Lleoliad: rhithwir
Cyswllt: Julia Nicholls 07385 086814
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad o absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Davies-Jones, M Fidler Jones, H Fychan, J James, K L Jones, M Tegg, R K Turner, J Williams a C Willis.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheol Dull Gweithredu'r Cyngor 15.1 Cofnodion: Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais - a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd, mai nifer y pleidiau gwleidyddol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod oedd: - Gr?p Llafur - 34 Gr?p Plaid Cymru - 12 Gr?p Annibynnol RhCT - 4 Gr?p y Ceidwadwyr - 2
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOLIADAU A PHENODIADAU a) Ethol Llywydd y Cyngor.
b) Ethol Dirprwy Lywydd y Cyngor.
c) Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2020-2021.
d) Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022. (Er mwyn i'r Maer gyhoeddi ei gymar/ei chymar ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022)
e) Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022. (Er mwyn i'r Dirprwy Faer gyhoeddi ei gymar/ei chymar ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022)
f) Penodi Arweinydd y Cyngor.
g) Cadarnhau bod Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn cael ei benodi'n/ei phenodi'n Arweinydd yr Wrthblaid.
Cofnodion: 2a. Ethol Llywydd y Cyngor
PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill i fod yn Llywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.
Cymerodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill y Gadair yn dilyn ei benodiad.
2b. Ethol Dirprwy Lywydd y Cyngor
PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes i fod yn Ddirprwy Lywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.
(Nodyn: Ymataliodd y Gr?p Ceidwadol rhag pleidleisio ar y mater)
2c. Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2020-2021.
Manteisiodd y Maer ar y cyfle i fyfyrio ar ei blwyddyn fel Maer Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21. Diolchodd y Maer i'r Cyngor am roi'r anrhydedd fawr iddi o wasanaethu yn Faer Rhondda Cynon Taf, er bod hynny mewn modd gwahanol iawn i bob Maer blaenorol. Tynnodd y Maer sy'n gadael sylw at rai o'r achlysuron pwysig a gymerodd hi ran ynddyn nhw tra'n cadw pellter cymdeithasol, megis Gwasanaeth Coffa ger Cofeb Glynrhedynog fis Tachwedd, lle gosododd hi dorch flodau yn deyrnged i filwyr y gorffennol a'r presennol.
Yn dilyn llacio'r cyfyngiadau, llwyddodd y Maer i ymweld â Chartref Gofal T? Nant i dderbyn rhodd hael a roddwyd i Elusennau'r Maer, gan eu preswylwyr a'r Cartref yn lle anfon Cardiau Nadolig.
Talodd y Maer deyrnged i bawb sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig a thalodd deyrnged bersonol i weithwyr hanfodol, gwasanaethau rheng flaen a gweithwyr meddygol proffesiynol, yn ogystal â'r rhai sy'n rhan o'r Rhaglen Frechu yn Rhondda Cynon Taf. Cydnabu ymroddiad a phroffesiynoldeb cynifer o bobl sydd wedi dangos cryfder aruthrol yn ystod y cyfnod yma.
Manteisiodd y Maer sy’n ymddeol ar y cyfle i ddymuno pob hwyl i’w holynydd a daeth i ben gyda geiriau’r diweddar Capten Syr Tom, “bydd yfory yn ddiwrnod gwell”.
Wrth ymateb i hyn, talodd yr Aelodau deyrnged i'r Maer sy'n ymddeol, gan ei chanmol am ei holl waith caled a'i hymdrechion yn ystod blwyddyn nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen.
2d Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.
PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto yn Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022
Diolchodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 i'r Maer sy'n ymddeol, yn ogystal â diolch ac am y cyfle a roddwyd iddi fel Maer newydd. Cyhoeddodd mai ei g?r, Lawrence, a'i merch, Nicola Charlesworth, fydd ei chydweddogion. Yr elusennau a ddewiswyd ganddi yw 'Help for Heroes', 'To Wish Upon A Star' ac 'AP Cymru'.
Dymunodd yr Aelodau yn dda i'r Maer newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
2e. Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.
PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.
Llongyfarchodd y Dirprwy Faer y Maer newydd, yn ogystal â diolch am yr anrhydedd o ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
SWYDDOGAETHAU GWEITHREDOL Nodi Cynllun yr Arweinydd parthed Dirprwyo Llywodraethol, gan gynnwys penodi Dirprwy Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet, i’w cyflwyno gan yr Arweinydd yn ystod cyfarfod o'r Cyngor. Cofnodion: Swyddogaethau Gweithredol - Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd
Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan y byddai'r cynllun dirprwyo yn cael ei gyhoeddi a'i anfon at bob Aelod yn ystod y cyfarfod. Bydd hefyd i'w weld ar wefan y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi'r Cabinet a'u swyddogaethau unigol, fel y ganlyn: -
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 133 KB Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu. Cofnodion: Yn ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth yr Aelodau am ganlyniad yr adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol yr Awdurdod, a gaiff ei adrodd yn rhan o fusnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Balans Gwleidyddol y Cyngor yn adlewyrchu canlyniad y ddau Is-etholiad diweddar.
Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Adran 4 yr adroddiad sy'n nodi canlyniadau'r adolygiad a gynhaliwyd a'r seddi sydd ar gael ac sydd angen eu penodi i'r grwpiau gwleidyddol priodol. Cyfeiriodd yn benodol at adran 4.2 sy'n nodi'r diwygiadau i'r cydbwysedd gwleidyddol cyfredol gyda'r Gr?p Ceidwadol yn ennill cynrychiolaeth ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a Phwyllgorau Craffu'r Cyngor, seddi a oedd yn arfer bod yn eiddo i Gr?p Annibynnol RCT.
Dywedodd fod Adran 5 yn gofyn i'r Cyngor benderfynu ar ddyraniad yr hysbysiadau cynnig ar gyfer blwyddyn newydd y Cyngor, ac y gofynnir am awdurdod hefyd ar gyfer y penodiadau i'r Pwyllgorau unwaith y derbynnir yr enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol.
PENDERFYNWYD-
2.1 Mabwysiadu'r cynllun ar gyfer dyrannu seddi i'r gwahanol gyrff a grwpiau gwleidyddol y mae Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddo, fel y manylir yn yr Atodiad i'r adroddiad yma.
2.2 Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, i benodi i gyrff gwleidyddol cytbwys, pan fydd yn derbyn hysbysiad o ddymuniadau'r gr?p gwleidyddol, yn amodol ar dderbyn unrhyw geisiadau dilynol i newid aelodaeth y Pwyllgorau sydd wedi'u cyfeirio at y Cyngor.
2.2 Nodi nad yw Aelodau'r Cabinet yn gymwys i'w penodi i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu na Phwyllgorau Craffu;
2.4 Nodi bod modd i o leiaf un Aelod o'r Cabinet eistedd ar y Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio, a Gwasanaethau Democrataidd, ond bod Arweinydd y Cyngor wedi'i eithrio rhag cyflawni'r swyddi yma;
2.5 Bod y Rhybuddion o Gynnig ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 fel y ganlyn:
Llafur - 10 Plaid Cymru - 6 Gr?p Annibynnol RhCT - 2 Y Blaid Geidwadol - 1 Aelod heb ei ddyrannu (x1) - 1
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFANSODDIAD Y CYNGOR - NEWIDIADAU ARFAETHEDIG A MATERION ATEGOL PDF 231 KB Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu. Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu. Cofnodion: Roedd cyd-adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn gofyn i'r Cyngor benderfynu ar swyddi sy'n cael eu talu yn unol â phenderfyniadau Trydydd Adroddiad Blynyddol y Panel Taliadau Annibynnol. ('IRP') ar gyfer Cymru.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod yn bwysig, yn unol â chyfarwyddyd y Panel Taliadau Annibynnol, bod y Cyngor yn osgoi rhoi'r argraff ei fod yn pennu lefelau tâl Aelodau, fodd bynnag, ceisir penderfyniad mewn perthynas â'r meysydd lle rhoddir disgresiwn lleol, sef hyd at uchafswm o 19 swydd cyflog uwch i'r awdurdod lleol yma ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi penderfyniadau'r Panel fel y'u nodwyd yn ei adroddiad blynyddol;
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI AELODAU PWYLLGORAU 2021-2022 PDF 104 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhannu argymhellion mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r Pwyllgorau canlynol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad, a oedd yn gofyn am benodi Pwyllgorau canlynol y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022:
· Pwyllgor Cynllunio a Datblygu (x11 Aelod) · Pwyllgor Trwyddedu (x11 Aelod) · Pwyllgor Penodi (x5 Aelod) · Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau'r Gweithwyr / Apeliadau'r Prif Swyddogion (x5 Aelod) · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (x14 Aelod) · Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad (x14 Aelod) · Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant (x14 Aelod) · Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc (x14 Aelod) ac Aelodau Cyfetholedig Statudol · Pwyllgor Craffu - Materion Iechyd a Lles (x14 Aelod) · Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (x14 Aelod) ac 1 Aelod Lleyg · Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd (x14 Aelod) · Pwyllgor y Cyfansoddiad (x8 Aelod) · Pwyllgor y Gronfa Bensiwn (x5 Aelod) · Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (x5 Aelod) · Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (x2 Aelod)
Penodi'r Pwyllgorau sydd wedi'u nodi isod ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022:-
a) Pwyllgor Cynllunio a Datblygu (x11 Aelod) b) Pwyllgor Trwyddedu (x11 Aelod) c) Pwyllgor Penodi (x5 Aelod) d) Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau'r Gweithwyr / Apeliadau'r Prif Swyddogion (x5 Aelod) e) Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (x14 Aelod) f) Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad (x14 Aelod) g) Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant (x14 Aelod) h) Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc (x14 Aelod) ac Aelodau Cyfetholedig Statudol i) Pwyllgor Craffu - Materion Iechyd a Lles (x14 Aelod) j) Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (x14 Aelod) ac 1 Aelod Lleyg k) Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd (x14 Aelod) l) Pwyllgor y Cyfansoddiad (x8 Aelod) m)Pwyllgor y Gronfa Bensiwn (x5 Aelod) n) Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (x5 Aelod) o) Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (x2 Aelod)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION 2021-2022 PDF 110 KB Trafodadroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n nodi bod angen:
a) Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu b) Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu c) Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau d) Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau Gweithwyr / Apeliadau Prif Swyddogion e) Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn f) Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd g) Penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu canlynol: • Trosolwg a Chraffu • Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad • Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant • Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc • Pwyllgor Craffu – Iechyd a Lles Cofnodion: Yn ei adroddiad, roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yn gofyn i'r Cyngor ystyried penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau'r Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022, a PHENDERFYNWYD:
1. Penodi'r Aelodau canlynol i swyddi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion:
2. Penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Hooper yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.Webber yn Is-gadeirydd ar y pwyllgor hwnnw, yn unol â'r amodau a bennwyd ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;
3. Nodi, o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru), 2011, mai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sy'n gyfrifol am benodi Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw;
4. Cytuno y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn gyfrifol am benodi'r Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwnnw;
5. Bydd y gwaith o benodi Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad yn cael ei ddyrannu i Gr?p Annibynnol RhCT, a bydd y gwaith o benodi Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn cael ei ddyrannu i Gr?p Plaid Cymru;
6. Yn unol â'r enwebiadau a dderbyniwyd gan y Grwpiau Gwleidyddol priodol, bod yr Aelodau canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu sydd wedi'u nodi isod:--
7. Nodi penodiad y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad; a
8. Nodi bod Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y cyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 i'w benodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
(Nodyn: Ymatalodd Gr?p Annibynnol RhCT rhag pleidleisio ar benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac ymatalodd Gr?p Plaid Cymru rhag pleidleisio ar benodi'r Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYRFF LLED FARNWROL/PWYLLGORAU AD HOC 2021-2022 PDF 100 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n nodi bod angen penodi Aelodau ar gyfer y pwyllgorau canlynol:
a) Pwyllgor Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol (5 Aelod). (3 Llafur, 1 Plaid Cymru ac 1 o Gr?p Annibynnol RhCT)
b) Panel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd / Ymddiswyddo (x5 Aelod – 3 Llafur, 1 Plaid Cymru ac 1 o Gr?p Annibynnol RhCT)
c) Cydbwyllgor Ymgynghori (4 Aelod) Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r Pwyllgorau Lled-Farnwrol/Pwyllgorau Ad Hoc ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 yn amodol ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor fel y nodir isod:
PENDERFYNWYD penodi'r canlynol:
1. Pwyllgor Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol (5 Aelod). (3 Llafur, 1 Plaid Cymru ac 1 o Gr?p Annibynnol RhCT) Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Rosser, J Brencher, D Owen-Jones; Shelley Rees-Owen a MJ Powell;
2. Panel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd / Ymddiswyddo (x5 Aelod)(3 Llafur, 1 Plaid Cymru ac 1 o Gr?p Annibynnol RhCT): Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol W Treeby, J Bonetto, M Webber, M Weaver a L Walker;
3. Cydbwyllgor Ymgynghori (4 Aelod) Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Crimmings, R Lewis, M Webber ac A Morgan
(Nodyn: Ymatalodd Gr?p Plaid Cymru rhag pleidleisio ar y mater uchod)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYRFF ALLANOL A PHENODIADAU I BWYLLGORAU ERAILL PDF 115 KB
Cofnodion: Ar ôl ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu PENDERFYNWYD - y byddai'r Aelodau isod yn cael eu penodi i'r Cydbwyllgorau Anweithredol a'r cyrff Allanol canlynol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022: -
a) Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (1 cynrychiolydd: y Cynghorydd G Hopkins) b) Bwrdd Llywodraethwyr Coleg y Cymoedd (1 cynrychiolydd ac 1 Swyddog: Y Cynghorydd J Rosser/Mrs G Davies) c) Cyngor Cyswllt Cymru (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd M Webber) d) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (5 cynrychiolydd: Y Cynghorwyr R Bevan, C Leyshon, R Lewis, M Webber ac A Morgan) e) Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (1 cynrychiolydd / 1 is-gynrychiolydd: y Cynghorydd A Morgan a'r Cynghorydd M Webber yn y drefn honno) f) Bwrdd Canolfan Cydweithredol Cymru (1 cynrychiolydd: y Cynghorydd R Lewis) g) Elusen Edward Thomas (4 cynrychiolydd: Y Cynghorwyr A Fox, E George, R Lewis a S Pickering) h) Y Gynghrair (3 chynrychiolydd: Y Cynghorwyr J Brencher, G Jones a G Thomas) i) Pwyllgor Cyswllt Safle'r Twr (3 chynrychiolydd: Y Cynghorwyr H Boggis, G Thomas a K Morgan) j) Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd J Harries) k) Fforwm Economaidd De Cymru (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd R Bevan) l) Ymddiriedolaeth Judges Hall (3 chynrychiolydd: Y Cynghorwyr G Hughes, W Lewis a J Rosser) m) Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd R Lewis) n) Cymdeithas Rhandiroedd (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd S Bradwick) o) Tribiwnlys Prisio Cymru - Panel Penodi (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd M Webber) p) Age Concern Cymru (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd G Hopkins) q) Pwyllgor Bowls Dan Do Cwm Cynon (1 cynrychiolydd: Y Cynghorydd Andrew Morgan) r) Trivalis (Penodiad Swyddog: Ms C Hutcheon)
Cydbwyllgorau Anweithredol s) Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (x4: Y Cynghorwyr S Bradwick, S Morgans, A Roberts, a G Holmes) t) Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (x1: Y Cynghorydd G Thomas) u) Panel Trosedd Heddlu De Cymru (x2: Y Cynghorwyr R Lewis a G Thomas) v) Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf (x3: Y Cynghorwyr G Caple, G Jones a J Williams)
(Nodyn: Ymataliodd y Gr?p Ceidwadol rhag pleidleisio ar eitem q Pwyllgor Bowls Dan Do Cwm Cynon)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CALENDR O GYFARFODYDD AR GYFER 2021-2022 PDF 145 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â'r calendr o gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021-2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Drwy ei adroddiad, gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, am gymeradwyo'r Calendr Cyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22, sydd i'w weld fel Atodiad. Yn unol ag Adran 6 (2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru), 2011, cynhaliwyd yr arolwg o Aelodau yn ddiweddar i asesu dewisiadau Aelodau o ran amser cyfarfodydd yn y dyfodol, ac roedd nifer o faterion anstatudol pwysig eraill hefyd wedi'u cynnwys yn yr arolwg y mae'r Aelodau wedi cyfrannu eu barn ato.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at yr elfen o hyblygrwydd o fewn calendr y cyfarfodydd i ganiatáu i Gadeiryddion ymateb i faterion sydd ar ddod yn ystod y flwyddyn, fel cyfleoedd hyfforddi a datblygu, gan gyfeirio'n benodol at y Pwyllgorau Craffu. Dywedodd fod y dulliau o gynnal cyfarfodydd hybrid yn y dyfodol wedi'u nodi, a bod modd i'r Aelodau eu gweld yn adran 8 yr adroddiad.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad; ac wrth wneud hynny, nodi'r ymatebion i'r Arolwg Aelodau Etholedig mewn perthynas ag Amser y Cyfarfodydd, fel yr amlinellir ym mharagraff 4.
2. Ac eithrio'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, fydd cyfarfodydd ddim yn digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol, oni bai bod yna fater brys;
3. Cytuno ar y Calendr Cyfarfodydd arfaethedig ar gyfer y Blwyddyn y Cyngor 2021-22, fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.
4. Nodi bod y calendr yn destun newid, yn seiliedig ar ofynion busnes dros flwyddyn nesaf y Cyngor. Caiff unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau eu gwneud ar y cyd â chadeiryddion y pwyllgorau priodol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020-2021: TROSOLWG A CHRAFFU PDF 353 KB Derbyn Adroddiad Blynyddol 2020 - 2021: Trosolwg a Chraffu - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Adams.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Adams (Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu) a gyflwynodd yr adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021.
Yn dilyn trafodaeth, a diolch yn gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant i'w pwyllgorau, gan gynnwys yr Aelodau Cyfetholedig Addysg, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.
|