Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424103

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

16.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

17.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

18.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

19.

COFNODION pdf icon PDF 102 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2020 yn rhai cywir. 

 

20.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

21.

CAIS RHIF: 20/0701 pdf icon PDF 137 KB

Caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer dreif, cyntedd, ffensys a feranda y tu cefn i'r adeilad, a gwaith allanol arall. (Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol ar 25/08/20) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 28/09/20).

21 BRYN Y FAENOR, MEISGYN, PONT-Y-CLUN, CF72 8JP

 

Cofnodion:

Caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer dreif, cyntedd, ffensys a feranda y tu cefn i'r adeilad, a gwaith allanol arall.  (Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol ar 25/08/20) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 28/09/20) 21 BRYN Y FAENOR, MEISGYN, PONT-Y-CLUN, CF72 8JP

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr S Richardson (Ymgeisydd)

·         Ms S Wadden (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd Mr Sundar (Ymgeisydd) yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi’r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes o'r bleidlais gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan)

 

22.

CAIS RHIF: 19/1066 pdf icon PDF 167 KB

Adran 73 - Amrywio amodau 1, 2, a 3 o ganiatâd cynllunio 10/0792/13 i ganiatáu amser pellach ar gyfer cyflwyno materion wedi'u cadw'n ôl - (rhoddwyd caniatâd gwreiddiol yn dilyn apêl ar 18 Hydref 2016).

HEN FFERM YNYSCYNON, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0JL

 

 

Cofnodion:

Adran 73 - Amrywio amodau 1, 2, a 3 o ganiatâd cynllunio 10/0792/13 i ganiatáu amser pellach ar gyfer cyflwyno materion wedi'u cadw'n ôl - (rhoddwyd caniatâd gwreiddiol yn dilyn apêl ar 18 Hydref 2016). HEN FFERM YNYSCYNON, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0JL

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor gan roi gwybod ar lafar am wall sydd wedi'i nodi yn y disgrifiad o'r datblygiad yn yr adroddiad. Dylai'r disgrifiad fod fel a ganlyn:

 

Adran 73 - Amrywio amodau 1, 2, a 3 o ganiatâd cynllunio 10/0792/13 i ganiatáu amser pellach ar gyfer cyflwyno materion wedi'u cadw'n ôl - (rhoddwyd caniatâd gwreiddiol yn dilyn apêl ar 18 Hydref 2016).

 

Rhannodd fanylion ymateb hwyr i'r ymgynghoriad gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais. Mae hyn wedi arwain at argymell amod ychwanegol (fel sydd wedi'i nodi isod) pe byddai Aelodau'n penderfynu cymeradwyo'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu yn amodol ar

  • ychwanegu Cytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy sy'n cyfateb i 4 uned dwy ystafell wely ar gyfer perchnogaeth cartref cost isel, 4 uned dwy ystafell wely ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a chynllun hyfforddi sgiliau cyflogaeth; a'r
  • amodau a amlinellir yn yr adroddiad a'r amod ychwanegol a ganlyn, yn unol â chais Cyfoeth Naturiol Cymru:

 

Cyn cyflwyno manylion ar gyfer materion wedi'u cadw'n ôl, bydd canfyddiadau ac argymhellion arolygon pathew pellach (gan gynnwys arolygon nithbibellau) yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn cael eu cymeradwyo ganddyn nhw'n ysgrifenedig. Bydd y gwaith datblygu'n cael ei gwblhau yn unol â chanfyddiadau'r arolwg, a'i gynnal fel y cyfryw wedi hynny, oni bai bod cytundeb fel arall mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Rheswm: Am resymau gwarchod natur yn unol â Pholisïau AW5 ac AW8, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

 

23.

CAIS RHIF: 19/1278 pdf icon PDF 206 KB

Cais amlinellol gyda phob mater wedi'i gadw'n ôl ar gyfer 5 eiddo preswyl (dymchwel yr adeiladau cyfredol) (Derbyniwyd y cynllun wedi'i ddiwygio sy'n cynnwys mesurau lliniaru safleoedd clwydo ystlumod ar 12/08/2020).

YR HEN YSGOL, HEOL MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UT

 

Cofnodion:

Cais amlinellol gyda phob mater wedi'i gadw'n ôl ar gyfer 5 eiddo preswyl (dymchwel yr adeiladau cyfredol) (Derbyniwyd y cynllun wedi'i ddiwygio sy'n cynnwys mesurau lliniaru safleoedd clwydo ystlumod ar 12/08/2020). YR HEN YSGOL, HEOL MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UT

 

Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys sylwadau ysgrifenedig gan Tektonic Ltd (Ymgeisydd).

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynnal a chadw a rheoli'r t? ystlumod yn y tymor hir, a fydd wedi'i leoli yn ardal ardd gefn llain 5.

 

24.

CAIS RHIF: 20/0349 pdf icon PDF 170 KB

Newid defnydd o westy i 9 fflat (Derbyniwyd Asesiad Rhagarweiniol ar gyfer Clwydfannau Ystlumod ac Adar sy'n Nythu ar 28/09/2020)

ADEILAD APOLLO, HEOL ABER-RHONDDA,  PORTH, CF39 0LD

 

Cofnodion:

Newid defnydd o westy i 9 fflat (Derbyniwyd Asesiad Rhagarweiniol ar gyfer Clwydfannau Ystlumod ac Adar sy'n Nythu ar 28/09/2020) ADEILAD APOLLO, HEOL ABER-RHONDDA, PORTH, CF39 0LD

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

25.

