Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2020.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar XXXXX yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
CAIS RHIF: 20/1091/10 PDF 134 KB Estyniad deulawr yn y cefn. 8 STRYD DYFODWG, TREORCI, CF42 6NN.
Cofnodion: Estyniad sy'n ddeulawr yn rhannol a'n un-llawr yn rhannol, y tu cefn i'r adeilad. 8 STRYD DYFODWG, TREORCI, CF42 6NN.
Yn unol â'r gweithdrefnau wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr James Parry (Ymgeisydd) · Ms Beverley Richards (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Ymgeisydd, Mr James Parry, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.
Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio sylwadau ysgrifenedig gan gymydog, Mr Jones, sy'n gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/0464/10 PDF 197 KB Datblygiad preswyl arfaethedig a gwaith cysylltiedig. Tir yng Ngholeg y Cymoedd, Heol Cwmdâr, Cwmdâr.
Cofnodion: Datblygiad preswyl arfaethedig a gwaith cysylltiedig. Tir yng Ngholeg y Cymoedd, Heol Cwmdâr, Cwmdâr.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Robin Williams (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod nhw o'r farn y byddai'r datblygiad arfaethedig yn estyniad sy'n cyd-fynd â'r datblygiad cyfredol. Roedd yr aelodau hefyd o'r farn bod digonedd o fannau agored yn yr ardal gan nodi y byddai'r datblygiad arfaethedig yn darparu cyfleoedd gwaith ac yn darparu tai o ansawdd da. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
CAIS RHIF: 20/0315/10 PDF 164 KB Cynllun i drosi ac estyn dau adeilad allanol i ffurfio dau d? annedd gyda garejys ar wahân. (Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig ar 10/07/20) (Derbyniwyd Arolwg Ystlumod Rhagarweiniol ar 03/08/20) (Derbyniwyd Arolwg Presenoldeb Ystlumod ar 02/ 10/20) Fferm Ffrwd Philip, Heol Ffrwd Philip, Efail Isaf, Pontypridd, CF38 1AR
Cofnodion: Cynllun i drosi ac estyn dau adeilad allanol i ffurfio dau d? annedd gyda garejys ar wahân. (Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig ar 10/07/20) (Derbyniwyd Arolwg Ystlumod Rhagarweiniol ar 03/08/20) (Derbyniwyd Arolwg Presenoldeb Ystlumod ar 02/10/20) Fferm Ffrwd Philip, Heol Ffrwd Philip, Efail Isaf, Pontypridd, CF38 1AR
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J James, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd y Cynghorwyr J James a D Williams y cyfarfod.)
|
|
CAIS RHIF: 20/0921/10 PDF 181 KB Codi tair uned Dosbarth B1/B2/B8 a gwaith parcio a gwasanaethu cysylltiedig (unedau 16, 17 a 18). Unedau 16, 17 a 18, Parc Busnes Hepworth, Pont-y-clun, CF72 9DX
Cofnodion: Codi tair uned Dosbarth B1/B2/B8 a gwaith parcio a gwasanaethu cysylltiedig (unedau 16, 17 a 18). Unedau 16, 17 a 18, Parc Busnes Hepworth, Pont-y-clun, CF72 9DX
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 09/11/2020 – 20/11/2020.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 09/11/2020 – 20/11/2020.
|