Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424110

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

292.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn gan y Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol G Hughes a S Powderhill.

 

 

293.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

(1) Cyhoeddodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G Caple fuddiant personol mewn perthynas â Chais Rhif: 18/1291/10 - Newid defnydd y safle yn storfa gynhwysyddion dur (derbyniwyd manylion diwygiedig, gan gynnwys cynllun safle ehangach, manylion o ran goleuo ac oriau gwaith, ar 26/11/2019). Tir ger Heol Glynfach, Glynfach, y Porth.

"A minnau'n Aelod Lleol, rydw i wedi bod ymdrin â chwynion gan drigolion yngl?n â defnydd amhriodol o'r tir dan sylw, ond dydy hyn ddim yn gysylltiedig â'r cais yma."

 

(2) Cyhoeddodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Bonetto fuddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais Rhif: 20/0631 – Cynllun ynni adnewyddadwy sy'n defnyddio system adfer gwres i ddarparu gwres i Ysgol Gynradd Ffynnon Taf a'r Pafiliwn. Rhwydwaith Gwres Ffynnon Dwym Ffynnon Taf, Caerdydd.

“Rwy'n gadeirydd Parc Ffynnon Taf a'r Ffynnon Dwym ac roeddwn yn rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb wreiddiol a gyflawnwyd mewn perthynas â'r prosiect hwn."

 

 

 

294.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

295.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

296.

COFNODION pdf icon PDF 126 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Awst 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Awst 2020 yn rhai cywir. 

 

297.

CAIS: 20/0201 pdf icon PDF 165 KB

Trosi ac ymestyn Llantwit House i ddarparu 8 o fflatiau hunangynhwysol, parcio a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Arolwg Ystlumod 16/07/2020), Gwesty Llantwit House, Ffordd Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Pontypridd.

 

Cofnodion:

Trosi ac adeiladu estyniad ar gyfer Gwesty Llantwit House i ddarparu 8 fflat hunangynhwysol, cyfleusterau parcio a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Arolwg Ystlumod ar 16/07/2020), Gwesty Llantwit House, Ffordd Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Pontypridd.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Jon Hurley (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.

Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyrau 'hwyr' a dderbyniwyd gan yr unigolion canlynol:

·         Aelod Lleol / Aelod nad yw'n Bwyllgor J. James sy'n siarad o blaid y cais yn gyffredinol er ei fod yn codi rhai pryderon mewn perthynas â materion parcio.

·         Mr D Benjamin sy'n gwrthwynebu'r cais.

 

Aeth y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu ymlaen i gyflwyno'r cais uchod i'r Pwyllgor. PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb Adran 106, er mwyn sicrhau bod anheddau'n cael eu sefydlu a'u cadw'n unedau fforddiadwy, at ddibenion parhaus bodloni'r anghenion lleol sydd wedi'u nodi o ran tai.

 

 

 

298.

CAIS: 20/0433 pdf icon PDF 147 KB

Ailgyflwyno cais i ddefnyddio eiddo ar gyfer cartref gofal un person, gyda pherson ifanc yn byw â chymorth yno, a'r holl staff a gweithwyr cymorth ar sifftiau deffro, 9 Heol Dôl-yr-Afon, Gelli, Pentre.

 

Cofnodion:

Ailgyflwyno cais i ddefnyddio eiddo ar gyfer cartref gofal un person, gyda pherson ifanc yn byw â chymorth yno, a'r holl staff a gweithwyr cymorth ar sifftiau deffro, 9 Heol Dôl-yr-Afon, Gelli, Pentre.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr David Lake (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

Darllenodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys sylwadau ysgrifenedig gan Mr a Mrs Jones sy'n gwrthwynebu'r cais.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ychwanegu amod sy'n gofyn bod yr eiddo ond yn cael ei ddefnyddio er mwyn darparu gofal i un person yn unig ar unrhyw adeg.

 

 

 

299.

CAIS: 20/0631 pdf icon PDF 113 KB

Cynllun ynni adnewyddadwy sy'n defnyddio system adfer gwres i ddarparu gwres i Ysgol Gynradd Ffynnon Taf a'r Pafiliwn, Rhwydwaith Gwres Ffynnon Taf, Caerdydd.

 

Cofnodion:

Cynllun ynni adnewyddadwy sy'n defnyddio system adfer gwres i ddarparu gwres i Ysgol Gynradd Ffynnon Taf a'r Pafiliwn, Rhwydwaith Gwres Ffynnon Taf, Caerdydd.

 

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant mewn perthynas â'r cais uchod (Cofnod Rhif 293), gadawodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Bonetto y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma).

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Yn dilyn y penderfyniad, dychwelodd y Cynghorydd J. Bonetto i'r cyfarfod.)

 

 

 

300.

CAIS: 20/0680 pdf icon PDF 147 KB

6 pod glampio gyda gwaith isadeiledd, gwelliannau ac atgyweiriadau i'r ysgubor bresennol (derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 17/08/2020) (Derbyniwyd y Cynllun Diwygiedig ar 25/08/2020), Fferm Blaen Nant-y-Groes, Ffordd Blaen Nant-y-Groes, Cwm-bach, Aberdâr.

 

 

Cofnodion:

6 pod glampio gyda gwaith isadeiledd, gwelliannau ac atgyweiriadau i'r ysgubor bresennol (derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 17/08/2020) (Derbyniwyd y Cynllun Diwygiedig ar 25/08/2020), Fferm Blaen Nant-y-Groes, Ffordd Blaen Nant-y-Groes, Cwm-bach, Aberdâr.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, er mwyn ystyried effaith y fynedfa i'r safle ar y briffordd.

 

 

301.

