Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan wedi datgan buddiant personol mewn perthynas â Chais 21/0960/10 - Tynnu'r ardal deciau uchel bresennol a gosod deciau uchel newydd y tu ôl i'r eiddo. 57 TREM OCHR Y BRYN, PONTYPRIDD, CF37 2LG “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd”.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 12 Awst 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 12 Awst 2021 yn rhai cywir.
|
|
CAIS RHIF: 21/0256/10 PDF 279 KB Newid defnydd eiddo masnachol yn rhannol i eiddo preswyl er mwyn creu dau adeilad masnachol ac wyth fflat, ynghyd â gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Adroddiad Canlyniadau Llifogydd ar 05/07/2021, a derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 07/07/2021). 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Cofnodion: Newid defnydd eiddo masnachol yn rhannol i eiddo preswyl er mwyn creu dau adeilad masnachol ac wyth fflat, ynghyd â gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Adroddiad Canlyniadau Llifogydd ar 05/07/2021, a derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 07/07/2021). 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i drafod effaith bosibl yr estyniad arfaethedig ar y stryd, yr effaith ar gyfleusterau parcio a man storio ar gyfer gwastraff.
|
|
CAIS RHIF: 21/0521/10 PDF 172 KB Codi adeilad allanol a gwneud addasiadau i'r deciau presennol yn yr ardd gefn a chodi ffens i gefn ac ochr ddeheuol ffiniau'r ardd gefn (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 16/08/21). BYNGLO PHILDEN, STRYD RHYS, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2QQ
Cofnodion: Codi adeilad allanol a gwneud addasiadau i'r deciau presennol yn yr ardd gefn a chodi ffens i gefn ac ochr ddeheuol ffiniau'r ardd gefn (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 16/08/21). BYNGLO PHILDEN, STRYD RHYS, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2QQ
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio amod 1, fel a ganlyn:
Rheswm: Diffinio maint y caniatâd hwn ac amddiffyn preifatrwydd ac amwynder y trigolion cyfagos, yn unol â Pholisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
CAIS RHIF: 21/0924/10 PDF 179 KB Newidiadau allanol a mewnol i ddefnydd presennol A1 (Siopau) a galluogi defnydd ychwanegol - A2 (Ariannol a Phroffesiynol), A3 (Bwyd a Diod) a B1 (Busnes) a gwaith tirlunio caled tu allan i'r llawr gwaelod a'r islawr. LLAWR GWAELOD AC ISLAWR 56 - 58 STRYD Y TAF, PONTYPRIDD, CF37 4TD
Cofnodion: Newidiadau allanol a mewnol i ddefnydd presennol A1 (Siopau) a galluogi defnydd ychwanegol - A2 (Ariannol a Phroffesiynol), A3 (Bwyd a Diod) a B1 (Busnes) a gwaith tirlunio caled tu allan i'r llawr gwaelod a'r islawr. LLAWR GWAELOD AC ISLAWR 56 - 58 STRYD Y TAF, PONTYPRIDD, CF37 4TD
Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 21/0960/10 PDF 289 KB Tynnu'r ardal deciau uchel bresennol a gosod deciau uchel newydd y tu ôl i'r eiddo. 57 TREM OCHR Y BRYN, PONTYPRIDD, CF37 2LG
Cofnodion: Tynnu'r ardal deciau uchel bresennol a gosod deciau uchel newydd y tu ôl i'r eiddo. 57 TREM OCHR Y BRYN, PONTYPRIDD, CF37 2LG
(Nodwch: Cyhoeddodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman fuddiant personol mewn perthynas â chais 21/0960/10 “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd.”)
(Nodwch: Cyhoeddodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Williams fuddiant personol mewn perthynas â chais 21/0960/10 “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd.”)
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, am y cyfnod 23/08/2021 - 03/09/2021.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 23/08/2021 – 03/09/2021. |