Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

47.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen.

 

48.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

49.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

50.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

51.

Cofnodion pdf icon PDF 587 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf yn rhai cywir.

 

52.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

53.

CAIS RHIF: 21/0635/10 pdf icon PDF 419 KB

Byngalo 3 ystafell wely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Yn effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1).

Fferm Bodwenarth, Llys yr Albion, Cilfynydd

 

Cofnodion:

Byngalo 3 ystafell wely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Yn effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1). Fferm Bodwenarth, Llys yr Albion, Cilfynydd

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Ms Amanda Lloyd (Ymgeisydd)

·         Gwrthwynebydd 1 (Gwrthwynebydd)

 

Bu'r Ymgeisydd yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i ystyried y problemau draenio posib ac uchder y ffens arfaethedig.

 

54.

CAIS RHIF: 21/0431/15 pdf icon PDF 483 KB

Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol: 19/0791/10) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 02/08/21).

Uned Storio oddi ar Heol y Beddau, Pontypridd, CF38 2AG

 

Cofnodion:

Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol: 19/0791/10) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 02/08/21). Uned Storio oddi ar Heol y Beddau, Pontypridd, CF38 2AG

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i ymweld â'r safle i ystyried y pellter o eiddo cyfagos, p'un a yw'r datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â'r ardal leol a materion priffyrdd sy'n ymwneud â'r lôn sy'n cyrchu'r safle.

 

Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol er mwyn annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma y byddai rhaid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw wneud hynny.

 

55.

CAIS RHIF: 21/0809/10 pdf icon PDF 291 KB

Trosi llofft dormer cefn arfaethedig, cyntedd blaen ac estyniad i'r gegin.

38 Clos Myddlyn, Beddau, Pontypridd, CF38 2JS

 

Cofnodion:

Trosi llofft dormer cefn arfaethedig, cyntedd blaen ac estyniad i'r gegin. 38 Clos Myddlyn, Beddau, Pontypridd, CF38 2JS

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

·         Ms Jemma Ajax (Gwrthwynebydd)

·         Ms Naomi Jones (Gwrthwynebydd)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, roedd yr Aelodau o'r farn i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr, Ffyniant a Datblygu, oherwydd yr effaith ormesol y byddai'r cynllun yn ei gael ar yr eiddo cyfagos a phryderon o ran gorddatblygu'r safle.

 

O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

 

 

 

56.

CAIS RHIF: 21/0001 pdf icon PDF 269 KB

Amrywio amod 1(c) ac 1(d) o ganiatâd cynllunio 09/0386/13 i ganiatáu ar gyfer ymestyn y terfynau amser a ganiateir ar gyfer cymhwyso materion wedi'u cadw'n ôl am 10 mlynedd arall, ac ymestyn yr amserlen a ganiateir ar gyfer cychwyn y datblygiad am 12 mlynedd arall neu am 2 flynedd o ddyddiad y materion wedi'u cadw'n ôl olaf i'w cymeradwyo, pa un bynnag yw'r hwyraf.

Tir yn hen Lofa Coedelái oddi ar yr A4119, Coedelái.        

 

Cofnodion:

Amrywio amod 1(c) ac 1(d) o ganiatâd cynllunio 09/0386/13 i ganiatáu ar gyfer ymestyn y terfynau amser a ganiateir ar gyfer cymhwyso materion wedi'u cadw'n ôl am 10 mlynedd arall, ac ymestyn yr amserlen a ganiateir ar gyfer cychwyn y datblygiad am 12 mlynedd arall neu am 2 flynedd o ddyddiad y materion wedi'u cadw'n ôl olaf i'w cymeradwyo, pa un bynnag yw'r hwyraf. Tir yn hen Lofa Coedelái oddi ar yr A4119, Coedelái.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Will Ryan (Asiant) a oedd wedi gofyn am annerch y Pwyllgor yn gallu cysylltu â'r cyfarfod rhithwir i wneud hynny.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio amod 1 er mwyn galluogi'r gwaith i ddigwydd fesul cam, ac yn amodol ar ddiweddaru/diwygio'r Cytundeb Adran 106 cyfredol i nodi'r canlynol:

 

·       Talu cyfraniadau priffyrdd fesul cam fel a ganlyn -

 

 

·         llog ar 4% yn uwch na chyfradd fenthyca sylfaenol Banc Barclays plc o bryd i'w gilydd

·         £197,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 12,150 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £184,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 24,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £42,250 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 26,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £42,250 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 29,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £42,250 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 31,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £42,250 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 34,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr.

Talu cyfraniadau Trafnidiaeth Gyhoeddus a seilwaith fesul cam fel a ganlyn -

 

·         £9,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 12,150 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £8,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 24,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 26,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 29,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 31,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr;

·         £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 34,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr.

Dynodi Plot N2 ar gyfer ardal hamdden awyr agored

Talu cyfraniad hawl tramwy cyhoeddus o £16,000

Cytuno a gweithredu cynllun rheoli tirwedd a chynefinoedd am gyfnod o 25 mlynedd o ddyddiad y caniatâd cynllunio.

 

 

 

 

 

57.

CAIS RHIF: 21/0058/10 pdf icon PDF 246 KB

T? ar wahân gyda garej ddwbl annatod.

Hen Safle Glen Translport, Penycoedcae Road, Penycoedcae, Pontypridd

 

 

Cofnodion:

T? ar wahân gyda garej ddwbl. Hen Safle Glen Transport, Heol Penycoedcae, Penycoedcae, Pontypridd

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Geraint Israel (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Brencher a R Yeo, nad yw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi eu cefnogaeth yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny am eu bod nhw o'r farn ei bod hi'n dderbyniol i'w safle gael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl, ac y byddai hyn yn cael effaith fuddiol ar y safle.

 

O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

58.

CAIS RHIF: 21/0335/10 pdf icon PDF 259 KB

Newid defnydd siop wag i fflat hunangynhwysol, ehangu ffenestr 'dormer' gefn a gwaith cysylltiedig.

90 Stryd y Frenhines, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RN

 

Cofnodion:

Newid defnydd siop wag i fflat hunangynhwysol, ehangu ffenestr 'dormer' gefn a gwaith cysylltiedig. 90 Stryd y Frenhines, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RN

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol ei gais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol o ran lleoedd parcio a cholli amwynder, yn ogystal â chael effaith ormodol ar yr ardal. Lleisiodd yr Aelodau bryder hefyd ynghylch gorddatblygu ar y safle o ganlyniad i'r datblygiad arfaethedig.

 

O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

59.

CAIS RHIF: 21/0613 pdf icon PDF 128 KB

Newid defnydd o siop nwyddau'r fyddin (A1) i siop gwrw a bar coctel (A3) gyda drws ffrynt â rholer.

12 Stryd y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd o siop nwyddau'r fyddin (A1) i siop gwrw a bar coctel (A3) gyda drws ffrynt â rholer. 12 Stryd y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST

 

Yn unol â chofnod 35 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 12 Awst 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 24 Awst mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

60.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 108 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 02/08/2021 – 20/08/2021.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 02/08/2021 – 20/08/2021.