Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2021 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl (gwedd, tirlunio, cynllun a graddfa) ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys gwaith, ffyrdd a seilwaith cysylltiedig. HEN SAFLE CLARIANT, FFORDD LLANTRISANT, PENTRE'R EGLWYS, CF38 2SN.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl (gwedd, tirlunio, cynllun a graddfa) ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys gwaith, ffyrdd a seilwaith cysylltiedig. HEN SAFLE CLARIANT, FFORDD LLANTRISANT, PENTRE'R EGLWYS, CF38 2SN.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Pete Sulley (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig ond bod nifer o faterion yn peri pryder iddo.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Pwysleisiodd y Pwyllgor nad oedd yn fodlon ar nifer y tai fforddiadwy a oedd yn cael eu darparu yn rhan o'r datblygiad. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Asiant, Mr Pete Sulley, a oedd unrhyw obaith i'w gleientiaid ddarparu unrhyw dai fforddiadwy ychwanegol. Dywedodd yr Asiant wrth y Pwyllgor y gallai ei gleient ddarparu un eiddo ychwanegol fel t? fforddiadwy.
Yn dilyn trafodaeth bellach PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yn ddarostyngedig i Weithred Amrywio i amrywio'r adran 106 bresennol i ddarparu uned tai fforddiadwy ychwanegol yn rhan o'r datblygiad ac i amod 5 gael ei ddiwygio i:
5 - Rhaid i'r holl leiniau sydd â ffasadau wedi'u hamlygu mewn gwyrdd yn ffigur 4.2 o'r asesiad effaith s?n (Ionawr 2021) ddefnyddio ffaniau system 3 dMEV i mewn ystafelloedd gwlyb ledled y cartref i ddarparu awyr iach trwy awyryddion wedi'u trin yn acwstig. Rhaid gosod yr awyryddion hyn yn yr ystafelloedd cyfanheddol a amlygir a rhaid iddynt gyflawni'r hyn y manylir arno yn nhabl 4.4 yr asesiad effaith s?n (Ionawr 2021). Rhaid i'r holl awyru mecanyddol gael ei ddylunio i gyflawni'r manylion lefel s?n yn ffigur 4.5 yr asesiad effaith s?n (awyru mecanyddol). Gweithredir y mesurau hyn cyn meddiannu'r eiddo y mae'r ffasadau'n ymwneud â hwy ac fe'u cedwir felly wedi hynny.
Rheswm: Sicrhau bod yr eiddo yr effeithir arno yn elwa ar lefel briodol o amwynder ac amddiffyniad rhag s?n yn unol â pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
Ac ychwanegu'r amod canlynol:
7 - Cyn cychwyn ar unrhyw ddatblygiad (ac eithrio unrhyw waith clirio safle) ar y safle, dylid nodi manylion y gwaith o godi rhwystr acwstig 4m o uchder, gan gynnwys manylion llawn ar gyfer amseriad ei godi ar y safle, ar ffin ag Ystad Ddiwydiannol y Drenewydd (de-orllewin y safle) i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig.
