Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

151.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes a J Williams.

 

152.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

153.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

154.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

155.

Cofnodion pdf icon PDF 273 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2021 yn rhai cywir.

 

156.

CAIS RHIF: 20/1114 pdf icon PDF 171 KB

Adeiladu adeilad masnachol gyda 5 o fflatiau hunangynhwysol i'r lloriau uwch (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 03/11/2020) (derbyniwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar 24/02/2021)

Safle Rhif 1 Stryd y Canon, Aberdâr, CF44 7AT

 

Cofnodion:

Adeiladu adeilad masnachol gyda 5 o fflatiau hunangynhwysol i'r lloriau uwch (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 03/11/2020) (derbyniwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar 24/02/2021) Ar safle 1 Stryd y Canon, Aberdâr, CF44 7AT

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S. Bradwick, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei fod e'n gefnogol o'r datblygiad yn gyffredinol, ond fod ganddo bryderon yngl?n â'r storfa finiau a defnydd yr uned fanwerthu arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amodau ychwanegol canlynol:

 

           Cyn dechrau'r datblygiad, rhaid cyflwyno manylion y trefniadau ar gyfer storio/casglu biniau ar gyfer yr holl ddatblygiad (manwerthu a phreswyl) i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig. Rhaid cwblhau'r datblygiad yn unol â'r manylion sydd wedi'u cymeradwyo a'i gadw felly wedi hynny.

 

Rheswm: I sicrhau amwynder darpar breswylwyr, yn unol â Pholisi AW5, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

           Er gwaethaf darpariaethau Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad a Ganiateir Cyffredinol) 1995 (neu unrhyw orchymyn sy'n dirymu ac yn ailddeddfu’r Gorchymyn hwnnw), bydd yr uned fanwerthu ar y llawr gwaelod a gymeradwyir drwy hyn yn cael ei chyfyngu i ddefnyddiau sy'n dod o fewn Dosbarth A1 yn unig.

 

Rheswm: Er mwyn diffinio a chyfyngu ar gwmpas y caniatâd.

 

157.

CAIS RHIF: 21/0096 pdf icon PDF 130 KB

Pont droed teithio llesol newydd.

Dros yr Afon Cynon rhwng canol tref Aberdâr a Chanolfan Hamdden Sobell / Ysgol Gymunedol Aberdâr.

 

Cofnodion:

Pont droed teithio llesol newydd. Dros yr Afon Cynon rhwng canol tref Aberdâr a Chanolfan Hamdden Sobell / Ysgol Gymunedol Aberdâr.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ar yr adeg hon mewn achos, datganodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Bradwick, nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, fuddiant personol yn yr eitem. “Rwy’n llywodraethwr yn Ysgol Gymunedol Aberdâr sydd wedi cael ei chrybwyll yn yr adroddiad.”

 

 

158.

CAIS RHIF: 18/1409/13 pdf icon PDF 208 KB

Cais cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ar 12/02/19 a'r disgrifiad diwygiedig ar 13/06/19).  Tir i'r de o Stryd y Groes a Theras Trafalgar, Ystrad, Pentre.

 

Cofnodion:

Cais cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ar 12/02/19 a'r disgrifiad diwygiedig ar 13/06/19).  Tir i'r de o Stryd y Groes a Theras Trafalgar, Ystrad, Pentre.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais a adroddwyd yn wreiddiol i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar 17 Hydref 2019, lle roedd argymhelliad swyddog i'w gymeradwyo. Yn y cyfarfod hwnnw, penderfynodd yr Aelodau eu bod yn bwriadu cymeradwyo'r cais, ond y byddai nifer o amodau ac y byddai angen i'r ymgeisydd ymrwymo i Gytundeb Adran 106 (A.106), er mwyn sicrhau darpariaeth tai fforddiadwy a Chynllun Hyfforddi Sgiliau Cyflogaeth.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio yr adroddiad, gan nodi mai'r rheswm dros ddod â'r cais yn ôl i'r Pwyllgor oedd bod ffin llinell goch y safle wedi'i diwygio i hepgor yr is-orsaf a'r darn bach o dir yn uniongyrchol i'r gogledd-orllewin. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau Cytundeb Adran 106 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd:

·         ddarparu o leiaf 10% o'r unedau ar y safle yn dai fforddiadwy yn unol â Pholisi NSA 11 y CDLl; a

·         chytuno ar Gynllun Hyfforddi Sgiliau Cyflogaeth yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor: Sgiliau Cyflogaeth

 

 

159.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 83 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 15/03/2021 – 02/04//2021

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 15/03/2021-02/04/2021.