Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

102.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

103.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan.

 

104.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

105.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

106.

Cofnodion pdf icon PDF 133 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar XXXXX yn rhai cywir.

 

107.

CYHOEDDIAD POLISI CYMRU A CHYNLLUNIO YN Y DYFODOL 11

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio wybod i'r Aelodau am gyhoeddiad y Fframwaith Datblygu Diweddar a'r cynllun arbennig dros 20 mlynedd, sef 'Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040' (CD2040). Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai angen i bwyllgorau Cynllunio ystyried hyn wrth wneud penderfyniadau. Yn ogystal â chyhoeddi cynllun CD2040 cyhoeddwyd rhifyn diwygiedig (Rhifyn 11) o Bolisi Cynllunio Cymru (PPW) yn ddiweddar hefyd. Gan fod y cyhoeddiadau yma mor agos at ddyddiad cyfarfod y pwyllgor, clywodd yr Aelodau nad oedd yr adroddiadau ar yr agenda hon yn gallu cyfeirio at y ddogfen. Dywedodd y Pennaeth Materion Cynllunio wrth yr Aelodau y bydden nhw'n cael gwybod a oes goblygiadau neu faterion polisi y dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol ohonynt cyn ystyried y ceisiadau.

 

108.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

109.

CAIS RHIF: 20/0963 pdf icon PDF 151 KB

Cais i gymeradwyo materion wedi'u cadw'n ôl (golwg, gwaith tirlunio, cynllun y safle a graddfa) ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys y gwaith cysylltiedig, ffyrdd a'r seilwaith.

HEN SAFLE CLARIANT, HEOL LLANTRISANT, PENTRE'R EGLWYS, CF38 2SN.

 

Cofnodion:

Cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl (gwedd, tirlunio, cynllun a graddfa) ar gyfer datblygiad preswyl gan gynnwys gwaith, ffyrdd a seilwaith cysylltiedig. HEN SAFLE CLARIANT, FFORDD LLANTRISANT, PENTRE'R EGLWYS, CF38 2SN.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr Pete Sulley (Asiant)

·         Ms Joanne Baldock (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd Mr Sulley ei hawl i ymateb i'r gwrthwynebydd.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi, er ei fod e'n gefnogol, fod ganddo bryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig. Amlinellodd y pryderon yma i'r Aelodau.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys datganiadau ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

 

·         Mr Roy Lloyd (Gwrthwynebydd)

·         Cyfarwyddwr Creigau Tyres Recycling (Gwrthwynebydd)

·         Ms Claire Hyam (Gwrthwynebydd)

 

Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio ddiweddariad ar oblygiadau CD20140 a PPW 11, a chyflwynodd y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn galluogi negodi gyda'r ymgeisydd mewn perthynas â'r rhybudd adran.106 presennol, mewn perthynas â darparu tai fforddiadwy ychwanegol ar y datblygiad, gan fod yr Aelodau o'r farn bod ystyriaethau ac amgylchiadau wedi newid ers i'r cais amlinellol gael ei gymeradwyo, a hefyd er mwyn trafod cynllun arfaethedig y tai mewn perthynas â'r unedau masnachol cyfagos.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Hughes rhag pleidleisio ar y cais yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)

 

 

110.

CAIS RHIF: 20/1171 pdf icon PDF 144 KB

Adeiladu 4 o dai teras gyda maes parcio cwrtil cysylltiedig oddi ar y fynedfa gefn.

Y TIR CYFERBYN Â 186 HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3BY (HEN SAFLE CAPEL Y BEDYDDWYR)

 

Cofnodion:

Adeiladu 4 o dai teras gyda maes parcio cwrtil cysylltiedig oddi ar y fynedfa gefn. TIR GER 186 HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3BY (HEN SAFLE CAPEL Y BEDYDDWYR)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Stephen Waldron (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.

Siaradodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Bevan a M Adams, nad yw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi eu pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor a rhoddodd ddiweddariad ar oblygiadau CD20140 a PPW 11, ar ôl trafod PENDERFYNWYD gohirio'r Cais fel bod modd trefnu i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal ymweliad safle i ystyried diogelwch y priffyrdd a mynediad i'r lleoliad parcio arfaethedig ar y safle.

 

 

111.

CAIS RHIF: 19/0655 pdf icon PDF 171 KB

Gwaith peirianneg, ail-lenwi tir, creu mynediad newydd (rhan ôl-weithredol) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a dogfennau ategol ar 9 Medi 2020 a 18 Rhagfyr 2020).

