Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

50.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chafwyd ymddiheuriadau gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Belzak, A Calvert, J Cullwick, A S Fox, E George, J James, K Jones, M Fidler Jones, W Owen, S Pickering, M Powell, S M Powell, M Tegg a R Turner.

 

51.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 12A - Rhybudd o Gynnig (codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus)

 

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Trask - “Mae fy ngwraig wedi'i chyflogi gan GIG

Cymru a chymrodd hi ran yn y bleidlais ar y cynnig”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes - “Mae fy mam yn cael ei chyflogi gan

yr Awdurdod Lleol"

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo - “Mae fy ngwraig yn gweithio i'r GIG”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Weaver - “Rwy'n derbyn Pensiwn y GIG”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - “Mae gen i aelod agos o’r teulu sydd

yn gweithio i'r GIG."

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Evans – “Rwy'n gweithio i'r GIG”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Harries - “Mae gen i sawl aelod o'r teulu sydd

yn gweithio i'r GIG ac mae fy nhad yn gweithio i'r Awdurdod Lleol”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan - “Rwy'n gyflogedig gan y GIG”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby - “Mae gen i ddau fab sydd

Yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod Lleol a nai sy'n gweithio i'r

GIG".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Morgans -“ Mae fy merch yn gweithio i'r

 GIG".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple - “Mae fy mab yn feddyg ac yn gweithio

i'r GIG ”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Roberts - “Mae fy mab yn gweithio i'r 

Awdurdod Lleol".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol LM Adams - “Mae fy ngwraig yn derbyn

Pensiwn y GIG fel cyn fydwraig”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan - “Mae fy merch yn gweithio i'r

Awdurdod Lleol".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Griffiths - “Mae fy mrawd yn gweithio fel

gweithiwr achlysurol i'r Awdurdod Lleol ”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis - “Mae fy mab yn gweithio i'r 

Awdurdod Lleol".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Williams - “Mae gen i gontract rhan amser

gyda'r GIG”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L De Vet - “Mae fy nau fab yn gweithio i'r

Awdurdod Lleol".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S A Bradwick - “Mae gen i berthynas agos

sy'n gweithio i'r GIG ”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey - “Mae gen i fab, merch a

?yr sy'n gweithio i'r Awdurdod Lleol”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Forey - “Mae fy merch yn athrawes ac

yn cael ei chyflogi gan yr Awdurdod Lleol ”.

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman - “Mae fy mab yn gweithio i'r 

Awdurdod Lleol".

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams - “Mae fy mab yn gweithio i'r
  • Awdurdod Lleol".

 

 

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman y budd personol canlynol mewn perthynas â'r eitemau canlynol ar yr agenda:

 

Eitem 6 - Datganiad o Gyfrifon Rhondda Cynon Taf ac Adroddiad Archwilio Allanol

 

Eitem 7 - Adroddiad Cynnydd a Throsolwg - Lliniaru Llifogydd

 

Eitem 8 - Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig – y Newyddion Diweddaraf  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

52.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Ø  Cyflwynodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis ddeiseb i'r Cadeirydd ar ran aelod ward y Cynghorydd E George a preswylwyr mewn perthynas â 'Mesurau Lleihau Cyflymder ar gyfer Heol Abercynon'. 

 

Ø  Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Elliott gyflawniad Tom Matthews o Aberdâr wedi iddo ennill medal Efydd yn y gystadleuaeth tenis bwrdd yn ei ddigwyddiad Paralympaidd cyntaf yn ninas Tokyo. Cafodd ei groesawu gartref gan bawb yn yr ardal.

 

Ø  Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman fod Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi penodiad 10 cymrawd er anrhydedd newydd yn ddiweddar, gan gynnwys Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau i BBC Cymru, am ei chyfraniad rhagorol i faes Darlledu. Roedd Rhuanedd yn arfer byw yng Nghefnpennar a Chwmaman, ac fe’i haddysgwyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth, mae’n gyn-lywydd ar UCM Cymru ac mae bellach yn byw ym Mhontypridd. Roedd y Cynghorydd Jarman hefyd am anfon ei chydymdeimlad at ffrindiau a theulu cydweithiwr agos Rhuanedd, Magi Dodd, sef un o gyflwynwyr Radio Cymru, a fu farw yn 44 oed.