Rheswm: I sicrhau amwynder a diogelwch y cyhoedd yn unol â Pholisi AW10, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes a J Williams o'r bleidlais gan nad oedden nhw'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
CAIS RHIF: 20/1453/10 PDF 136 KB T? sengl dwy ystafell wely gyda lle parcio. 86 Rhodfa'r Frenhines, Llanilltud Faerdref, Pontypridd
Cofnodion: T? sengl dwy ystafell wely gyda lle parcio. 86 Rhodfa'r Frenhines, Llanilltud Faerdref, Pontypridd
Nododd y Pwyllgor fod Mr Stephen Waldron (Asiant), a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais, yn bresennnol, ond doedd dim modd iddo ymuno â'r cyfarfod i wneud hynny. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Powderhill a R Yeo o'r bleidlais gan nad oedden nhw'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
CAIS RHIF: 20/1416/10 PDF 144 KB Cadw garej fel yr adeiladwyd (Ôl-weithredol) (Disgrifiad o'r cynlluniau diwygiedig a diwygiedig a dderbyniwyd 26/02/2021). COED CELYN, TYLA GARW, PONT-Y-CLUN, CF72 9EZ
Cofnodion: Cadw garej fel yr adeiladwyd (Ôl-weithredol) (Disgrifiad o'r cynlluniau diwygiedig a diwygiedig a dderbyniwyd 26/02/2021). COED CELYN, TYLA GARW, PONT-Y-CLUN, CF72 9EZ
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio amod 3:
3. Cyfyngir defnyddio'r garej a gymeradwyir drwy hyn bob amser i ddibenion sy'n gysylltiedig â storio domestig fel rheol. Ni chaiff y garej ei throsi'n uned llety ar wahân ar unrhyw adeg ac ni chaniateir ei defnyddio at ddibenion masnach na busnes.
Rheswm: Er mwyn osgoi amheuaeth ynghylch cwmpas y caniatâd yma, mae er budd diogelwch holl ddefnyddwyr priffyrdd ac amwynder trigolion lleol yn unol â Pholisi AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
CAIS RHIF: 20/0621/10 PDF 145 KB Estyniad unllawr arfaethedig i gynnwys siop ddiwastraff "Truffles". (Derbyniwyd asesiad risg cloddio glo ar 7 Rhagfyr 2020, derbyniodd Arolwg Ystlumod ar 11 Ionawr 2021, derbyniodd yr Adroddiad Draenio 28/02/21) Tafarn y Boar’s Head, LÔN COEDCAE, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 9EZ
Cofnodion: Siop Dim Gwastraff "Truffles". (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio Glo ar 7 Rhagfyr 2020, Derbyniwyd Arolwg Ystlumod ar 11 Ionawr 2021, derbyniwyd Adroddiad Draenio ar 28/02/21) TAFARN Y BOARS HEAD, LÔN COEDCAE, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 9EZ
(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais uchod (Cofnod Rhif 135), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/0799/13 PDF 190 KB Cais amlinellol ar gyfer 20 o anheddau gyda'r holl faterion wedi'u cadw (Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol diwygiedig, Arolwg Gwrychoedd, Cynllun Trefn Dangosol y Safle a disgrifiad a dderbyniwyd 17/02/21). Fferm Gelli Fedi, Tyle Gellifedi, Brynna.
Cofnodion: Cais amlinellol ar gyfer 20 o anheddau gyda'r holl faterion wedi'u cadw (Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol diwygiedig, Arolwg Gwrychoedd, Cynllun Trefn Dangosol y Safle a disgrifiad a dderbyniwyd 17/02/21). Fferm Gelli Fedi, Tyle Gellifedi, Brynna.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen i'r cyfarfod)
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn am: · Tai Fforddiadwy - darparu o leiaf 20% o'r unedau ar y safle yn dai fforddiadwy yn unol â Pholisi SSA12 y CDLl. · Ecoleg/Tirwedd - cyflwyno Cynllun Lliniaru/Rheoli Cynefinoedd Coed/Gwrych, Clustogi Tirwedd a Chynefin Ecoleg, am byth.
|
|
CAIS RHIF: 20/1144/13 PDF 162 KB Cais amlinellol am annedd newydd gyda mynediad wedi'i ystyried. Clydfan, Ffordd y Rhigos, Rhigos, CF44 9UG
Cofnodion: Cais amlinellol am annedd newydd gyda mynediad wedi'i ystyried. Clydfan, Ffordd y Rhigos, Rhigos, CF44 9UG
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/1338/10 PDF 165 KB Cadw a chwblhau platfform bwyd anifeiliaid a man storio porthiant i weini da byw. Fferm Mynydd Mayo, Heol Eglwysilan, Eglwysilan, Pontypridd, CF83 4PJ
Cofnodion: Cadw a chwblhau platfform bwyd anifeiliaid a man storio porthiant i weini da byw. Fferm Mynydd Mayo, Heol Eglwysilan, Eglwysilan, Pontypridd, CF83 4PJ
Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd gan Mr a Mrs Brazis, a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hirfaith PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn galluogi swyddogion i gasglu gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r deunydd sydd wedi'i roi ar y safle ac i ganiatáu i swyddogion gysylltu â CNC yngl?n â hyn.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Powderhill o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
CAIS RHIF: 20/1417/10 PDF 127 KB Estyniad un-llawr i'r prif drychiad. 1 Clos Maes-y-deri, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9QT.
