Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

38.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Belzak, GR Davies, J Davies, L De Vet, M Forey, H Fychan MS, J Harries, G Holmes, J James MS, A Davies-Jones, Martin Fidler Jones, D Owen-Jones, S Pickering, MJ Powell, S Rees-Owen, M Tegg ac R Turner.

 

39.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

  1. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 6 ar yr Agenda: Adolygiad Blynyddol Cylch Rheoli’r Trysorlys 2020/21

Eitem 7 ar yr Agenda: Pecynnau Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd a Diswyddo ar gyfer Prif Swyddogion

Eitem 8 ar yr Agenda - Adolygiad o Strwythur Cyflog a Graddfeydd y Cyngor

Eitem 10 ar yr Agenda - Strwythur Uwch Reolwyr y Cyngor

 

Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman at y gollyngiad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 27 Tachwedd 2020 gan ddarparu “gollyngiad i'r aelod siarad a phleidleisio ar bob mater trwy gydol proses Cyllideb 2021-22, a'i mabwysiadu, yn rhinwedd ei swydd yn Arweinydd yr Wrthblaid.”

Eitem 8 ar yr Agenda - Adolygiad o Strwythur Cyflog a Graddfeydd y Cyngor ac

Eitem 10 ar yr Agenda - Strwythur Uwch Reolwyr y Cyngor

 

Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu gan gyfeirio at y gollyngiad a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 27 Tachwedd 2020, sy'n caniatáu iddo siarad ar yr holl faterion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, heblaw am unrhyw faterion sy'n effeithio ar ei ferch sydd wedi'i chyflogi gan y Cyngor, ac sy'n gweithio yn y Gyfadran Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant. Nododd y byddai'n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

 

Eitem 10 ar yr Agenda - Strwythur Uwch Reolwyr y Cyngor

 

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol:

“Hoffwn ddatgan buddiant Personol ac Ariannol ar fy rhan i a’r holl Brif Swyddogion sy’n bresennol mewn perthynas ag Eitem 10 ar yr Agenda gan fod ein swyddi yn cael eu cyfeirio atynt yn yr adroddiad.  Bydd pob Prif Swyddog yn gadael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon heblaw'r Prif Weithredwr, ac yntau’n awdur yr adroddiad a’r swyddog sy’n cyflwyno’r adroddiad, a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a fydd yn aros yn y cyfarfod i fynd i'r afael ag unrhyw ymholiadau gan Aelodau. Er y byddaf i’n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth, byddaf ar gael pe bai unrhyw ymholiadau cyfreithiol neu gyfansoddiadol yn codi wrth drafod yr eitem. ”

 

40.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd M Webber fod Mr Paul Bromwell,  Prif Weithredwr Valleys Veterans wedi cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau cyntaf Pobl Aneurin Bevan y GIG, i gydnabod ei waith o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Dywedodd y Cynghorydd Webber ei bod wedi cyfarfod â Mr Bromwell i'w longyfarch ar ran y Cyngor yn ogystal â'i longyfarch yn bersonol.

 

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. A. Bradwick

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd Bradwick, ac yntau'n Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gymunedol Aberdâr, fod Mr James Jones, Cydlynydd Cymhwysedd Digidol yn Ysgol Gymunedol Aberdâr wedi ennill gwobr Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn gan Brifysgol De Cymru ar ôl iddo roi cymorth i'r myfyrwyr hynny a oedd yn cael trafferth wrth ddilyn sesiynau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud  Cafodd ei enwebu gan un o'i fyfyrwyr ym Mlwyddyn 10. Aeth Mr Jones ati i greu cyfres o fideos ar gyfer ei fyfyrwyr trwy ddefnyddio meddalwedd am ddim i greu amserydd i'w helpu gyda dysgu o bell. Roedd hwn yn gyfuniad o gymorth bugeiliol a chymorth pwnc.

 

Roedd y Cynghorydd Bradwick wedi diolch i Brifysgol De Cymru am gynnal y seremoni wobrwyo a gofynnodd a allai'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a / neu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant anfon llythyr at Mr James Jones.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Evans

 

Roedd y Cynghorydd S Evans hefyd am longyfarch Mr James Jones am ei lwyddiant yng ngwobrau Athrawon a Chynghorwyr Prifysgol De Cymru 2021. Roedd ei charfan hi ym Mhrifysgol De Cymru wedi trefnu'r achlysur.  Disgrifiodd y Cynghorydd Evans yr enwebiad gan Alexander Martin, disgybl Blwyddyn 10 fel enwebiad emosiynol iawn a oedd yn disgrifio Mr James fel athro a wnaeth ichi deimlo 'fel bod unrhyw beth yn bosibl'. Daeth y Cynghorydd Evans i ben drwy ddweud ei bod hi'n braf gweld Athro o RCT yn ennill y wobr.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan

 

Roedd y Cynghorydd Grehan yn dymuno llongyfarch disgyblion yn nosbarthiadau Mr a Ms Hughes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail am gynnal gwaith ymchwil yn rhan o gynllun Gadewch i ni Gyfrif!. Roedd y disgyblion wedi gwneud gwaith ymchwil mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg yn 1901 ac yn 2011, a chymharu'r ddau, gan roi sylw arbennig i'w cymuned eu hunain. Diben yr ymchwil oedd codi ymwybyddiaeth o’r Cyfrifiad yn 2021. Allan o 250 o geisiadau enillodd yr ysgol y wobr gyntaf yng Nghymru a'r ail wobr yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd yr ysgol yn chwarae rhan allweddol wrth gyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad y Gwanwyn nesaf.

 

41.

Cofnodion pdf icon PDF 164 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor arbennig, a gynhaliwyd ar 30 Mehefin am 4pm, yn rhai cywir.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mehefin am 4pm yn rhai cywir.

 

42.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am y ffigurau diweddar mewn perthynas â  nifer yr achosion o Covid-19 ledled Cwm Taf Morgannwg. Rhoddodd yr Arweinydd wybod mai nifer yr achosion positif yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg yw 143.5 achos fesul 100,000 sy'n cynrychioli cynnydd sylweddol dros yr wythnosau diwethaf. Yng Nghymru mae'r gyfradd o achosion positif wedi cynyddu i 7.6%, 7.5% yw'r gyfradd o achosion positif yn RhCT. Mae'r gyfradd uchaf o achosion positif yn parhau i fod ymhlith pobl ifainc, yn enwedig ymhlith pobl 25 oed neu'n iau. I gydnabod hyn, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn annog y gr?p oedran hwn i gael y brechlyn sy'n helpu i leihau lledaeniad y firws. Dywedodd yr Arweinydd, yn anffodus, y gallai nifer y marwolaethau gynyddu o fewn yr wythnosau nesaf wrth i nifer yr achosion positif gynyddu.

 

O 17 Gorffennaf bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 1 ond rhoddodd yr Arweinydd wybod bod angen bod yn ofalus wrth i'r wlad symud i'r lefel rhybudd yma. Rydym yn annog trigolion i wisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac i fod yn gyfrifol am ddiogelwch pawb o'u cwmpas. I gloi, dywedodd yr Arweinydd y byddai adolygiad mwy manwl ynghylch y newidiadau yn cael ei rannu â'r Aelodau'n dilyn y cyfarfod, fel eu bod nhw'n effro i'r newidiadau yn dilyn 17 Gorffennaf, 19 Gorffennaf a 7 Awst.

 

Mewn datganiad pellach, nododd yr Arweinydd y byddai diweddariad lliniaru llifogydd yn cael ei ddarparu i'r Cyngor ym mis Medi i adlewyrchu'r cynnydd hyd yma a chyn misoedd y gaeaf. Bydd datganiadau i'r wasg hefyd yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am y gwaith sy’n cael ei gyflawni ar geuffosydd a gorsafoedd pwmpio cyn misoedd y gaeaf.

Dywedodd yr Arweinydd ei fod ef a'r Dirprwy Arweinydd wedi ymweld â'r ystafell reoli argyfwng newydd a fydd yn gweithredu pe bai unrhyw fath o argyfwng. Mae offer priodol yn cael ei gadw yn yr ystafell sy'n galluogi Swyddogion ac Aelodau i wneud penderfyniadau strategol mewn modd effeithiol. Mae'r offer yma'n cynnwys systemau larwm mewn cilfachau ceuffos a thai pwmpio wedi'u monitro i rybuddio'r Cyngor o bell am unrhyw broblemau a mynediad at system teledu cylch cyfyng y Cyngor.