FFERM EIN GLASWELLT, RACKETT COTTAGES ROAD, CASTELLAU, BEDDAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ

 

Cofnodion:

Gwaith peirianneg, ail-lenwi tir, ffurfio mynedfa newydd (rhan ôl-weithredol) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a dogfennau ategol ar 9 Medi 2020 a 18 Rhagfyr 2020). FFERM EIN GLASWELLT, HEOL BYTHYNNOD RACKETT, CASTELLAU, BEDDAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Samantha Lewis (Ymgeisydd). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddileu amod 1 gan fod y cais wedi dechrau mynd rhagddo, felly bydd angen ail-rifo amodau 2-4 yn 1-3.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill rhag pleidleisio ar y cais yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)

 

(Nodwch: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams y cyfarfod yn ystod cyflwyniad y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y bleidlais.)

 

 

112.

CAIS RHIF: 19/0421 pdf icon PDF 204 KB

Adeiladu 6 annedd ar wahân (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 22/07/19).

Y TIR TU ÔL I DREFELIN, TRECYNON, ABERDÂR.

 

Cofnodion:

Codi 6 annedd ar wahân (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 22/07/19). TIR TU Ôl I DREFELIN, TRECYNON, ABERDÂR.

 

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais (Cofnod Rhif 120), arferodd yr Aelod Lleol (nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor), Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Harries, ei hawl i annerch y Pwyllgor o dan adran 14(2) o'r Cod Ymddygiad. Amlinellodd ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a ddilynodd).

 

Darllenodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a gyflwynwyd gan Ms Julie Howe mewn gwrthwynebiad i'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio ei gais i'w Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11, ac yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod gan yr Aelodau bryderon yngl?n â diogelwch ar y briffordd ger y fynedfa. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

113.

CAIS RHIF: 20/0984 pdf icon PDF 164 KB

Adeilad newydd arfaethedig ar gyfer boeler biomas 500kw, man storio sglodion coed ynghyd ag estyniad i'r swyddfa a gwaith cysylltiedig.

SIXTEENTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN.

 

Cofnodion:

Adeilad newydd arfaethedig ar gyfer boeler biomas 500kw, man storio sglodion coed ynghyd ag estyniad i'r swyddfa a gwaith cysylltiedig. SIXTEENTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Mrs Claire Rees yn gwrthwynebu'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

114.

CAIS RHIF: 20/1179 pdf icon PDF 138 KB

Estyniad unllawr y tu cefn i'r adeilad, adeiladu dreif a chodi lefel y to gan 700mm (ôl-weithredol) (derbyniwyd cynlluniau ychwanegol ar 20/11/2020) (derbyniwyd cyfrifiadau wal gynnal a'r manylion perthnasol ar 03/01/2021).

FAIRFIELD, LÔN JOHN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9TQ

 

Cofnodion:

Estyniad unllawr cefn, adeiladu dreif a gwneud lefel y to 700mm yn uwch (ôl-weithredol) (derbyniwyd cynlluniau ychwanegol ar 20/11/2020) (derbyniwyd cyfrifiadau wal gynnal a manylion ar 03/01/2021). FAIRFIELD, LÔN JOHN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9TQ

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys llythyr 'hwyr' a gyflwynwyd gan Mr a Mrs Enoch yn amlinellu pryderon ynghylch materion priffyrdd. 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio'r amodau yma:

 

·         Dileu Amod 1 gan fod y datblygiad eisoes wedi cychwyn ac nid oedd yn angenrheidiol;

·         Ail-rifo'r amodau sy'n weddill (2-6) fel 1-5;

·         Amodau 2, 4 a 5 i gynnwys y gofyniad i'r ymgeisydd gyflwyno manylion i'w cymeradwyo cyn pen 2 fis o ddyddiad y caniatâd a chwblhau gwaith yn unol â'r manylion y cytunwyd arnynt cyn pen 6 mis o ddyddiad y caniatâd.

 

 

115.

CAIS RHIF: 20/1245 pdf icon PDF 133 KB

Estyniad ar wahân (a fydd yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth, neuadd ysgol a mannau cymdeithasol allanol cysylltiedig).

YSGOL GYNRADD FFYNNON TAF, HEOL CAERDYDD, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7PR

 

Cofnodion:

Bloc estyniad ar wahân (i gynnwys pedair ystafell ddosbarth, neuadd ysgol a lleoedd cymdeithasol allanol cysylltiedig). YSGOL GYNRADD FFYNNON TAF, HEOL CAERDYDD, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7PR

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais uchod i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

116.

