Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 01443 424103
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, gwnaeth Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes ddatganiad buddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 20/0654/10 - Cadw dec uchel a chodi adeilad allanol yn yr ardd gefn. Bynglo Philden, Stryd Rhys, Trealaw, Tonypandy, CF40 2QQ. “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd”.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Awst 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Awst 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
CAIS RHIF: 20/0654/10 PDF 111 KB Cadw dec uchel a chodi adeilad allanol yn yr ardd gefn. Bynglo Philden, Stryd Rhys, Trealaw, Tonypandy, CF40 2QQ
Cofnodion: Cadw dec uchel a chodi adeilad allanol yn yr ardd gefn. Bynglo Philden, Stryd Rhys, Trealaw, Tonypandy, CF40 2QQ
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms Lisa Bruford (Ymgeisydd) · Ms Kathryn Lee (Gwrthwynebydd) · Ms Debbie Jones (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Ymgeisydd, Ms Lisa Bruford, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Annedd arfaethedig. Tir rhwng Clwb Rygbi Wattstown a 25 Teras Dan-y-graig, Ynys-hir.
Cofnodion: Annedd arfaethedig. Tir rhwng Clwb Rygbi Wattstown a 25 Teras Dan-y-graig, Ynys-hir. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig. Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodaugymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod nhw o'r farn na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar gymeriad nac edrychiad yr ardal gyfagos. Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch sefydlogrwydd y tir y tu ôl i'r datblygiad, a gofynnon nhw am gynnwys amod yn gofyn am adroddiad manwl sy'n asesu'r sefydlogrwydd a'r angen posibl am unrhyw waith adfer a/neu'r angen am gadw strwythur(au) pan fyddai'r mater yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor; ynghyd ag asesiad o'r goblygiadau o ran y cwrs d?r y tu ôl i'r safle.
O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer newid defnydd adeilad o Swyddfeydd y Cyngor i 20 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis), gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad sy'n bodoli eisoes a gwaith cysylltiedig. Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd, CF37 1LJ
Cofnodion: Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer newid defnydd adeilad o Swyddfeydd y Cyngor i 20 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis), gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad sy'n bodoli eisoes a gwaith cysylltiedig. Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd, CF37 1LJ Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd adeilad o Swyddfeydd y Cyngor i 20 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis), gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad sy'n bodoli eisoes a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd yr Arolwg Ystlumod a'r Arolwg Adar sy'n Nythu ar 15/07/2020) (Derbyniwyd yr Adroddiad S?n ar 05/08/2020) Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd, CF37 1LJ
Cofnodion: Newid defnydd adeilad o Swyddfeydd y Cyngor i 20 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis), gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad sy'n bodoli eisoes a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd yr Arolwg Ystlumod a'r Arolwg Adar sy'n Nythu ar 15/07/2020) (Derbyniwyd yr Adroddiad S?n ar 05/08/2020), Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd, CF37 1LJ. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig. Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill y cyfarfod).
|
|
Cais amlinellol i ddymchwel t? tafarn ac adeiladu 8 eiddo preswyl gyda lleoedd parcio (rhai materion wedi'u cadw). Rhydyfelin Sports Bar, Heol y Dyffryn, Rhydfelen, Pont-y-clun, CF37 5ES
Cofnodion: Cais amlinellol i ddymchwel t? tafarn ac adeiladu 8 eiddo preswyl gyda lleoedd parcio (rhai materion wedi'u cadw). Rhydyfelin Sports Bar, Heol y Dyffryn, Rhydfelen, Pont-y-clun, CF37 5ES.
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais i'r Pwyllgor a PHENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio yn ddarostyngedig i'r Amodau a nodir yn yr adroddiad a Chytundeb Adran 106 i sicrhau bod un uned yn cael ei sefydlu a'i chynnal fel uned fforddiadwy, a hynny er mwyn bodloni anghenion a nodwyd yn lleol.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen y cyfarfod.)
|
|
Adeilad storio a dosbarthu arfaethedig (Defnydd Dosbarth B8) (derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 27/08/2020). Tir gyferbyn â Storamove, Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman, Aberaman, Aberdâr
Cofnodion: Adeilad storio a dosbarthu arfaethedig (Defnydd Dosbarth B8) (derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 27/08/2020). Tir gyferbyn â Storamove, Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman, Aberaman, Aberdâr
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
CAIS RHIF: 20/0885/09 PDF 106 KB Gosod ffenestri to yn y blaen a'r cefn. 2 Wesley Cottage, Heol Aberdâr, Abercynon, Aberpennar, CF45 4NP
Cofnodion: Gosod ffenestri to yn y blaen a'r cefn. 2 Wesley Cottage, Heol Aberdâr, Abercynon, Aberpennar, CF45 4NP
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cyhoeddi Tystysgrif Cyfreithlondeb unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
CAIS RHIF: 20/0949/10 PDF 94 KB Estyniad deulawr yn y cefn. 27 Stryd Dumfries, Treherbert, Treorci, CF42 5PP
Cofnodion: Estyniad deulawr yn y cefn. 27 Stryd Dumfries, Treherbert, Treorci, CF42 5PP
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 04/09/2020 – 02/10/2020
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 04/09/2020 – 02/10/2020.
|
|
MATERION BRYS Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio gyflwyniad cryno i'r Aelodau ar addasrwydd cynnal ymweliadau safle o dan gyfyngiadau cyfredol Covid-19. Yn dilyn hyn, trafododd yr Aelodau opsiynau amgen er mwyn dal ati i gynnal ymweliadau safle, a chytunwyd y byddai'r Swyddogion yn edrych ar y defnydd o dechnoleg i gynorthwyo gydag ymweliadau safle presennol ac yn y dyfodol. Mewn perthynas â'r ymweliad safle ar gyfer cais 20/0680 (Cofnod 300), cytunodd yr aelodau'n unfrydol y bydd swyddogion yn cael lluniau drôn ac, os credir eu bod yn briodol, lluniau fideo ychwanegol o'r ardal. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor er mwyn mynd i'r afael â'u pryder, yn hytrach na chynnal ymweliad safle ffurfiol.
|