Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 07385401877
Cyfryngau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 yn rhai cywir.
|
|
Adeiladu Hwb Cludiant unllawr newydd gyda chyswllt â'r bont reilffordd uchod, gan gynnwys datblygu gorsaf fysiau â 7 bae newydd. STRYD Y PORTH, Y PORTH, CF39 9RR
Cofnodion: Adeiladu Hwb Cludiant unllawr newydd gyda chyswllt â'r bont reilffordd uchod, gan gynnwys datblygu gorsaf fysiau â 7 bae newydd. STRYD Y PORTH, Y PORTH, CF39 9RR
Siaradodd y Cynghorydd A. Cox, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, ar y cais, gan amlinellu rhai pryderon ynghylch manylion y cais sydd yn yr adroddiad. Serch hynny, nododd ei fod o blaid y datblygiad yn gyffredinol.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Ailddatblygu safle Siop Co-op i ddarparu siop bwrpasol a maes parcio gwell. THE CO OPERATIVE FOOD, 30 HEOL CAERDYDD, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7RF
Cofnodion: Ailddatblygu safle Siop Co-op i ddarparu siop bwrpasol a maes parcio gwell. THE CO OPERATIVE FOOD, 30 HEOL CAERDYDD, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7RF
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Trosi tolldy gwreiddiol yn garej, dymchwel yr holl adeiladau allanol a chodi t? sengl newydd. FFERM MAESGLAS, FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UD
Cofnodion: Trosi tolldy gwreiddiol yn garej, dymchwel yr holl adeiladau allanol a chodi t? sengl newydd. FFERM MAESGLAS, FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UD
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Trosi ysgubor ynghlwm i ffurfio 2 o unedau llety Air B&B (gwely a brecwast) ac addasiadau cysylltiedig (Derbyniwyd y disgrifiad diwygiedig ar 07/12/20). FFERM GWRANGON ISAF, CWM ISAAC, Y RHIGOS, ABERDÂR, CF44 9AX
Cofnodion: Trosi ysgubor ynghlwm i ffurfio 2 o unedau llety Air B&B (gwely a brecwast) ac addasiadau cysylltiedig (Derbyniwyd y disgrifiad diwygiedig ar 07/12/20). FFERM GWRANGON ISAF, CWM ISAAC, Y RHIGOS, ABERDÂR, CF44 9AX
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 15/02/2021 – 26/02//2021.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 15/02/2021 – 26/02/2021.
|