 

Ø  Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Griffiths hefyd yn dymuno talu teyrnged i Magi Dodd. Ganwyd Magi ym Mhontypridd a mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen. Roedd hi'n gyflwynydd a chynhyrchydd a oedd yn angerddol am gerddoriaeth Gymraeg, ac roedd hi'n hyrwyddo llawer o fandiau fel 'Breichiau Hir' - dywedon nhw ei bod hi wedi gwneud iddyn nhw deimlo fel "sêr roc go iawn". Roedd hi'n unigryw a llwyddodd i gyrraedd cynulleidfa ifanc trwy Radio Cymru. Cynhyrchodd lawer o raglenni radio gan gynnwys rhaglen y Cynghorydd S Rees-Owen. Roedd y Cynghorydd E Griffiths yn dymuno estyn ei chydymdeimlad i deulu ei Magi.

 

Ø  Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones fod Hayley Jacobs, Arweinydd Gyrfa yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog sy'n byw yn Ward Dwyrain Tonyrefail, wedi ennill gwobr Arweinydd y Flwyddyn y Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd ar gyfer 2021. Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer y wobr ddwywaith. Cysylltwyd â Hayley hefyd i ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiad cenedlaethol sy'n tarfod Arweinyddiaeth Gyrfa. Gofynnodd y Cynghorydd D Owen-Jones am pe byddai modd i Hayley dderbyn llythyr gan yr Aelod Cabinet perthnasol neu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Ymyrraeth yn cydnabod ei chyflawniad.

 

53.

Cofnodion pdf icon PDF 470 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar-lein ar y dyddiadau canlynol 

yn rhai cywir:-

 

Ø  30 Mehefin 2021 (cyfarfod 5pm)

Ø  14 Gorffennaf 2021

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd ar 30 Mehefin 2021 (5pm) a 14 Gorffennaf 2021 yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod yn amodol ar ddileu'r dyblygu ar dudalen 9 o dan 'Cyhoeddiadau' a nodi bod y Gr?p Ceidwadol wedi gadael y cyfarfod pan drafodwyd yr Hysbysiad o Gynnig (11B) (BEIS) 30 Mehefin 2021.

 

54.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Cofnodion:

Datganiad gan Arweinydd y Cyngor:

 

Estynnodd Arweinydd y Cyngor ei ddiolch i holl staff gofal cymdeithasol y Cyngor ac i'r staff yn y sector Annibynnol am eu holl waith drwy gydol y pandemig. Ychwanegodd fod staff wedi blino'n lân ar ôl gweithio sifftiau ychwanegol i gyflenwi dros y rhai sy'n gorfod hunan-ynysu ac mae staff hefyd yn delio â cholli cleifion yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor, bedair blynedd yn ôl, wedi cyflwyno'r cyflog byw sylfaenol i holl staff gofal cymdeithasol y Cyngor, a dwy flynedd yn ôl symudodd holl staff gofal cartref y sector annibynnol i'r un cyflog a bydd adroddiad y Cabinet a gyhoeddir yn fuan yn cyfeirio at gyflwyno'r cyflog byw i weithwyr y sector annibynnol sy'n gweithio ym maes gofal preswyl, byw â chymorth a thaliadau uniongyrchol. Mae'r pwysau ar y gwasanaeth gofal yn RhCT ar hyn o bryd yn heriol.

 

Fel Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae Arweinydd y Cyngor wedi cyfarfod â Gweinidogion ers hynny ynghylch y pwysau yn y sector hwn, a chynhelir cyfarfodydd pellach i drafod sefyllfa Cymru gyfan, gan fod nifer o awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau wrth gynnal lefel y gofal. Dywedodd yr Arweinydd fod RhCT yn dal i lwyddo i gynnal lefelau gofal yn y maes gwasanaeth hwn wrth iddo weithio gyda'r sector gwirfoddol ac annibynnol. Nododd yr Arweinydd, ym marn Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd yr heriau o'n blaenau yn ddigynsail eleni.

 

Yn ystod y misoedd nesaf efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol gymryd camau priodol i ddiogelu'r unigolion mwyaf agored i niwed yn y sector gofal cymdeithasol ac mae'r mater hwn yn cael ei drafod ar draws yr holl awdurdodau lleol. I gloi, estynnodd yr Arweinydd unwaith eto ei ddiolch, ar ran yr holl aelodau o bob gr?p gwleidyddol, i'r staff gofal cymdeithasol hynny am weithio'n ddiflino i gadw preswylwyr ac anwyliaid mor ddiogel â phosibl.