CAIS RHIF: 20/1253 pdf icon PDF 154 KB

Ailfodelu'r pwll nofio a'r ystafelloedd newid presennol yn fewnol i greu cyfleuster gofal plant newydd sy'n cynnwys ystafell chwarae, swyddfa, toiledau i blant a staff, cegin ac ystafell gotiau.

YSGOL GYNRADD DOLAU, HEOL PEN-Y-BONT AR OGWR, LLANHARAN, PONT-Y-CLUN, CF72 9RP

 

Cofnodion:

Ailfodelu'r pwll nofio a'r ystafelloedd newid presennol yn fewnol i greu cyfleuster gofal plant newydd yn cynnwys ystafell chwarae, swyddfa, toiledau plant a staff, cegin ac ystafell gotiau. YSGOL GYNRADD DOLAU, HEOL PEN-Y-BONT AR OGWR, LLANHARAN, PONT-Y-CLUN, CF72 9RP

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r y cais uchod i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar atgyfeiriad ffafriol i Cadw.

 

 

117.

CAIS RHIF: 20/1298 pdf icon PDF 158 KB

Ailfodelu'r pwll nofio a'r ystafelloedd newid presennol yn fewnol i greu cyfleuster gofal plant newydd. Bydd rampiau metel newydd wedi'u gorchuddio â phowdr yn cael eu gosod yn y mynedfeydd presennol i wella hygyrchedd a bydd uchder siliau dwy ffenestr yn cael eu hadfer i'w lefel wreiddiol.

YSGOL GYNRADD DOLAU, HEOL PEN-Y-BONT AR OGWR, LLANHARAN, PONT-Y-CLUN, CF72 9RP

 

Cofnodion:

Ailfodelu'r pwll nofio a'r ystafelloedd newid presennol yn fewnol i greu cyfleuster gofal plant newydd. Bydd rampiau metel newydd wedi'u gorchuddio â phowdr yn cael eu gosod yn y mynedfeydd presennol i wella mynediad a bydd uchder siliau dwy ffenestr yn cael ei adfer i'w lefel wreiddiol. YSGOL GYNRADD DOLAU, HEOL PEN-Y-BONT AR OGWR, LLANHARAN, PONT-Y-CLUN, CF72 9RP

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r y cais uchod i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

118.

CAIS RHIF: 20/1403 pdf icon PDF 221 KB

Dymchwel t?'r gofalwr, adeiladu cyfleusterau addysgu a chwaraeon.

YSGOL GYFUN RHYDYWAUN, MANGOED, PEN-Y-WAUN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9ES

 

Cofnodion:

Dymchwel t? gofalwyr, adeiladu cyfleusterau addysgu a chwaraeon. YSGOL GYFUN RHYDYWAUN, MANGOED, PENYWAUN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9ES

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn nad oedd yn amlinellu gwrthwynebiadau mawr i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais uchod i'r Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau o ran goblygiadau CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a'r amod ychwanegol canlynol:

 

·         Cyn adeiladu'r adeilad a gymeradwyir drwy hyn, rhaid cyflwyno strategaeth oleuadau allanol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i chymeradwyo'n ysgrifenedig. Gweithredir y cynllun ar y safle gan feddiannaeth fuddiol gyntaf yr adeilad, yn unol â'r manylion cymeradwy a chaiff ei gadw am byth.

Rheswm: Gwarchod a gwella cymeriad a rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

 

 

119.

CAIS RHIF: 21/0005 pdf icon PDF 143 KB

Adeiladu estyniad traddodiadol unllawr sy'n cynnwys tair ystafell ddosbarth, gan gynnwys toiledau, ystafell beiriannau, mannau storio a gwaith allanol cysylltiedig gan gynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd a phedwar man parcio ychwanegol ar adeilad presennol yr ysgol.

YSGOL GYNRADD CWMLAI, HEOL PENYGARREG, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8AS

 

Cofnodion:

Adeiladu estyniad traddodiadol unllawr tair ystafell ddosbarth, gan gynnwys toiledau, ystafell beiriannau, mannau storio, cylchrediad a gwaith allanol cysylltiedig gan gynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd a phedwar lle parcio ychwanegol ar adeilad presennol yr ysgol. YSGOL GYNRADD CWMLAI, PENYGARREG ROAD, TONYREFAIL CF39 8AS

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor a rhoddodd ddiweddariad yngylch yr oblygiadau o ran CD2040 a PPW 11. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

120.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 82 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 25/01/2021 –

12/02//2021.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 25/01/2021 – 12/02/2021.