CAIS RHIF: 20/0553 pdf icon PDF 176 KB

Fferm Solar gan gynnwys is-orsaf, ffensys a cheblau o dan y ddaear.  (derbyniwyd y strategaeth ddraenio wedi'i diwygio ar 17 Gorffennaf 2020)

Y TIR ODDI AR HEOL PANTYBRAD, HEOL LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, CF72 8YY.

 

Cofnodion:

Fferm Solar gan gynnwys is-orsaf, ffensys a cheblau o dan y ddaear.  (derbyniwyd y strategaeth ddraenio wedi'i diwygio ar 17 Gorffennaf 2020) Y TIR ODDI AR HEOL PANTYBRAD, HEOL LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, CF72 8YY

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu a Buddsoddi Mawr y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

26.

CAIS RHIF: 20/0671 pdf icon PDF 144 KB

Ysgubor. (Derbyniwyd yr Asesiad Risg Mwyngloddio ar 08/09/2020)

Y TIR I'R GOGLEDD O FAES MOSS, ABER-NANT, ABERDÂR, CF44 0YU

 

Cofnodion:

Ysgubor arfaethedig. (Derbyniwyd yr Asesiad Risg Mwyngloddio ar 08/09/2020) Y TIR I'R GOGLEDD O FAES MOSS, ABER-NANT, ABERDÂR, CF44 0YU

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi  y cais i'r Pwyllgor gan siarad am newid sydd wedi'i argymell mewn perthynas ag amod 8 sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, sy'n gofyn am gael gwared ar y sied.

 

(Nodwch: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman fuddiant personol mewn perthynas â'r mater yma - 'Rydw i'n 'nabod yr ymgeisydd gan ei fod yn etholwr ond dydw i ddim wedi trafod y cais gyda nhw.')

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio amod 8 fel a ganlyn:

 

Rhaid symud y garafán deithio o'r safle unwaith y bydd modd defnyddio'r ysgubor sydd wedi'i chymeradwyo. Rheswm: Er golwg yr ardal o'i gwmpas a diogelu preifatrwydd yr eiddo cyfagos yn unol â Pholisïau AW5 ac AW6 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

27.

CAIS RHIF: 20/0827 pdf icon PDF 160 KB

Newid defnydd o siop coffi A3 i siop pysgod a sglodion (siop cludfwyd)

6 STRYD Y FELIN, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8AA

 

Cofnodion:

Newid defnydd o siop coffi A3 i siop pysgod a sglodion (siop cludfwyd)  6 STRYD Y FELIN, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8AA

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Owen-Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

28.

CAIS RHIF: 20/0877 pdf icon PDF 184 KB

2 uned dau-lawr newydd gyda mân ddiwygiadau i'r briffordd gyfagos.

PARC BUSNES CWM ELÁI, TERAS YR ORSAF, PONT-Y-CLUN

 

Cofnodion:

2 uned dau-lawr newydd gyda mân ddiwygiadau i'r briffordd gyfagos. PARC BUSNES CWM ELÁI, TERAS YR ORSAF, PONT-Y-CLUN

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi dri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

 

·         Mr Williams (Ymgeisydd)

·         Y Cynghorydd M Griffiths (Gwrthwynebydd)

·         Mr P Griffiths ar ran Cyngor Cymuned Pont-y-clun (Gwrthwynebydd)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Doedd y cynnig i wrthod y cais gan nad yw'r datblygiad yn addas ar gyfer lletem werdd na gorlifdir ddim yn llwyddiannus)

 

 

29.

CAIS RHIF: 20/0843/10 pdf icon PDF 180 KB

Annedd arfaethedig.

Tir rhwng Clwb Rygbi Wattstown a 25 Teras Dan-y-graig, Ynys-hir.

 

 

Cofnodion:

CAIS RHIF: 20/0843/10 Annedd arfaethedig. Tir rhwng Clwb Rygbi Wattstown a 25 Teras Dan-y-graig, Ynys-hir

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 15 Hydref 2020. Roedd Aelodau'n dymuno cymeradwyo'r cais pryd hynny, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (gweler cofnod 7).

 

Cafodd Aelodau drafodaeth yngl?n ag adroddiad pellach. Yn dilyn trafodaeth hir, roedd Aelodau o'r farn nad oedd eu pryderon gwreiddiol ynghylch sefydlogrwydd y safle a'r domen wedi'u datrys yn yr adroddiad a chafodd cwestiynau pellach eu holi. PENDERFYNWYD gohirio'r cais am adroddiad pellach i gynghori'r Aelodau ar sefydlogrwydd y safle a'r domen yn y cefn a goblygiadau'r cwrs d?r, sydd i'w gweld yn y ffotograffau a gyflwynwyd i Aelodau, mewn perthynas â'r datblygiad a sefydlogrwydd y domen. Gofynnodd Aelodau bod swyddog y Cyngor yn mynd i'r safle er mwyn rhoi cyngor mewn perthynas â chyflwr y tir a'r peryglon.

 

 

 

30.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 83 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 05/10/2020 – 23/10/2020.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 05/10/2020 – 23/10/2020.