Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol J Cullwick, A Davies-Jones, J Elliott, M Forey, H Fychan, K Jones, G Holmes, W Owen, S Rees-Owen, S Pickering, E Stephens, M Tegg a J Williams.
|
|
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G Caple - “Mae fy mab yn feddyg yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G Caple – “Rwy'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Sheryl Evans – “Rwy'n gweithio i'r GIG”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman – “Rwy'n gyn-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol R Yeo – “Mae fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Ysbyty'r Tywysog Siarl”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Davies - “Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf"
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G Jones – “Rwy'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol M Norris - “Mae fy nith yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf"
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Morgans “Mae fy merch yn nyrs yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol R Lewis - “Mae gen i aelod o’r teulu sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol L M Adams - “Mae fy nai yn feddyg ym Mhen-y-bont ar Ogwr”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol L M Adams - “Mae fy ngwraig yn derbyn pensiwn gan y GIG”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol M Fidler Jones - “Rwy'n weithiwr proffesiynol ym maes Materion Cyhoeddus sy'n gyfrifol am lobïo Bwrdd Iechyd Cwm Taf, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Howe - “Mae fy merch yn Ddoctor Seicoleg ac Ymchwil ac yn gweithio i'r GIG”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G R Davies - “Fe wnes i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf 3 blynedd yn ôl”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol K Morgan - “Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf"
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Trask - “Mae fy ngwraig yn gweithio i GIG Cymru”
Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Sera Evans “Rwy'n Bennaeth Recriwtio'r DU ym Mhrifysgol De Cymru”
|
|
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWG Derbyn cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a gwaith allweddol arall y Bwrdd
Cofnodion: Diolchodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yr Athro Marcus Longley i Gyngor RhCT am wahodd aelodau'r Bwrdd i annerch cyfarfod llawn o'r Cyngor. Talodd deyrnged i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Rhondda Cynon Taf am eu hymrwymiad a'u hymroddiad dros y 15 mis diwethaf yn ymdopi â phwysau gwaith.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyflwynodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Mr Paul Mears, drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:
Ø Diweddariad o ran Covid - Diweddaru'r Ymateb i Covid Diweddariad ar dri mater allweddol - profi, brechu ac adsefydlu yn dilyn Covid
Ø Rhaglen Adferiad Dewisol
Manylion mewn perthynas â'r Rhaglenni Adfer Gofal a Gwelliannau Brys i Ofal arfaethedig
Ø Ffocws Gofal Sylfaenol Pwyslais ar nifer o feysydd allweddol, megis dechrau e-ymgynghori a'r cynnig am ganolfan arbennig i gyfeirio pobl at wasanaeth 111 y GIG.
Ø Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Diweddariad ar y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, gan sôn am barhau i weithio'n agos gyda'r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth (IMSOP)
Bu cyflwyniad PowerPoint arall mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) Cwm Taf Morgannwg, yn benodol yngl?n â sut mae'r gwasanaeth wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf ac ystyried yr heriau sydd o'u blaenau, gan gynnwys y gwaith partneriaeth gyda'r Awdurdodau Lleol.
Ø CAMHS Cwm Taf Morgannwg
Ø Buddsoddiad Newydd 2021/22
Gan gynnwys diweddariad ar gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Gofal Canolraddol
Ø Gwelliannau Allweddol - Ymyrraeth Gynnar
Ffocws o'r newydd ar gyfleoedd gweithio ar y cyd a meithrin perthnasoedd ag asiantaethau partner
Ø Gwelliannau Allweddol - Covid
Cynnal y gwasanaeth drwy gydol pandemig Covid a chynnal gwasanaethau Argyfwng wyneb yn wyneb parhaus 7 diwrnod yr wythnos
Ø Gwelliannau Allweddol - CAMHS
Diweddariad ar Un Pwynt Mynediad, staffio ac ailgynllunio gwasanaethau
Ø Gweledigaeth a Chynlluniau ar gyfer y Dyfodol
Trosolwg o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys yr angen am ymateb cyflym a hyblygrwydd parhaus dros y 12-24 mis nesaf a rhoi modelau a llwybrau newydd ar waith.
Arweinydd y Cyngor
Diolchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Morgan i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am ddod i'r cyfarfod a rhannu'r newyddion diweddaraf am CAMHS a materion ehangach. Awgrymodd y byddai sesiynau diweddaru pellach yn cael eu trefnu i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag adfer yn dilyn Covid a gwasanaethau gofal sylfaenol megis llawdriniaeth ddewisol. Fe wnaeth yr Arweinydd gydnabod bod CAMHS wedi bod dan bwysau o’r blaen a gyda disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol llawn amser, roedd yn rhagweld y byddai galw mawr am gymorth.
Gofynnodd yr Arweinydd a oedd swyddi gwag gyda nhw o hyd a phwysau ar staff a sut mae recriwtio i'r gwasanaeth?
Y Cynghorydd P Jarman - Arweinydd yr Wrthblaid
Tynnodd y Cynghorydd Jarman sylw at yr angen am wasanaeth CAMHS a gofynnodd faint o blant sydd ar restr aros CAMHS?
A oes trefniant tebyg yn RhCT i'r un ym Merthyr Tudful lle mae gwasanaethau offthalmig wedi'u hategu yn ddiweddar ... view the full Cofnodion text for item 24. |