Cofnodion: Estyniad unllawr i'r prif drychiad. 1 CLOS MAES-Y-DERI, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9QT
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill y cyfarfod).
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 19/0421/10 PDF 216 KB Codi 6 annedd ar wahân (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 22/07/19). TIR TU Ôl I DREFELIN, TRECYNON, ABERDÂR.
Cofnodion: Codi 6 annedd ar wahân (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 22/07/19). TIR TU Ôl I DREFELIN, TRECYNON, ABERDÂR.
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais a gyflwynwyd yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 25 Chwefror 2021, lle'r oedd yr Aelodau'n bwriadu gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad swyddog y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio (mae Cofnod 112 yn cyfeirio at hyn) oherwydd bod gan yr Aelodau bryderon ynghylch diogelwch priffyrdd ynghylch mynediad i'r safle.
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.
Byddai cyflwyno 6 annedd ar y safle yn arwain at gynnydd sylweddol mewn cerbydau ar hyd isadeiledd y briffordd yn yr ardal, gyda mynediad y safle yn agos at gyffyrdd prysur Trefelin a Harriet Street, y brif dramwyfa trwy'r pentref, a chylchfan Harriet Street ar yr A4059, sef y briffordd trwy Gwm Cynon. Byddai hyn yn andwyol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd.
Ymhellach, byddai'r llwybr mynediad arfaethedig i wasanaethu'r prif blot datblygu yn arwain at ddefnydd dwys o'r lôn y tu ôl i'r eiddo cyfagos ar hyd Harriet Street, sy'n Hawl Tramwy Cyhoeddus, ac yn andwyol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd yma, gan gyfeirio'n benodol at gerddwyr sy'n defnyddio'r Hawl Tramwy Cyhoeddus ac yn croesi'r gyffordd newydd i gyfeiriad Trefelin.
O ganlyniad, byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at effaith niweidiol ar ddiogelwch cerddwyr a defnyddwyr priffyrdd, nawr ac yn y dyfodol, ac felly mae'n groes i Bolisi AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Adeiladu a defnyddio stac gyda phibellau cysylltiedig a gantri systemau monitro allyriadau parhaus sydd â mynediad ysgol. Fifth Avenue, Ystad Ddiwydiannol Hirwaun, Hirwaun
Cofnodion: Adeiladu a defnyddio stac gyda phibellau cysylltiedig a gantri systemau monitro allyriadau parhaus sydd â mynediad ysgol. Fifth Avenue, Ystad Ddiwydiannol Hirwaun, Hirwaun
Siaradodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G. Thomas a'r Cynghorydd K. Morgan, nad ydyn nhw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi eu pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 4 Mawrth 2020, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 125). Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny am y rheswm canlynol: Byddai codi t?r 90 metr o uchder yn gyfystyr â datblygiad anghydweddol ac amhriodol sy'n cael effaith weledol niweidiol ac annerbyniol ar y dirwedd ac yn peryglu'r amwynder gweledol yn y lleoliad allweddol hwn yn y Fwrdeistref Sirol ac ar ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O'r herwydd, roedd y Pwyllgor o'r farn ei fod yn anghydnaws â Pholisïau AW5, AW6 ac AW10 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 01/03/2021 – 12/03/2021.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 01/03/2021 - 12/03/2021.
|