 

55.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 234 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau wybod bod ymddiheuriadau am absenoldeb wedi'u derbyn gan y Cynghorydd A S Fox a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, na fyddai cwestiwn 5 yn cael ei gyflwyno i'r Aelod o'r Cabinet.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol . Treeby i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A all yr Arweinydd wneud datganiad ar ddiogelwch cymunedol a phlismona lleol yn Rhondda Cynon Taf?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd mai Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf yw'r gr?p arwain strategol ar gyfer cynllunio, comisiynu a darparu gweithgareddau a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â diogelwch cymunedol. Mae aelodau'r Bwrdd Partneriaeth yn cynnwys: Cynghorau RhCT a Merthyr Tudful, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Bwrdd Iechyd CTM, a hefyd aelodau anstatudol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Bwrdd yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â lleihau troseddau a gwella diogelwch cymunedol yn Cwm Taf, gan ganolbwyntio'n benodol ar feysydd fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol lle mae carfan Diogelwch Cymunedol y Cyngor yn gweithio'n agos gyda HDC i sicrhau bod pawb sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol yn destun ymateb priodol. Mae gr?p strategol yn cyfarfod yn fisol i drafod y meysydd mwyaf problemus, gyda chynlluniau gweithredu ar waith i ymateb i faterion a nodwyd.

 

Mae maesydd arall yn cynnwys Rheoli Troseddwyr sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf, gwaith camddefnyddio sylweddau gyda Bwrdd Cynllunio Ardal CTM drwy ddarparu fframwaith rhanbarthol ar gyfer cefnogi Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau LlC, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae Carfan Cymunedau Diogel yn ail-lansio ymgyrch “Gofynnwch am Angela”, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno ar draws adeiladau trwyddedig yn y sir ar gyfer pobl sy'n teimlo'n fregus neu'n anniogel. 

 

Yn ogystal, esboniodd yr Arweinydd fod y Bwrdd Partneriaeth Diogelwch hefyd yn cynnwys meysydd fel cydlyniant Cymunedol a Gwrthderfysgaeth sy'n dangos bod llu o wasanaethau ar waith.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby:

 

“Yn dilyn buddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf mewn camerâu teledu cylch cyfyng yng nghanol trefi, pa effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael ac a yw wedi bod yn werth chweil? ”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod symud i'r camerâu digidol wedi bod yn werth chweil ac ychwanegodd ei fod wedi mynychu'r ganolfan teledu cylch cyfyng yn ddiweddar i weld y buddsoddiad dros ei hun. Dywedodd fod ansawdd y lluniau wedi gwella'n sylweddol ac mae'n cynorthwyo'r Heddlu i adnabod pobl yn hawdd ac yn gyflym, ac yn eu galluogi i weithredu 

gan gyfuno gwybodaeth leol â lluniau teledu cylch cyfyng. Mae adborth yr Heddlu wedi bod

yn amhrisiadwy.

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A wnaiff yr Arweinydd amlinellu cynlluniau’r Cyngor hwn i ddatblygu Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig ar draws y Fwrdeistref Sirol?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd, er bod awdurdodau lleol yn gweithio  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Rhaglen Waith y Cyngor 2021/22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ynghylch Rhaglen Waith y Cyngor, sydd wedi'i mabwysiadu a'i chyhoeddwyi, gan gynghori y byddai cyfarfod o Weithgor Rhyddid y Fwrdeistref, dan gadeiryddiaeth y Maer, yn cael ei gynnal i ystyried yr enwebiadau ac yn cael ei adrodd i'r Cyngor yn hwyrach na'r dyddiad a gynlluniwyd. Ar adeg briodol, bydd adroddiad yn amlinellu'r argymhellion a'r adborth ynghylch y Rhybuddion Cynigion a gyfeiriwyd at y Pwyllgorau Craffu yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor ar y cyd a bydd diweddariad pellach mewn perthynas â darlledu cyfarfodydd a threfniadau gweithio hybrid hefyd yn cael ei roi ar ddiwedd ail gam y broses gyflwyno.

