02" yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau parhaus, ac ynghyd â'r garej integredig arfaethedig, bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio cerbydau yn unig. Rheswm: Sicrhau bod cerbydau yn cael eu parcio oddi ar y briffordd, er budd diogelwch ar y ffordd.
4. Ni chaiff unrhyw ddatblygu ddigwydd, gan gynnwys gwaith i glirio'r safle, nes bod Datganiad o Ddull Adeiladu yn cael ei gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, er mwyn darparu ar gyfer; a) mynediad i'r safle i'r holl draffig adeiladu, b) mannau pacio ar gyfer gweithwyr y ... view the full Cofnodion text for item 81. |
|
Newid defnydd siop wag i fflat hunangynhwysol, ehangu ffenestr 'dormer' gefn a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 11/05/2021). 90 STRYD Y FRENHINES, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RN
Cofnodion: Newid defnydd siop wag i fflat hunangynhwysol, ehangu ffenestr 'dormer' gefn a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 11/05/2021) 90 STRYD Y FRENHINES, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RN
Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Medi 2021, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 58).
Trafododd yr Aelodau adroddiad pellach y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny am y rheswm canlynol:
1. Byddai'r cynllun arfaethedig yn arwain at ragor o barcio afreolus, a fydd yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y priffyrdd sydd o amgylch y safle. Byddai'r datblygiad felly yn groes i Bolisïau AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf 2. 2. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at golli amwynder ac yn cael effaith ormesol ar eiddo cyfagos, yn groes i Bolisi AW 5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf. 3. 3. Byddai'r cynnig yn arwain at orddatblygu'r safle, er anfantais i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal ac yn groes i Bolisïau AW 5 ac AW 6 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10 CHWAREL CRAIG YR HESG, HEOL BERW, PONTYPRIDD, CF37 3BG
Cofnodion: Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10 CHWAREL CRAIG YR HESG, HEOL BERW, PONTYPRIDD, CF37 3BG
(Noder: Gan iddo eisoes ddatgan buddiant personol a niweidiol yngl?n â'r cais uchod (Cofnod rhif 71), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams y cyfarfod ar y pwynt yma.)
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan drigolyn lleol yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 26 Awst 2021, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 45).
Trafododd yr Aelodau adroddiad pellach y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny am y rheswm canlynol:
1. Mae'r cyfnod ychwanegol o 6 blynedd sydd wedi'i gynnig ar gyfer cynnal gwaith yn y chwarel yn ymestyn cyfnod y gweithrediadau mwynau o fewn 200 metr i ddatblygiad sensitif yng Nglyn-coch yn annerbyniol. Mae Glyn-coch yn gymuned ddifreintiedig, a chydnabyddir bod cymunedau o'r fath yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan broblemau iechyd. Mae parhau â gwaith chwarela o fewn 200 metr i'r gymuned yma yn ymestyn effeithiau chwarela (yn enwedig o ran s?n, llwch ac ansawdd aer) er anfantais i amwynder a lles preswylwyr yn groes i nod llesiant Cymru iachach fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dydy'r angen am y mwyn ddim yn gorbwyso'r effeithiau ar amwynder a lles y preswylwyr.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 06/09/2021 – 24/09/2021
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 06/09/2021 – 24/09/2021.
|