Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 01443 424103
Cyfryngau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Amrywio amod 1b - ymestyn y cyfnod ar gyfer caniatâd cynllunio 16/1385/13. TIR I'R GORLLEWIN O'R A4119, CEFN YR HENDY, PONT-Y-CLUN.
Cofnodion: Amrywio amod 1b - estyniad amser caniatâd cynllunio 16/1385/13. TIR I'R GORLLEWIN O'R A4119, CEFN YR HENDY, MWYNDY, PONT-Y-CLUN.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr Peter Waldren (Asiant) · Mr David Rees (Gwrthwynebydd) · Mr Alvin Fripp (Gwrthwynebydd) · Ms Emma Heaversedge (Gwrthwynebydd) · Ms Helen Fisher (Gwrthwynebydd)
Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys dau gyflwyniad ysgrifenedig gan Mr Ceri Thomas (Gwrthwynebydd) a Ms Sophie Seymour (Gwrthwynebydd).
Arferodd yr Asiant, Mr Peter Waldren, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gytundeb Adran 106 gyda'r telerau canlynol:
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo rhag pleidleisio ar y cais yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
Symud a storio oddeutu 8,000m3 o ddeunydd o'r tirlithriad yn ardal Tylorstown dros dro. Mae hyn yn cynnwys creu pentyrrau, cyfuno deunyddiau, draenio, mesurau lliniaru ecolegol/cynefinoedd a gwaith cysylltiedig. (Yn rhannol ôl-weithredol) HEOL YR ORSAF, GLYNRHEDYNOG
Cofnodion: Man storio dros dro ar gyfer oddeutu 8,000m3 o ddeunydd o dirlithriad Tylorstown sy'n cynnwys ffurfio pentyrrau stoc, cydgrynhoi deunydd, draenio, mesurau lliniaru cynefinoedd/ecolegol a gwaith cysylltiedig. (Rhannol Ôl-weithredol) HEOL YR ORSAF, GLYNRHEDYNOG
Siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Bevan ac S Morgans, nad ydynt yn Aelodau o'r Pwyllgor, ar y cais a chyflwyno eu cefnogaeth mewn perthynas â'r cynnig uchod a chais 20/1313 y manylir arno yng Nghofnod 85 isod.
Yn unol â gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, darllenwyd cynnwys cyflwyniad ysgrifenedig gan Mr Chris Mutch i'r Pwyllgor, yn amlinellu ei wrthwynebiadau i'r cais hwn a chais 20/1313.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Symud a storio oddeutu 22,000m3 o ddeunydd o'r tirlithriad yn ardal Tylorstown dros dro. Mae hyn yn cynnwys creu pentyrrau, cyfuno deunyddiau, draenio, mesurau lliniaru ecolegol/cynefinoedd a gwaith cysylltiedig. (Yn rhannol ôl-weithredol) TIR CYFERBYN Â PHARC BUSNES MAES-Y-DERI, GLYNRHEDYNOG
Cofnodion: Man storio dros dro ar gyfer oddeutu 22,000m3 o ddeunydd o dirlithriad Tylorstown sy'n cynnwys ffurfio pentyrrau stoc, cydgrynhoi deunydd, draenio, mesurau lliniaru cynefinoedd/ecolegol a gwaith cysylltiedig. (Rhannol Ôl-weithredol) TIR GYFERBYN Â PHARC BUSNES MAES-Y-DERI, GLYNRHEDYNOG
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.
|
|
Adeiladu adeilad ar wahân i'w ddefnyddio fel warws (Derbyniwyd ffin y llinell goch ddiwygiedig ar 03/12/2020). UNED 12-14 TUBEX LTD, YSTAD DIWYDIANNOL PARC ABERAMAN ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6DA.
Cofnodion: Codi adeilad ar wahân i'w ddefnyddio ar gyfer warysau (Derbyniwyd y ffin llinell goch ddiwygiedig ar 03/12/2020). UNED 12 I 14 TUBEX LTD, YSTAD DDIWYDIANNOL PARC ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6DA.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 21/12/2020 – 08/01/2021
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 21/12/2020 – 08/01/2021.
|