Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Uned Fusnes y Cyngor 01443 424103
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill a W. Owen.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Datblygu Annedd Sengl. 1 MAES ALEXANDRA, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4YA
Cofnodion: Datblygu Annedd Sengl. 1 MAES ALEXANDRA, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4YA
Darllenodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd gan Mr Gordon Williams a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Aeth Pennaeth Materion Cynllunio ymlaen i gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor a rhannodd gwybodaeth ar lafar mewn perthynas â'r diwygiadau sydd eu hangen mewn perthynas â gwall sydd wedi'i nodi yn Amod 3 o'r adroddiad i sicrhau bod y geiriad cywir yn cael ei nodi sef 'Alexandra Place' yn hytrach na 'Alexander Place'.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ychwanegu Amod Rhif 3 sydd wedi'u hamlinellu uchod.
|
|
Ailadeiladu adeilad y crochendy (cafodd yr adeilad gwreiddiol ei ddifrodi gan dân). Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig, yn dangos mynedfa a lleoedd parcio, ar 17 Gorffennaf 2020; derbyniwyd datganiad atodol ar 6 Awst 2020. SOUTHCLIFFE POTTERY, HEOL CREIGIAU, LLANILLTUD FAERDREF, PONTYPRIDD, CF15 9NN.
Cofnodion: Ailadeiladu adeilad y crochendy (cafodd yr adeilad gwreiddiol ei ddifrodi gan dân). Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig, yn dangos mynedfa a lleoedd parcio, ar 17 Gorffennaf 2020; derbyniwyd datganiad atodol ar 6 Awst 2020. SOUTHCLIFFE POTTERY, HEOL CREIGIAU, LLANILLTUD FAERDREF, PONTYPRIDD, CF15 9NN.
Darllenodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys sylwadau ysgrifenedig gan Mr a Mrs Sharples sy'n nodi'u cefnogaeth gyffredinol ar gyfer y cais, gan godi rhai pryderon yngl?n ag elfennau o'r datblygiad arfaethedig. Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Gareth McDonagh (Ymgeisydd). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gefnogaeth i'r datblygiad arfaethedig. Aeth y Pennaeth Materion Cynllunio ymlaen i gyflwyno'r cais, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cam 2 - Ymestyn Parc Busnes/Diwydiannol ar safle cae gwyrdd oddi ar safle Parc Busnes Llantrisant (cynlluniau diwygiedig wedi'u derbyn ar 18/12/19 a 23/04/20). TIR YN NHAL Y FEDW, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF
Cofnodion: Cam 2 - Ymestyn Parc Busnes/Diwydiannol ar safle cae gwyrdd oddi ar safle Parc Busnes Llantrisant (cynlluniau diwygiedig wedi'u derbyn ar 18/12/19 a 23/04/20). TIR YN NHAL Y FEDW, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF
Darllenodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys sylwadau ysgrifenedig gan Mr J Hope sydd yn siarad o blaid y cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Gosod swyddfa y mae modd ei thynnu i lawr, gan gynnwys toiledau, cegin/ystafell egwyl ac ystafell loceri. I'w gosod ar sail sy'n bodoli eisoes yn dilyn dymchwel adeilad â ffrâm ddur. HEN SAFLE RHONDDA READY MIX CONCRETE, DEPO DINAS, HEOL Y CYMER, DINAS, Y PORTH, CF39 9BL.
Cofnodion: Gosod swyddfa y mae modd ei thynnu i lawr, gan gynnwys toiledau, cegin/ystafell egwyl ac ystafell loceri. I'w gosod ar sail sy'n bodoli eisoes yn dilyn dymchwel adeilad â ffrâm ddur. HEN SAFLE RHONDDA READY MIX CONCRETE, DEPO DINAS, HEOL Y CYMER, DINAS, Y PORTH, CF39 9BL
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cabinet Telathrebu - Virgin Media 1 Y RHODFA, PONTYPRIDD, CF37 4PU
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cabinet Telathrebu - Virgin Media 1 Y RHODFA, PONTYPRIDD, CF37 4PU
Yn unol â Chofnod Rhif: 262 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 6 Awst 2020, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 18 Awst 2020 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais, yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu yn amodol ar ddiwygiad Rhif 3 i'r adroddiad sy'n gofyn bod lliw'r cabinet yn newid i fod yn llwyd i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â chymeriad a golwg y stryd, yn unol â natur yr ardal gadwraeth.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 10/08/2020 – 21/08/2020.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio – mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 10/08/2020 hyd at 21/08/2020.
|