Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Y Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Cyswllt: Julia Nicholls - Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau a'r Swyddogion i gyfarfod hybrid y Cyngor yn Llys Cadwyn, Pontypridd.
|
|||
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Eitem 4 ar yr agenda – Cwestiynau'r Aelodau
Y Cynghorydd K Johnson - “Rydw i'n cael fy ngyflogi gan gwmni Trafnidiaeth Cymru”
|
|||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
ØRoedd y Cynghorydd M Powell yn dymuno llongyfarch mudiad Pontypridd Men's Shed am ennill gwobr ‘Shed Partnership of the Year 2024’ gan gymdeithas UK Men’s Sheds (UKMSA). Roedd hyn yn rhan o’r seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion (19 Tachwedd). Mae'r gwobrau 'Shed Awards' yn dathlu'r mudiad Siediau trwy gydnabod y Siediau a'r unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol.Talodd y Cynghorydd Powell deyrnged i'r gr?p cymorth i ddynion am ddarparu gwasanaeth mor werthfawr.
Ø Roedd y Cynghorydd K Morgan yn dymuno llongyfarchMrs Heidi Bryant Miles o Ysgol Gyfun Rhydywaun ar ennill Gwobr Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) Ysbrydoledig am ei gwaith caled hi a'i charfan, a'u hymroddiad wrth gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
ØRoedd y Cynghorydd G Hughes yn dymuno llongyfarch mam a mab, Helen a Mason Harris o Donypandy, ar eu llwyddiant yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cic-focsio WKU yn ddiweddar. Enillodd Helen fedal aur, medal arian a dwy fedal efydd ac mae hi bellach yn Bencampwr Prydain a’r Byd yn ei chategori oedran. Cafodd Mason lwyddiant mawr yn ymladd yn y categori oedolion am y tro cyntaf ac enillodd fedal aur, medal arian a medal efydd. Mae'n dal teitlau Pencampwr Cymru, Pencampwr Prydeinig a Chenedlaethol a Phencampwr y Byd ddwywaith. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes am lythyr gan y Maer i'w llongyfarch ar eu llwyddiannau eithriadol.
ØRoedd y Cynghorydd Sheryl Evans yn dymuno cydnabod ymdrechion codi arian enfawr Stephanie Howell, Rheolwr Fferyllfa Avicenna yn Aberaman. Mae hi wedi ymdrechu i godi arian ar gyfer nifer o elusennau yn ei chymuned drwy gydol y flwyddyn, ac yn ddiweddar bu'n casglu eitemau ar gyfer y cynllun Winter Warmer i’r henoed, yn casglu blancedi a bwyd ar gyfer Hope Rescue, ac yn codi arian ar gyfer Clefyd Alzheimer a mudiad Cymorth i Fenywod lleol. Gofynnodd y Cynghorydd Evans a fyddai'r Maer yn ddigon caredig i wahodd Stephanie i Barlwr y Maer er mwyn cydnabod ei gwaith codi arian.
ØCyflwynodd y Cynghorydd C Lisles ddeiseb yn cynnwys 4,000 o lofnodion, ar ran pawb a’i llofnododd, er mwyn dangos cefnogaeth i Gartref Gofal Cae Glas yn y Ddraenen Wen. Nododd y Cynghorydd Lisles fod Cae Glas yn gartref lleol sy'n hygyrch i'r gymuned. Derbyniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, y ddeiseb.
|
|||
Cwestiynau gan yr Aelodau Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol V. Dunn i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, M. A. Norris:
“A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet amlinellu beth mae’r Cyngor yn ei wneud i fynd i’r afael ag adeiladau gwag yng nghanol tref Aberdâr, gyda rhai wedi bod yn dadfeilio ers nifer o flynyddoedd?” Ymateb gan y Cynghorydd M Norris: Dywedodd y Cynghorydd Norris ei fod yn deall bod hyn yn fater y mae’r Cynghorydd Dunn a’r Cynghorydd Bradwick wedi bod yn mynd ati'n rhagweithiol i'w godi, felly roedd am roi sicrwydd i’r ddau Gynghorydd ynghylch sut mae gwella, ailddatblygu a rhoi bywyd newydd i adeiladau gwag, segur ac adfeiliedig yng nghanol tref Aberdâr yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Ychwanegodd y Cynghorydd Norris fod hon wedi’i nodi yn thema flaenoriaeth ar gyfer gweithredu Strategaeth Canol Tref Aberdâr, a fabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2023. Mae rhoi'r Strategaeth yma ar waith yn helpu'r Cyngor i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar gyfer gwneud gwelliannau. Er mwyn cyflawni’r gwelliant yma, mae swyddogion Adfywio yn gweithio gyda pherchnogion eiddo, busnesau a datblygwyr, gan eu helpu a rhoi cyngor ar sut i gyflwyno prosiectau ar gyfer eiddo masnachol yn ogystal ag eiddo preswyl, os yw hynny'n briodol. Yn ogystal â hynny, cyfeiriodd y Cynghorydd Norris at yr ystod o grantiau a benthyciadau sydd ar gael i ategu buddsoddiadau