 

Nodwyd y byddai'r ddau ddiweddariad pellach yn cael eu hadrodd i'r Cyngor ym mis Hydref sef yr Adolygiad o Reoliad, Ymwybyddiaeth a Gorfodi Deddfwriaeth Llifogydd a D?r a gefnogwyd yn ddiweddar gan y Cabinet a'r CDLl. I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cyflwyno diweddariad i'r Cyngor ym mis Tachwedd.

 

57.

Datganiad o Gyfrifon Rhondda Cynon Taf ac Adroddiad Archwilio Allanol pdf icon PDF 869 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

Cyflwynodd Mr M Jones, Archwiio Cymru, yr Adroddiad o ddatganiadau ariannol 2020-21 ar gyfer CBS Rhondda Cynon Taf, gan nodi bod yr adroddiad archwilio llawn ynghlwm yn Atodiad 2 ac mae'r holl gamddatganiadau a nodwyd wedi'u diwygio ac maent wedi'u nodi yn Atodiad 3.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Archwilio Cymru am ei gymeradwyaeth ddiamod o'r datganiadau ariannol ar gyfer 2020/21 a gwnaeth sylwadau ar y gwaith da

 a lefel yr ymddiriedaeth rhwng Archwilio Cymru a Swyddogion RhCT. Cydnabu hefyd faint o waith a wnaed gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol

 a'i staff o ran cyhoeddi nifer o grantiau cymorth a thaliadau prydau ysgol am

ddim yn ystod y flwyddyn sydd wedi'u cynnwys er mwyn bodloni'r archwilwyr.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd, cadarnhaodd Cyfarwyddwr

Gwasanaethau Cyllid a Digidol bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

wedi ystyried y cyfrifon drafft ar 12Gorffennaf 2021. Doedd y Pwyllgor

ddim wedi nodi unrhyw broblemau, er nad oedd y cofnodion yn cyfeirio at

hynny

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Cymeradwyo a nodi Datganiad o Gyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol

Rhondda Cynon Taf (Atodiad 1), a'r Llythyr Cynrychiolaeth

cysylltiedig (Atodiad 2).

 

2.   Cymeradwyo a nodi safle alldro terfynol y Cyngor, sydd wedi'i archwilio,

 ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 a lefel y Balansau Cyllid Cyffredinol  (paragraff 8.4 o'r adroddiad); ac

 

3. Nodi'r ystyriaethau a sylwadau yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 12Gorffennaf 2021 a 13Medi 2021 fel sy'n ofynnol gan y Mesur Llywodraeth Leol (paragraffau 11.1 ac 11.2).

 

 

58.

Adroddiad Cynnydd a Throsolwg - Lliniaru Llifogydd pdf icon PDF 500 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Rheng Flaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran, Materion Datblygu Ffyniant a Gwasanaethau Rheng Flaen a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd ar fesurau Lliniaru Llifogydd a gwaith cysylltiedig ar seilwaith ers Storm Dennis.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai cyflwyniad Power Point yn cyd-fynd â'r adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o rai o'r nifer o welliannau a wnaed ers Storm Dennis megis dros £3.5M wedi'i wario ar ddarparu gwaith cynnal a chadw i domenni glo ar draws RhCT ac ar y gwaith brys yn Nhylorstown, dros £4M ar atgyweirio difrod i strwythurau a rhwydweithiau draenio, a bron i £2.3M ar Gynlluniau Lliniaru Llifogydd newydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod adroddiad i'r Cabinet ar 21 Medi 2021 wedi ystyried cynyddu adnoddau tuag at godi ymwybyddiaeth a gwaith gorfodi o ran llifogydd ac wedi argymell y dylai'r Cyngor fabwysiadu rheoleiddio, codi ymwybyddiaeth a gorfodi deddfwriaeth llifogydd a d?r yn dilyn Storm Dennis. Ychwanegodd, ochr yn ochr â'r adroddiad hwn, bod sesiwn friffio Aelodau mewn perthynas â Rheoli Perygl Llifogydd ac Is-ddeddfau wedi'i chynnal a bod nifer wedi'i fynychu. Dywedodd y bydd adroddiad mewn perthynas â'r is-ddeddfau yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref, fel y cyfeiriwyd ato gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth -  Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Rheng Flaen ei gyflwyniad Power Point a ddangosodd y gwahanol gynlluniau gyda'r defnydd o ffotograffau gan gynnwys yr ystafell reoli argyfwng a sefydlwyd yn Nh? Elai pe bai unrhyw ddigwyddiad brys.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gwnaethant hynny mewn perthynas â'r canlynol:

