Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Democrataidd  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

160.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D. Grehan a J. Williams.

 

161.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

162.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

163.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

164.

COFNODION pdf icon PDF 190 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2021 ac 11 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 4 ac 11 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

165.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

166.

CAIS RHIF: 20/1342 pdf icon PDF 214 KB

11 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. Derbyniwyd cynllun diwygiedig o'r safle (man storio biniau wedi'i adleoli ac ardal amwynder a rennir) a darluniau o'r rhan ychwanegol mewn perthynas â llain 6, ar 9 Mawrth 2021,

Hen safle Ysgol Gynradd Meisgyn, Heol yr Ysgol, Meisgyn, Pont-y-clun

 

Cofnodion:

11 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig (storfa finiau wedi'i hadleoli a man amwynder a rennir) a thrychluniau ychwanegol ynghylch llain 6, ar 9 Mawrth 2021,

Hen safle Ysgol Gynradd Meisgyn, Heol yr Ysgol, Meisgyn, Pont-y-clun

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr Steffan Harries (Asiant)

·         Ms Cheryl Baxter (Gwrthwynebydd)

·         Mr Jared Torkington (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd yr Asiant, Mr Steffan Harries, yr hawl i ymateb i sylwadau’r gwrthwynebwyr.

 

Darllenodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys sylwadau ysgrifenedig gan y trigolion canlynol mewn perthynas â'u pryderon a'r gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig:

 

·         Ms A Roche

·         Mr a Mrs C Taylor

·         Ms E Adkins

·         Mr G Baxter

·         Mr a Mrs Ash

·         Dr C Moodley

·         Mr D Matthews

·         Mr a Mrs Arnold

·         Ms S Nairn

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Archwiliad o'r Safle i ystyried effaith gorddatblygu ar y safle a phryderon ynghylch y priffyrdd.

 

(Nodwch: Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig i gymeradwyo'r cais yn unol ag adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Nid oedd y cynnig yma'n llwyddiannus.)

 

 

 

167.

CAIS RHIF: 19/1081 pdf icon PDF 239 KB

Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer Cam 2, Parc Llanilid, Llanilid (10/0845/34) a fydd yn cynnwys 421 uned preswyl a'r seilwaith cysylltiedig.  Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a / neu wybodaeth ychwanegol ar 07/12/20, 15/01/21, 18/02/21 a 31/03/21 (Derbyniwyd disgrifiad o'r datblygiad wedi'i ddiwygio ar 14/01/21 a 31/03/21),

Y tir ar yr hen Safle Glo Brig a'r tir i'r gogledd o'r A473, Llanilid

 

Cofnodion:

Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer Cam 2, Parc Llanilid, Llanilid (10/0845/34) i gynnwys 421 eiddo preswyl a gwaith seilwaith cysylltiedig.  Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a/neu wybodaeth ychwanegol ar 07/12/20, 15/01/21, 18/02/21 a 31/03/21 (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig o'r datblygiad ar 14/01/21 a 31/03/21),

Y tir ar yr hen safle glo brig a'r tir i'r Gogledd o'r A473, Llanilid

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

168.

CAIS RHIF: 20/1345 pdf icon PDF 204 KB

Amrywio amod 7 (gwerthu nwyddau) o ganiatâd cynllunio 98/4284/15, Ffordd Tirwaun, Cwm-bach, Aberdâr

 

 

Cofnodion:

Amrywio amod 7 (gwerthu nwyddau) o ganiatâd cynllunio 98/4284/15, Ffordd Tirwaun, Cwm-bach, Aberdâr

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i ystyried effaith llifogydd ar y safle arfaethedig.

 

 

 

 

169.

CAIS RHIF: 20/1346 pdf icon PDF 194 KB

Amrywio amod 1 mewn perthynas â'r caniatâd cynllunio wedi'u cymeradwyo ar gyfer cais 18/0366/39, Tirfounder Fields, Cwm-bach

 

Cofnodion:

Amrywio amod 1 o ganiatâd cynllunio 18/0366/39, Caeau Tirfounder, Cwm-bach

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i ystyried effaith llifogydd ar y safle arfaethedig.

 

 

170.

CAIS RHIF: 21/0258 pdf icon PDF 122 KB

Estyniad llawr cyntaf arfaethedig y tu cefn i'r adeilad.

62 Stryd Albany, Glynrhedynog

 

 

Cofnodion:

Estyniad llawr cyntaf arfaethedig y tu cefn i'r eiddo, 62 Stryd Albany, Glynrhedynog

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

171.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 83 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 05/04/2021 – 16/04//2021

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 05/04/2021 – 16/04/2021.