 

43.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 124 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

“Sut mae'r Cyngor hwn yn cefnogi ei gymuned Lluoedd Arfog leol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber:

 

Dywedodd y Cynghorydd Webber mai RhCT yw'r Cyngor cyntaf yng Nghymru i ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog sy'n ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng y lluoedd arfog a'r gymuned sifil ac mae'n addo cydnabod y parch sy'n bodoli rhwng y Cyngor, ei asiantaethau partner, ei gymunedau a'n Personél Lluoedd Arfog (sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol) a'u teuluoedd. Yn 2019 lansiodd Cyngor RhCT ei Wasanaeth Cyngor i Gyn-Filwyr ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog, sy'n cael ei gynnig gan Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog (AFLOW). Mae'r swyddog yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff ac yn sicrhau bod y lefel orau o gefnogaeth yn cael ei chynnig. Mae'r Cyngor yn cynnig ffioedd claddu gostyngedig i gymuned y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol ac sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos ar Gofeb Ryfel Aberdâr, Cofeb Ryfel Llantrisant, Cofeb Ryfel Gilfach Goch ac wedi cynnal trafodaethau ynghylch Cofebion Rhyfel yn Nhonypandy, Penrhiwceiber a Chwm-parc. Eleni mae'r Cyngor wedi cyflwyno cais llwyddiannus am arian gan gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer y Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr i helpu i gynnal cyswllt rhwng cyn-filwyr a'u teuluoedd trwy dechnoleg ddigidol sy'n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.

 

Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys cyflwyno adroddiad i'r Cabinet ynghylch goresgyn rhwystrau i gyflogaeth sifil a allai arwain at gyflwyno cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr wrth gefn a'u priod os ydynt yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer swyddi gwag.

 

I gloi, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod ei chyfraniad personol ei hun wedi cynnwys cefnogi’r prosiectau sy'n ymwneud â Chofeb Ryfel, cefnogi Grwpiau Cyn-filwyr y Cymoedd gyda’u prosiectau a’u clybiau brecwast, gan roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol T?’r Cyffredin ar Fil y Lluoedd Arfog, cefnogi Cyn-filwyr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae'r Dirprwy Arweinydd hefyd yn cyflawni rôl llefarydd y Lluoedd Arfog Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. S. Fox:

 

“Dywedodd y Cynghorydd Fox fod cymuned Penrhiwceiber wedi ymrwymo i dalu teyrnged i aelodau cymuned y lluoedd arfog a gofynnodd a all y Dirprwy Arweinydd ddarparu diweddariad ynghylch y gwaith i adfer y cloc coffa”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber

 

“Cadarnhaodd y Cynghorydd Webber ei bod hi wedi ymweld â’r Gofeb Ryfel ym Mhenrhiwceiber a rhoddodd wybod bod y cloc Coffa wedi’i restru ond ychwanegodd fod y Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â Cadw. Er nad oes llawer o arbenigwyr cloc ar gael, mae adroddiad pensaer a chyngor arbenigol mewn perthynas â'r cloc wedi cael eu casglu a'u hanfon at Cadw. Mae'r Cyngor wedi gwneud cais am rywfaint o gyllid gan Gronfa Cofebion Rhyfel er mwyn ei defnyddio i drwsio'r cloc a daeth  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Rhaglen Waith y Cyngor - er gwybodaeth i Aelodau

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cyngor a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22. Dywedodd fod adroddiad Rhyddid y Fwrdeistref wedi'i ohirio er mwyn caniatáu i drafodaethau mewn perthynas â'r enwebiadau gan Weithgor Rhyddid y Fwrdeistref gael eu cadarnhau.

 

Bydd canlyniadau'r Rhybuddion o Gynnig a gafodd eu cyflwyno i'r Pwyllgorau Craffu, megis y Rhybudd o Gynnig ynghylch Clefyd Niwronau Motor, Awtistiaeth a Datblygu Isadeiledd y Rheilffyrdd, yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. Bydd diweddariad ynghylch Darlledu Cyfarfodydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn dilyn cyfarfod hybrid y Cabinet a chyfarfodydd ymgyfarwyddo pellach yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

45.

Adolygiad Blynyddol Cylch Rheoli’r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 165 KB

To receive the report of the Director of Finance & Digital Services.

Cofnodion:

 

Yn unol â gofynion Cod Ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

mewn perthynas â Rheoli'r Trysorlys a Chod Materion Ariannol Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf Awdurdodau Lleol, rhannodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol gwybodaeth â'r Aelodau yngl?n â:

 

·     Gweithgaredd Rheoli'r Trysorlys Cyngor yn ystod 2020/21; a

·     Gwir Ddangosyddion Darbodus a Dangosyddion y Trysorlys ar gyfer 2020/21.

 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr

adroddiad.

 

46.