 

Ø  A ddylai'r Cyngor fod yn gyfrifol am lle methodd ei seilwaith oherwydd nad oedd wedi'i gynnal yn y cyfnod cyn y llifogydd? A yw'r cofnodion cyn y llifogydd yn pennu pa mor fregus yw'r isadeileddau hynny?

Ø  A gyflwynir unrhyw un o'r hawliadau yswiriant ar sail esgeulustod ar ran y Cyngor?

Ø  Fel y nodwyd yn yr adroddiad i'r Cyngor, beth yw'r adroddiad terfynol sy'n ymwneud â chylfat Teras Campbell ac i bwy yr adroddwyd amdano?

Ø  A oes trydydd cam i'w weithredu yn Nheras Bronallt yn Abercwmboi?

Ø  A oes diweddariad ar y gwaith yn y gwaith uwch yng ngorsaf bwmpio Glenboi?

Ø  Beth yw'r diweddaraf gan CNC yngl?n â'r adolygiad o lifogydd afonydd yn y ward?

Ø  Hunangymorth a mesurau lleol - A oes gwybodaeth bellach ar gael ynghylch pa eiddo sydd wedi cael gatiau llifogydd a phwy sydd ddim wedi'u cael gan ei bod yn ymddangos bod anghysondeb?

Ø  Cynlluniau  Ymateb y Gymuned Mewn Argyfwng - beth yw'r amserlenni ar gyfer cadarnhau'r cynllun drafft a'r rhestr o adeiladau posibl?

Ø  A oes amserlen yn cadarnhau'r Adroddiadau Adran 19 sy'n weddill?

Ø  Dywed yr adroddiad fod archwiliadau pellach yn cael eu comisiynu ar gyfer y wal ar hyd Heol Berw, a allwch roi amserlenni inni ar gyfer yr archwiliadau oherwydd er bod y wal wedi'i hatgyweirio, mae pryderon o hyd nad yw'r wal yn gweithio fel amddiffynfa?

 

Darparodd  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig – y Newyddion Diweddaraf pdf icon PDF 172 KB

Rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 – 2024/2025

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, roi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 tan 2024/25, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2022/23 yn ystod misoedd yr hydref.

 

Hysbyswyd yr aelodau bod y pandemig wedi arwain at alw digynsail a phwysau ariannol ar draws holl wasanaethau'r Cyngor sydd, ar y cyfan, wedi'i ariannu gan gronfa caledi Llywodraeth Cymru. Yn genedlaethol bydd adolygiad gwariant 3 blynedd a gyhoeddir ar 27 Hydref 2021 a fydd yn allweddol wrth bennu lefel y cyllid sydd ar gael i genhedloedd datganoledig yng nghyd-destun yr adferiad economaidd a chyllidol ehangach.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, fel y nodir yn adran 5 yr adroddiad, bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru gan y Cyngor wedi'i lunio yn erbyn y cefndir hwn a thybiaethau modelu. Dangosir canlyniad y modelu yn ffigur 1 gyda bwlch yn y gyllideb ym mhob senario sy'n gyfystyr â bwlch o £26 miliwn ar draws y 3 blynedd mewn setliad positif o 4% i fwlch o £52 miliwn ar draws y 3 blynedd ar setliad positif o 2%.

 

Er mwyn parhau i gydbwyso'r gyllideb, dywedodd y Cyfarwyddwr y bydd angen i'r Cyngor barhau i ganolbwyntio a pharatoi'n dda ar gyfer ystod o sefyllfaoedd posibl a bydd y trefniadau tymor canolig ac ariannol a chynllunio gwasanaeth yn parhau i wasanaethu'r Cyngor yn dda yn hyn o beth.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cynllun wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Cyllid a Chyflawniad yn rhan o broses ymgynghori cyllideb 2022/23.

 

PENDERFYNWYD Nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r 'Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2021/22 tan 2024/25' a chael diweddariad pellach yn yr hydref yn rhan o'r broses gosod cyllideb flynyddol.