CAIS: 18/0880/10 pdf icon PDF 169 KB

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 03/10/2016) (Caniatâd Adeilad Rhestredig). (Derbyniwyd Asesiad Diwygiedig o’r Effaith ar Dreftadaeth ar 12/07/2019). 1 Stryd Fothergill, Trefforest, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Cofnodion:

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 03/10/2016) (Caniatâd Adeilad Rhestredig). (Derbyniwyd Asesiad Diwygiedig o’r Effaith ar Dreftadaeth ar 12/07/2019). 1 Stryd Fothergill, Trefforest, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais a adroddwyd yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Gorffennaf 2020. Cafodd y cais ei ohirio er mwyn cynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020. Cafodd y cais ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor ar 20 Awst 2020, gydag argymhelliad i'w gymeradwyo, ond gwrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol:

·         Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at golli nodweddion hanesyddol a phensaernïol pwysig sy'n gysylltiedig â'r Adeilad Rhestredig. Mae hyn yn groes i Bolisi AW7 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a NCT 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol

 

302.

CAIS: 18/0886 pdf icon PDF 99 KB

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig. 1 Stryd Fothergill, Trefforest, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig. 1 Stryd Fothergill, Trefforest, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais a adroddwyd yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Gorffennaf 2020. Cafodd ei ohirio ar gyfer ymweliad safle a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020. Cafodd y cais ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor ar 20 Awst 2019, gydag argymhelliad i'w gymeradwyo, ond gwrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol:

 

1. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn rhoi pwysau sylweddol ar y safle, ac yn arwain at orddefnydd ac orddatblygu'r safle. Byddai ceisio hwyluso cynifer o fflatiau ag sy'n bosibl o fewn yr adeilad, heb unrhyw ofod amwynder, yn arwain at greu llety cyfyng o ansawdd isel ar gyfer meddianwyr y dyfodol. O ganlyniad i hyn, mae'r cynnig yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a'r Canllawiau Cynllunio Atodol: Datblygu Fflatiau wedi'u mabwysiadu gan y Cyngor:

 

2. Byddai'r datblygiad arfaethedig felly'n arwain at effaith niweidiol ar ddiogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd a llif traffig, yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf, am y rhesymau canlynol:

i. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at ragor o bobl yn defnyddio'r safle a bydd rhagor o draffig ar hyd y strydoedd preswyl. Mae'r strydoedd yma eisoes yn brysur ac mae'r ddarpariaeth parcio ar y stryd eisoes yn golygu dim ond un car sy'n gallu teithio ar hyd y stryd ar unrhyw adeg a felly'n arwain at effaith niweidiol ar ddiogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd a llif y traffig.

ii. Does dim darpariaeth parcio oddi ar y stryd wedi'i chynnwys yn y cais a does dim lle ar y safle i ddarparu hynny, felly byddai meddianwyr yn cael eu gorfodi i barcio ar y priffyrdd ar hyd y strydoedd preswyl cyfagos. Mae'r rhain eisoes yn brysur a byddai hyn yn arwain at barcio'n ddiwahân ar y stryd ac mae hyn yn niweidiol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y priffyrdd a llif y traffig.

iii. Byddai'r ardal storio biniau arfaethedig wedi'i lleoli wrth ymyl y briffordd ger y gyffordd â Stryd y Parc a Heol Cyrch-y-Gwas, lle nad oes llwybr troed. O ganlyniad i hynny, byddai'n rhaid i feddianwyr y dyfodol fynd ar y briffordd brysur i ddefnyddio'r biniau, sy'n niweidiol i'w diogelwch a diogelwch defnyddwyr y ffordd.

iv. Byddai'n anodd gorfodi mesurau rheoli mewn perthynas â'r ail fynedfa i'r adeilad, sydd ger y gyffordd â Stryd y Parc a Heol Cyrch-y-Gwas, i sicrhau bod y man yma ond yn cael ei ddefnyddio 'at ddibenion storio biniau'. Byddai hyn yn arwain at breswylwyr yn defnyddio'r fynedfa yma fel y  ...  view the full Cofnodion text for item 302.

303.

CAIS: 18/1291/10 pdf icon PDF 147 KB

Newid defnydd y safle yn storfa gynhwysyddion dur (derbyniwyd manylion diwygiedig, gan gynnwys cynllun safle ehangach, manylion o ran goleuo ac oriau gwaith, ar 26/11/2019). Tir ger Heol Glynfach, Glynfach, y Porth.

 

Cofnodion:

Newid defnydd y safle yn storfa gynhwysyddion dur (derbyniwyd manylion diwygiedig, gan gynnwys cynllun safle ehangach, manylion o ran goleuo ac oriau gwaith, ar 26/11/2019). Tir ger Heol Glynfach, Glynfach, y Porth.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu'r cais a gafodd ei adrodd yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 20 Awst, 2020, lle roedd yr Aelodau o blaid cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad swyddog y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio.

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio am y rhesymau canlynol:

1. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at ddefnydd masnachol. Dydy hyn ddim yn cyd-fynd â natur preswyl yr ardal gyfagos. Byddai caniatáu i'r safle weithredu 24 awr y dydd yn achosi s?n ac aflonyddwch i eiddo preswyl cyfagos, yn enwedig yn ystod yr oriau anghymdeithasol. Bydd hyn yn niweidiol i'w amwynder preswyl, ac yn mynd yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf. O ganlyniad i hyn, mae'r cais yn mynd yn erbyn Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.

2. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at gynnydd yn y defnydd o fynedfa ac allanfa bresennol y safle ac yn niweidiol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd a llif traffig yn yr ardal, ac yn mynd yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

 

304.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 69 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y materion canlynol, ar gyfer y cyfnod 24/08/2020 – 04/09/2020:

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd;

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 24/08/2020 – 04/09/2020.