Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424110

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

88.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto.

 

89.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

90.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

91.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

92.

COFNODION pdf icon PDF 155 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2020.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020 yn rhai cywir.

 

93.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei drafod mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

94.

CAIS RHIF: 20/1352 pdf icon PDF 142 KB

Adeiladu pont droed teithio llesol.

A4119, Coed-elái, Tonyrefail.    

 

Cofnodion:

Adeiladu pont droed teithio llesol. A4119, Coed-elái, Tonyrefail

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Huw Roberts (Gwrthwynebydd). Cafodd e bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

95.

CAIS RHIF: 20/1204/10 pdf icon PDF 128 KB

Adeiladu estyniad ochr deulawr, estyniad cefn unllawr, trosi'r llofft yn llofft dormer, ailadeiladu garej ar wahân a chreu llawr caled newydd wrth ochr yr eiddo. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 13/12/2020).

97 Stryd Meyler, Thomastown, Tonyrefail, Porth, CF39 8DY.

 

 

Cofnodion:

Adeiladu estyniad ochr deulawr, estyniad cefn unllawr, trosi'r llofft yn llofft dormer, ailadeiladu garej ar wahân a chreu llawr caled newydd wrth ochr yr eiddo. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 13/12/2020).

97 Stryd Meyler, Tretomos, Tonyrefail, Porth, CF39 8DY.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Stephen Sanigar (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio ddau ddatganiad ysgrifenedig gan Ms Kimberly Smallman a Mr Ryan Hughes a oedd yn gwrthwynebu'r cais.

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

 

96.

CAIS RHIF: 18/1105/10 pdf icon PDF 166 KB

Trosi Capel yn 5 fflat preswyl gyda gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynllun lleoliad diwygiedig a chynllun parcio 22/08/2019).

Capel Ebenezer, Stryd Ebenezer, Trecynon, Aberdâr, CF44 8NU.

 

 

Cofnodion:

Trosi Capel yn 5 fflat preswyl gyda gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynllun lleoliad diwygiedig a chynllun parcio 22/08/2019). Capel Ebenezer, Stryd Ebenezer, Trecynon, Aberdâr, CF44 8NU.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r adroddiad i'r Aelodau gan rannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r argymhelliad ar lafar. Rhoddodd wybod i'r Aelodau bod yr adroddiad yn nodi bod yr argymhelliad yn argymell cymeradwyo'r cais yn amodol ar atgyfeiriad cadarnhaol i Cadw ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig. Cafodd Aelodau wybod bod Cadw wedi ymateb ar 6 Ionawr 2021 gan gadarnhau bod y cais wedi'i dderbyn.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn dilyn atgyfeiriad ffafriol gan Cadw. 

 

 

97.

CAIS RHIF: 20/0822/10 pdf icon PDF 116 KB

Estyniadau dormer blaen a chefn arfaethedig (derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig 29/10/20).

7 Heol Coed Isaf, Maes-y-coed, Pontypridd, CF37 1EL.

 

Cofnodion:

Estyniadau dormer blaen a chefn arfaethedig (derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig 29/10/20). 7 Heol Coed Isaf, Maes-y-coed, Pontypridd, CF37 1EL.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

98.

CAIS RHIF: 20/1219/10 pdf icon PDF 178 KB

Adeiladu dwy uned ddiwydiannol (B2) a warws (B8) y mae modd eu cyfuno'n un uned, gyda swyddfeydd ategol (B1), maes parcio cysylltiedig ar gyfer ceir a beiciau, a chreu iard mynediad a gwasanaeth newydd.

Plot A, Tir ger Dolydd Felindre, Llanharan, Pencoed, CF35 5HY.

 

Cofnodion:

Adeiladu dwy uned ddiwydiannol (B2) a warws (B8) y mae modd eu cyfuno'n un uned, gyda swyddfeydd ategol (B1), maes parcio cysylltiedig ar gyfer ceir a beiciau, a chreu iard mynediad a gwasanaeth newydd. Plot A, Tir ger Dolydd Felindre, Llanharan, Pencoed, CF35 5HY.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a Chynllun Rheoli Cynefin, fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

99.

CAIS RHIF: 20/1375/10 pdf icon PDF 189 KB

Datblygiad Preswyl Arfaethedig a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ymchwiliad Safle 7 Rhagfyr 2020 a derbyniwyd  cynllun wedi'i ddiweddaru 18 Ionawr 2021).

Tir ger Ystad Ddiwydiannol Abergorchwy, Ynyswen, Treherbert, CF42 6DL.

 

Cofnodion:

Datblygiad Preswyl Arfaethedig a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ymchwiliad Safle ar 7 Rhagfyr 2020 a derbyniwyd  cynllun wedi'i ddiweddaru ar 18 Ionawr 2021). Tir ger Ystad Ddiwydiannol Abergorchwy, Ynyswen, Treherbert, CF42 6DL.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gytundeb Adran 106 a fyddai'n sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal ar ffurf unedau tai fforddiadwy, er mwyn parhau i fodloni'r anghenion lleol sydd wedi'u nodi o ran tai.

 

100.

CAIS RHIF: 20/1213/10 pdf icon PDF 162 KB

Cadw a chwblhau bloc garej (ailgyflwyno cais 20/0091/10)

Tir ger Stryd James, Cwmdâr, Aberdâr.

 

Cofnodion:

Cadw a chwblhau bloc garej (ailgyflwyno cais 20/0091/10) Y tir cyferbyn â Stryd James, Cwmdâr, Aberdâr.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r cais a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 7 Ionawr, 2021, lle'r oedd yr Aelodau wedi gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Mae Cofnod 73 yn cyfeirio at hyn).

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Datblygu am y rheswm canlynol:

Dydy'r garejys, fel y maen nhw wedi'u hadeiladu ar hyn o bryd, a'r mynediad iddyn nhw ddim yn bodloni'r safonau angenrheidiol er mwyn i gerbyd safonol yrru i mewn/yn ôl gan ystyried y lled sydd ei angen er mwyn gyrru i mewn i'r garej neu adael y garej yn ddiogel. Byddai'r datblygiad arfaethedig felly'n arwain at gerbydau'n symud mewn modd anniogel ac yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y priffyrdd sydd o amgylch y safle. Byddai'r datblygiad felly yn groes i Bolisi AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf

 

 

101.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 82 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 01/2021 –

22/01/2021.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 11/01/2021 – 22/01/2021.