 

60.

Blaenoriaethau Buddsoddi'r Cyngor pdf icon PDF 377 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol at ei adroddiad sy'n nodi'r sefyllfa o ran cynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd o flaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024. Wrth gyflwyno ei adroddiad, gofynnodd am gytundeb y Cyngor oy trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel y'u nodir ym mharagraff 4 a fydd, os cytunir arnynt, yn cael eu hymgorffori yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad  PENDERFYNWYD cytuno ar y trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel y'u nodir ym mharagraff 4 a fydd yn cael eu hymgorffori yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.

 

61.

ADOLYGIAD O ETHOLAETHAU SENEDDOL YNG NGHYMRU 2023 - CYNIGION CYCHWYNNOL COMISIWN FFINIAU CYMRU pdf icon PDF 404 KB

Derbynadroddiad y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol ei adroddiad a'r atodiadau

Cysylltiedig mewn perthynas â chyhoeddi cynigion cychwynnol y Comisiwn

Ffiniau Cymru, a gyhoeddwyd ar yr 8 Medi 2021 mewn perthynas â'r

etholaethau seneddol newydd arfaethedig yng Nghymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at yr argymhellion a nodwyd yn yr

adroddiad i gynnwys yr argymhelliad i gyfeirio'r mater i'r 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w ystyried. Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a

Chraffu Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig a chynghori y dylid gwahoddiad

i holl Aelodau'r Cyngor yn cael ei gylchredeg i fynychu a chyfrannu at y

Mater

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cyfeirio ystyriaeth o gynigion cychwynnol y Comisiwn Ffiniau at y Pwyllgor Trosolwg a Craffu a chytuno ar yr adborth ohonynt yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn ei gyfarfod i'w gynnal ar yr 20th Hydref 2021, er mwyn gallu ymateb erbyn dyddiad cau'r 3rd Tachwedd 2021; a

 

  1. Gwahodd holl Aelodau'r Cyngor i fynychu'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu a chyfrannu at y mater hwn.

 

62.

Newid Aelodaeth Pwyllgorau pdf icon PDF 204 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

 

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i gynghori Aelodau o'r newid i'r gynrychiolaeth Lafur ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Pwyllgor Craffu Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant a'r Pwyllgor Craffu ar Blant a Phobl Ifanc.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. I nodi y byddai Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Elliott yn cael ei enwebu i gymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes ar y Pwyllgor Archwilio.

 

  1. Bydd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Barton yn cael ei enwebu yn lle'r Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Harries ar y Pwyllgor Craffu Cyflenwi Gwasanaethau Cymunedol, Cymunedau a Ffyniant.

 

  1. Bod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Turner yn cymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Davies-Jones ar y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc;

 

63.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 118 KB

A.    Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau: M. Griffiths, J. Barton, L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, , J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams, a R. Yeo

 

 

Dros y 18 mis diwethaf, mae arwyr ar y rheng flaen ym, mhob rhan o'r sectorau cyhoeddus a phreifat wedi arwain y frwydr yn erbyn COVID-19, gan roi eu hunain mewn perygl a gwneud aberthau personol enfawr i ddiogelu'r GIG, achub bywydau a chadw'r DU i fynd.

Mae eu cyfraniadau wedi cael eu cydnabod yn eang, gyda miliynau yn sefyll ar eu stepen drws i ddangos eu gwerthfawrogiad ar wahanol adegau yn ystod y pandemig.  Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyfleu ei werthfawrogiad mewn cyfres o ddyfyniadau gwag am arwyr y rheng flaen.

Serch hynny, yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant un flwyddyn yr hydref diwethaf, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys “saib” tâl sector cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, gyda dim ond y rhai sy'n ennill llai na £24,000 a staff y GIG yn cael eu heithrio.  Ym mis Mawrth, cafodd Llywodraeth y DU ei feirniadu'n chwyrn ar ôl i gynigion ar gyfer codiad cyflog o 1% ar gyfer y rhai sydd wedi'u heithrio o'r “saib” gael eu cyhoeddi, tra bod modd i'w gynnig gwell o 3%, yn dilyn argymhelliad gan gorff Adolygu Cyflogau'r GIG, arwain at gamau gweithredu diwydiannol.

