Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424103

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

51.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

52.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

53.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

54.

COFNODION pdf icon PDF 124 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod y cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2020 yn rhai cywir. 

 

55.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

56.

CAIS RHIF: 20/1076 pdf icon PDF 210 KB

Newid defnydd y tir er mwyn adeiladu strwythur i'w ddefnyddio gan gwib-gartiau, addasu adeilad yr Ystafell Lampau cyfredol ynghyd â gwaith cysylltiedig.

TIR AR FFORDD MYNYDD Y RHIGOS A HEN SAFLE GLOFA'R T?R, HEOL RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR.

 

Cofnodion:

Newid defnydd tir ar gyfer codi strwythur i'w ddefnyddio gan gartiau 'coaster', addasiadau i adeilad presennol yr Ystafell Lampau ynghyd â gwaith cysylltiedig TIR AT FYNYDD Y RHIGOS A HEN SAFLE GLOFA'R T?R, FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Ms Sioned Edwards (Asiant)

·         Mr Sean Taylor (Ymgeisydd)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

57.

CAIS RHIF: 20/0845 pdf icon PDF 142 KB

Garej (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 06/11/2020 - lledu'r drws rholer i 5metr).

GARDD GOFFA, TERAS Y GELLI, LLANHARAN CF72 9PR

 

Cofnodion:

Garej (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 06/11/2020 - lled y drws rholer wedi'i ymestyn gan 5 metr). GARDD GOFFA, TERAS Y GELLI, LLANHARAN CF72 9PR

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr Leigh Smith, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llanharan (Ymgeisydd)

·         Mr Marc Smith (Gwrthwynebydd)

·          

Arferodd yr Ymgeisydd, Mr Leigh Smith, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Mr Stephen Witts yn amlinellu pryderon ynghylch y cais.

 

Parhaodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol i gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad, a chynnwys amod ychwanegol i gyfyngu ar y defnydd o'r garej i storio offer cynnal a chadw ac nid i barcio. Mae hyn er mwyn egluro cwmpas y cydsyniad er budd diogelwch y priffyrdd.

 

(Nodyn: Ymatalodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Williams a S Powderhill o'r bleidlais gan nad oedden nhw'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)

 

 

58.

CAIS RHIF: 20/0719 pdf icon PDF 139 KB

Cynnig i newid defnydd o safle rhentu cerbydau i safle gwerthu ceir ail-law.

ENTERPRISE RENT A CAR, HEOL CAERDYDD, Y DDRAENEN WEN, PONTYPRIDD, CF37 5BB

 

Cofnodion:

Newid defnydd arfaethedig - o safle rhentu cerbydau i safle gwerthu ceir ail-law. ENTERPRISE RENT A CAR, HEOL CAERDYDD, Y DDRAENEN WEN, PONTYPRIDD, CF37 5BB

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Gwen Thomas (Asiant). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais wedi'i nodi uchod i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, yn ddarostyngedig i ddiwygio Amod 3 fel y ganlyn:

 

·         Rhaid i'r lleoedd parcio a nodir ar y Cynllun Bloc Arfaethedig diwygiedig gael eu gosod ar y safle mewn deunyddiau parhaol, a'u cadw at ddibenion parcio cwsmeriaid a staff yn unig.

 

59.

CAIS RHIF: 19/0790 pdf icon PDF 128 KB

Estyn ystafell ddosbarth (Derbyniwyd y cynllun diwygiedig o'r safle ac Asesiad Risg Mwyngloddio ar 28 Hydref 2020).

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT, FFORDD CEFN-YR-HENDY, MEISGYN, PONT-Y-CLUN, CF72 8TL.

 

Cofnodion:

Estyniad i ystafell ddosbarth (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ac Asesiad Risg Mwyngloddio Glo ar 28 Hydref 2020). YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT, FFORDD CEFN-YR-HENDY, MEISGYN, PONT-Y-CLUN, CF72 8TL.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

60.

CAIS RHIF: 20/0786 pdf icon PDF 138 KB

Newid defnydd o Lysoedd Barn a swyddfeydd i: Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (dosbarth A2), busnes (dosbarth B2), uned storio a dosbarthu (dosbarth B8), sefydliadau sydd ddim yn rhai preswyl (dosbarth D1) a chyfleusterau ar gyfer cyfarfod a hamdden (dosbarth D2).

HEN SAFLE’R LLYS YNADON, HEOL LLWYNYPIA, LLWYNYPÏA, TONYPANDY, CF40 2HZ.

 

Cofnodion:

Newid dosbarth defnydd - o Lysoedd y Gyfraith a llety ategol i: Safle gwasanaethau ariannol a phroffesiynol A2, busnes B1, storio a dosbarthu B8, sefydliadau dibreswyl D1 ac ymgynnull a hamdden D2. YR HEN LYS YNADON, HEOL LLWYNYPIA, LLWYNYPIA, TONYPANDY, CF40 2HZ.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor.

 

Siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis, nad yw'n aelod o'r pwyllgor, ar y cais a chyflwynodd ei chefnogaeth mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig, gan nodi'r amodau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad sy'n mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan drigolion lleol.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

61.

CAIS RHIF: 20/0984 pdf icon PDF 163 KB

Cynnig ar gyfer adeilad newydd i gadw boeler biomas 500kw, ardal storio darnau pren ynghyd ag estyn y swyddfa a gwaith cysylltiedig.

SIXTEENTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN.

 

Cofnodion:

Adeilad newydd arfaethedig ar gyfer boeler biomas 500kw, man storio sglodion coed ynghyd ag estyniad i'r swyddfa a gwaith cysylltiedig. SIXTEENTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN.

 

Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol fanylion y cais a gofynnodd i'r Aelodau ystyried gohirio'r cais gan nodi bod y cais yn ddarostyngedig i Gyfarwyddyd Erthygl 18, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Hysbyswyd yr aelodau hefyd fod Swyddogion yn aros am fanylion pellach a sylwadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais. 

 

Yn dilyn trafodaeth,  PENDERFYNWYD gohirio'r  penderfyniad ar y cais i gyfarfod arall o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol, er mwyn galluogi Swyddogion i dderbyn sylwadau terfynol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac aros am ganlyniad Cyfarwyddyd Erthygl 18 gan Lywodraeth Cymru.

 

62.

CAIS RHIF: 20/1141 pdf icon PDF 148 KB

Newid y math o d? o ddau d? pâr i ddwy annedd ar wahân.

Ffordd y Rhigos, Hirwaun, Aberdâr.

 

 

Cofnodion:

Newid math o d? - o ddau bâr o anheddau pâr i ddau annedd ar wahân. Ffordd y Rhigos, Hirwaun, Aberdâr.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

63.

CAIS RHIF: 20/0464/10 pdf icon PDF 230 KB

Datblygiad preswyl arfaethedig a'r gwaith cysylltiedig.

Tir yng Ngholeg y Cymoedd, Heol Cwmdâr, Cwmdâr.

 

Cofnodion:

Datblygiad Preswyl Arfaethedig a gwaith cysylltiedig. Tir yng Ngholeg y Cymoedd, Heol Cwmdâr, Cwmdâr.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 47).

 

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu:

 

  • Cyfraniad o £2,514 ar gyfer lleoedd ysgolion cynradd; a
  • Chyfraniad o £7,000 ar gyfer cyfleusterau chwarae gwell ar y safle cyfagos

 

Hyn oll yn ogystal â'r Amodau a nodwyd yn yr adroddiad pellach.

 

 

64.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 49 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 23/11/2020 – 04/12/2020

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 23/11/2020 – 04/12/2020.