perchnogion a helpu i gyflymu'r gwaith. Ychwanegodd fod y Cyngor yn gweithio gyda'r Garfan Orfodi mewn achosion lle mae'n profi'n anodd ymgysylltu â pherchnogion neu lle mae eiddo'n dirywio, gan gymryd camau ffurfiol i sicrhau bod adeiladau mewn cyflwr mor ddiogel â phosibl cyn i'r gwelliannau ddechrau. Roedd y Cynghorydd Norris yn falch o gadarnhau bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da yn Aberdâr a bydd yn parhau i weithio gyda pherchnogion i wella ac ailddatblygu eiddo yn y dref. Dywedodd y Cynghorydd Norris fod 25 eiddo wedi elwa ar grantiau’r Cyngor ers mis Ebrill 2023, ac mae mwy na £2.5 miliwn wedi’i ymrwymo i brosiectau hyd yma. Cadarnhaodd fod yr adeiladau nodedig sydd wedi cael cefnogaeth yn ddiweddar yn cynnwys gwaith ailddatblygu hen westy'r Black Lion, sydd bellach wedi'i gwblhau, a'r cynllun i ailddatblygu Adeiladau Rock Grounds i greu gwesty a sba o safon uchel.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Treeby i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B. Harris:
“A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet wneud datganiad ynghylch pa gymorth y mae’r Cyngor wedi’i roi i grwpiau Pwll Padlo yn Rhondda Cynon Taf?” Ymateb y Cynghorydd B Harris: Dywedodd y Cynghorydd Harris ei fod ef a'r grwpiau Pwll Padlo wedi cwrdd yn aml â swyddogion o'r garfan Hamdden, Eiddo'r Cyngor a Datblygu'r Gymuned. Nododd fod y cyfarfodydd yn gynhyrchiol ac yn galonogol iawn, ac y darparwyd cefnogaeth barhaus cyn ac ar ôl y tymor agor. Ychwanegodd y Cynghorydd Harris fod trefniadau newydd ar gyfer 2024 yn golygu bod 4 ... view the full Cofnodion text for item 56. |
|||
Rhaglen Waith y Cyngor 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ddiweddariad mewn perthynas â rhaglen waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2024/25. Yn dilyn gohirio'r eitem yn ymwneud â chroesawu Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r cyfarfod, nododd fod gwahoddiad wedi'i estyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddod i gyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr. Cynhelir Cyfarfod Arbennig am 4pm. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr eitem wedi'i gohirio oherwydd bod angen i'r Aelodau drafod asesiad o effaith y stormydd diweddar.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, hefyd y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dod i gyfarfod y Cyngor ar 2 Ebrill 2025, a hynny er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Cyngor ar gyfer y flwyddyn galendr yma.
|
|||
ADRODDIAD CANOL BLWYDDYN CYLCH RHEOLI’R TRYSORLYS 2024-25 Rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am weithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn ystod 6 mis cyntaf 2024-2025, yn ogystal â Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys ar gyfer yr un cyfnod.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||
DEDDF GAMBLO 2005 - DATGANIAD O EGWYDDOR (POLISI LLEOL) 2025 - 2028 Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â'r gofynion statudol, cyflwynodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned. Mae hwn yn cyflwyno Datganiad o Egwyddor diwygiedig i'r Aelodau, o dan ddarpariaethau Deddf Gamblo 2005 (h.y. y datganiad polisi lleol ar gyfer rheoli gweithgareddau gamblo o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf), ar gyfer 2025-2028.
Dywedodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio fod Deddf Gamblo 2005 yn mynnu bod awdurdod Trwyddedu yn adolygu'r Datganiad o Egwyddor o ran Gamblo bob tair blynedd, ac yna'n cyhoeddi'r datganiad. Yn amodol ar gymeradwyaeth rhaid i’r datganiad o egwyddor arfaethedig gael ei gyhoeddi erbyn 2 Ionawr 2025, i ddod i rym erbyn 31 Ionawr 2025. Nododd mai'r Datganiad o Egwyddor Fframwaith Polisi sy'n gosod disgwyliadau'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â materion sy'n berthnasol i Ddeddf Gamblo 2005 yw'r Datganiad o Egwyddor. Nododd y Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio fod y diwydiant gamblo yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei reoleiddio'n dda iawn, a'i fod, yn ei hanfod, yn sefydlog, gydag ychydig iawn o newid yn y sefyllfa fasnachu o fis i fis. Ar ôl trafod y diwygiadau cyfyngedig iawn i’r ddeddfwriaeth yn ystod y tair blynedd diwethaf, roedd yr Aelodau o'r farn bod y Datganiad o Egwyddor 2022-2025 presennol yn parhau i fod yn addas at y diben.
