Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 01443 424103
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu yngl?n â Chais Rhif:20/1099 - Dymchwel y garej bresennol a chodi garej newydd. 1 HEOL AUBREY, GLYNFACH, Y PORTH, CF39 9HY “Mae fy ngwraig a minnau'n berchen ar yr eiddo sy'n gysylltiedig â’r cais hwn a byddaf yn gadael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2020 yn rhai cywir.
|
|
Datblygiad ar gyfer hyd at 2,112 metr sgwâr gros o fannau cyflogaeth newydd (dosbarthiadau defnydd B1, B2, B8) mewn hyd at 16 uned, mynediad newydd, tirlunio a gwaith datblygu cysylltiedig. TIR YM MHARC BUSNES CWM CYNON, HEOL NEWYDD, ABERPENNAR, CF45 4ER
Cofnodion: Datblygiad ar gyfer hyd at 2,112 metr sgwâr gros o fannau cyflogaeth newydd (dosbarthiadau defnydd B1, B2, B8) mewn hyd at 16 uned, mynediad newydd, tirlunio a gwaith datblygu cysylltiedig. TIR YM MHARC BUSNES CWM CYNON, HEOL NEWYDD, ABERPENNAR, CF45 4ER
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Gwaith adnewyddu cyffredinol ac addasiadau allanol gan gynnwys dwy ardal teras allanol newydd (derbyniwyd yr adroddiad Ecoleg ar 09/10/2020). TAFARN Y MALTSTERS ARMS, STRYD Y BONT, PONTYPRIDD, CF37 4PF
Cofnodion: Gwaith adnewyddu cyffredinol ac addasiadau allanol gan gynnwys dwy ardal teras allanol newydd (derbyniwyd yr adroddiad Ecoleg ar 09/10/2020). TAFARN Y MALTSTERS ARMS, STRYD Y BONT, PONTYPRIDD, CF37 4PF
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Balconi yn y cefn. 6 HEOL Y FEDWEN, PONTYPRIDD, CF37 2HE
Cofnodion: Balconi yn y cefn. 6 HEOL Y FEDWEN, PONTYPRIDD, CF37 2HE
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Dymchwel y garej bresennol a chodi garej newydd. 1 HEOL AUBREY, GLYNFACH, Y PORTH, CF39 9HY
Cofnodion: Dymchwel y garej bresennol a chodi garej newydd. 1 HEOL AUBREY, GLYNFACH, Y PORTH, CF39 9HY
(Nodyn: Ar ôl iddo ddatgan buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â'r mater yma (gweler cofnod Rhif:31), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple y cyfarfod a chamodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees i rôl y Cadeirydd.)
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 26/10/2020 – 06/11/2020
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 26/10/2020 – 06/11/2020.
|