Pecynnau Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd a Diswyddo ar gyfer Prif Swyddogion pdf icon PDF 106 KB

Trafod adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Yn dilyn argymhellion gan Banel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd y Cyngor, siaradodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol am y pecyn diswyddo ar gyfer Prif Swyddogion (fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad) yn unol â datganiad Polisi Cyflog y Cyngor ar gyfer 2021/22, sydd wedi'i gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol fod y 'straen' neu'r gost gyfalaf ar y gronfa bensiwn yn cynrychioli taliad y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei wneud i'r gronfa bensiwn yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) 2013 (30(7) a 68(2)) a byddai unrhyw esboniad pellach yn cael ei ddarparu i'r Aelod unigol fel sy'n briodol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD Cymeradwyo pecyn diswyddo ar gyfer Prif Swyddog (fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad) yn unol â datganiad Polisi Cyflog y Cyngor ar gyfer 2021/22, sydd wedi'i gymeradwyo.

 

47.

Adolygiad o Strwythur Cyflog a Graddfeydd y Cyngor pdf icon PDF 134 KB

Trafod adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ei adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag adolygiad o Strwythur Cyflog a Graddfeydd y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol eglurhad pellach mewn perthynas â phwynt 7.1 o'r adroddiad. Dylai'r pwynt yma gyfeirio at strwythur graddfeydd presennol nid at y 'diwygiadau i strwythur uwch reolwyr y Cyngor'. Wrth ymateb i ymholiad yngl?n â phroses werthuso sgiliau Iaith Gymraeg ar gyfer y graddau 1-18, dywedodd y Cyfarwyddwr fod pob disgrifiad swydd a manyleb person yn nodi gofynion y sgiliau Iaith Cymraeg sy'n gysylltiedig â'r swydd benodol.

 

Ar ôl ymateb i'r ymholiadau a rhoi ystyriaeth bellach i'r adroddiad, PENDERFYNWYDcymeradwyo ymestyn y system gyfredol ar gyfer cyflog a graddfeydd mewn perthynas â Graddau 1 i 15, er mwyn cynnwys Graddau 16, 17 ac 18 (fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad), mewn perthynas â holl staff sydd wedi'u cyflogi o dan telerau ac amodau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.

 

(Nodwch: Fel y cyfeiriwyd ato yng nghofnod 39, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol DR Bevan y cyfarfod pan drafodwyd y mater ac yn ystod y bleidlais).

 

48.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod eitem 9, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod yn ystod yr eitemau canlynol ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

49.

Strwythur Uwch Reolwyr y Cyngor

Trafod adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

Nodi:

 

1.          Bod y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) yn cael eu gweithredu o 1 Awst 2021 a'r strwythur yn 2(iv) yn cael ei weithredu o 1 Hydref 2021. Yn ogystal â hynny, gweithredir y strwythur a ddangosir yn Atodiad 3 (i) o 1 Mai 2022. Byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £250,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr a Rheolwyr Cysylltiedig (sy'n cynnwys argostau);

 

2.       Bod y Cabinet yn awdurdodi'r swyddi canlynol, sy'n deillio o'r strwythurau diwygiedig sydd wedi'u hamlinellu yn adran 2.1.1 yr adroddiad:

 

i)            diwygio swydd Cyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 1);

 

ii)          diwygio swydd Pennaeth Cyfrifeg Corfforaethol a Rheoli (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyfrifeg Gorfforaethol a Rheoli (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

 

iii)         diwygio swydd Pennaeth Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

 

iv)         diwygio swydd Pennaeth Cyllid - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cyllid - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

 

v)          diwygio swydd Pennaeth Datblygu'r Gyfundrefn (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Datblygu'r Gyfundrefn (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

 

vi)         diwygio swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);

 

vii)        diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);

 

viii)      diwygio swydd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth Refeniw a Budd-daliadau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);

 

ix)         diwygio swydd Pennaeth y Gwasanaethau Llety (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth y Gwasanaethau Llety (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);

 

x)          diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant (Cyfarwyddwr – Lefel 1)

 

xi)         diwygio swydd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i swydd Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);

 

xii)        diwygio swydd Pennaeth Materion Trawsnewid ac Addysg (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth Materion Trawsnewid, Derbyn a Llywodraethu (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);

 

xiii)      diwygio swydd Pennaeth Cyflawniad Uwchradd (0.5) (gradd soulbury) i swydd Pennaeth Cyflawniad a Lles Uwchradd (gradd soulbury);

 

xiv)      diwygio swydd Cymorth Cynghori i Ysgolion (graddfa soulbury) i Bennaeth Cyflawniad Ysgolion Cynradd (graddfa soulbury);

 

xv)       diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Lefel 1) i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Lefel 1)

 

xvi)      diwygio swydd Pennaeth Materion Buddsoddi Strategol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Trafnidiaeth, Gorfodi a Materion Buddsoddi Strategol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);  ...  view the full Cofnodion text for item 49.