Mae arwyr rheng flaen ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus bellach yn wynebu toriad cyflog gwirioneddol arall er gwaethaf eu hymdrechion diflino i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnal a bod ein cymunedau'n cael eu cadw'n ddiogel dros y 18 mis diwethaf.  Mae uwch gynrychiolwyr o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi mynegi eu siom a’u gwrthwynebiad i godiad cyflog o 0% - sy'n dod ar adeg pan mae swyddogion yr heddlu'n wynebu mwy na 100 o ymosodiadau y dydd (cynnydd o 20% ers y flwyddyn flaenorol).  Yn ogystal â hynny, mae'r miloedd o staff a gaiff eu cyflogi gan y Cyngor yma wedi cael cynnig cynnydd cyflog o 1.75%, a bydd angen i'r Cyngor yma ariannu'r cynnydd yn llwyr o'i adnoddau ei hun os caiff ei dderbyn.

Yn ddiweddar, mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu derbyn y codiad cyflog argymelledig o 1.75% i athrawon. Serch hynny, os cytunir arno, mae'n debygol y bydd angen dod o hyd i'r cyllid o'r adnoddau presennol hefyd, gan na dderbyniodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian ychwanegol trwy fformiwla Barnett i ddarparu'r dyfarniadau cyflog ledled y sector cyhoeddus yn 2021-22.  Llywodraeth y DU oedd  ...  view the full Agenda text for item 63.

Cofnodion:

12A

 

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau: L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams, a R. Yeo.

 

Dros y 18 mis diwethaf, mae arwyr ar y rheng flaen ym, mhob rhan o'r sectorau cyhoeddus a phreifat wedi arwain y frwydr yn erbyn COVID-19, gan roi eu hunain mewn perygl a gwneud aberthau personol enfawr i ddiogelu'r GIG, achub bywydau a chadw'r DU i fynd.

Mae eu cyfraniadau wedi cael eu cydnabod yn eang, gyda miliynau yn sefyll ar eu stepen drws i ddangos eu gwerthfawrogiad ar wahanol adegau yn ystod y pandemig.  Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyfleu ei werthfawrogiad mewn cyfres o ddyfyniadau gwag am arwyr y rheng flaen.

Serch hynny, yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant un flwyddyn yr hydref diwethaf, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys “saib” tâl sector cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, gyda dim ond y rhai sy'n ennill llai na £24,000 a staff y GIG yn cael eu heithrio.  Ym mis Mawrth, cafodd Llywodraeth y DU ei feirniadu'n chwyrn ar ôl i gynigion ar gyfer codiad cyflog o 1% ar gyfer y rhai sydd wedi'u heithrio o'r “saib” gael eu cyhoeddi, tra bod modd i'w gynnig gwell o 3%, yn dilyn argymhelliad gan gorff Adolygu Cyflogau'r GIG, arwain at gamau gweithredu diwydiannol.

Mae arwyr rheng flaen ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus bellach yn wynebu toriad cyflog gwirioneddol arall er gwaethaf eu hymdrechion diflino i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnal a bod ein cymunedau'n cael eu cadw'n ddiogel dros y 18 mis diwethaf.  Mae uwch gynrychiolwyr o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi mynegi eu siom a’u gwrthwynebiad i godiad cyflog o 0% - sy'n dod ar adeg pan mae swyddogion yr heddlu'n wynebu mwy na 100 o ymosodiadau y dydd (cynnydd o 20% ers y flwyddyn flaenorol).  Yn ogystal â hynny, mae'r miloedd o staff a gaiff eu cyflogi gan y Cyngor yma wedi cael cynnig cynnydd cyflog o 1.75%, a bydd angen i'r Cyngor yma ariannu'r cynnydd yn llwyr o'i adnoddau ei hun os caiff ei dderbyn.

Yn ddiweddar, mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu derbyn y codiad cyflog argymelledig o 1.75% i athrawon. Serch hynny, os cytunir arno, mae'n debygol y bydd angen dod o hyd i'r cyllid o'r adnoddau presennol hefyd, gan na dderbyniodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian ychwanegol trwy fformiwla Barnett i ddarparu'r dyfarniadau cyflog ledled y sector cyhoeddus yn 2021-22.  Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am y penderfyniad  ...  view the full Cofnodion text for item 63.