Dywedodd y Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio fod yr Awdurdod Trwyddedu yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Gamblo o ran cwynion ac arfer gorau. Mae'n cael ei adolygu i ystyried newid deddfwriaethol ac arfer gorau. Nid yw newidiadau o'r fath yn effeithio ar sefyllfa'r Awdurdod Trwyddedu o ran sut mae'n rheoleiddio gweithgarwch gamblo er budd y cyhoedd yn Rhondda Cynon Taf.
Cyfeiriodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio at gopi o Ddeddf Gamblo 2005 sydd ynghlwm fel Atodiad 1 er gwybodaeth.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Trafod Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddor newydd (Polisi Lleol) 2025-28.
2. Cymeradwyo Trafod Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddor newydd (Polisi Lleol) 2025-28 fel y nodir yn atodiad 1 yn unol â gofynion statudol.
|
|||
DEDDF TRWYDDEDU 2003 - DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU 2025-2030 Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio mai pwrpas adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yw ceisio cymeradwyaeth i Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Gyda'r Hwyr) am y cyfnod 2025-2030.
Cyfeiriodd y Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio at adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (fel y'i diwygiwyd), sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob Awdurdod Trwyddedu gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu i amlinellu sut y bydd yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedau ar gyfer gwerthu alcohol, darparu adloniant a darparu lluniaeth gyda'r hwyr. Nododd fod rhaid adnewyddu'r Datganiad Polisi Trwyddedu bob 5 mlynedd.
Cadarnhawyd bod y polisi drafft ynghlwm wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu ar 10 Medi 2024 i’w ystyried ac argymhellwyd bod y Pwyllgor yn derbyn y fersiwn drafft ac yn cytuno i’r diwygiadau a wnaed yn dilyn ymgynghoriad. Bu'r Aelodau'n craffu'n briodol cyn derbyn y cynigion i'w hystyried gan y Cyngor.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Gyda'r Hwyr) 2025-2030 fel y nodir yn atodiad 1.
|
|||
ADOLYGIAD O'R PROTOCOL CYSWLLT RHWNG AELODAU A SWYDDOGION Y CYNGOR Trafod adroddiadau'r Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad, a oedd yn gofyn i'r Aelodau drafod mabwysiadu Protocol Cyswllt Rhwng Aelodau a Swyddogion diwygiedig, sydd ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad. Mae hyn yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgor Safonau o'r protocol presennol.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at Atodiad 1 yr adroddiad, sy'n amlinellu’r newidiadau a wnaed i’r fersiwn flaenorol o’r protocol. Cafodd y rhain eu hystyried gan y Pwyllgor Safonau yn ei gyfarfod ar 18 Tachwedd. Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 2 yr adroddiad sy'n cynnwys y protocol diwygiedig. Yn amodol ar gytundeb y Cyngor ac unrhyw ddiwygiadau a gynigir ac a gytunwyd, bydd hwn yn cael ei fabwysiadu o 28 Tachwedd 2024. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr, yn amodol ar hyn yr argymhellir hefyd, fod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.
Ar ôl trafod yr adroddiad PENDERFYNWYD cytuno i fabwysiadu’r Protocol Cyswllt Rhwng Aelodau a Swyddogion diwygiedig, yn amodol ar gynnwys y diwygiadau y cytunwyd arnyn nhw (mewn coch yn yr argymhellion) ac fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd K Morgan ac yr eiliwyd gan y Cynghorydd Sera Evans:
1.Nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi cwblhau adolygiad o Brotocol Cyswllt Rhwng Aelodau a Swyddogion y Cyngor, a oedd yn cynnwys ymgynghori â'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac Uwch Reolwyr y Cyngor;
2.Nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi argymell bod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu'r Protocol Cyswllt Rhwng Aelodau a Swyddogion diwygiedig, fel sydd wedi'i atodi yn Atodiad 2 yr adroddiad;
3. Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r Protocol Cyswllt Rhwng Aelodau a Swyddogion diwygiedig, fel sydd wedi'i atodi yn Atodiad 2 i'r adroddiad, o 28 Tachwedd 2024 (yn amodol ar yr ychwanegiadau/diwygiadau a ganlyn: · Tudalen 150, paragraff 2.2 “gwahaniaethau personol a/neu wleidyddol” · Tudalen 158, paragraff 12.1 Os bydd y toriad yn ddigon difrifol; a · Tudalen 158, paragraff 10.2 “Yn achos wardiau aml-aelod, gwahoddir yr holl Aelodau, os yn briodol”
4. Yn amodol ar 2.3 uchod, bod y Cyngor yn cytuno i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor drwy fewnosod y Protocol Cyswllt Rhwng Aelodau a Swyddogion diwygiedig.
|
|||
Adroddiad Newid Aelodaeth Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: To receive the report of the Service Director Democratic Services & Communication
Cofnodion: Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wrth yr Aelodau am y newid i gynrychiolaeth y Gr?p Ceidwadol ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn am weddill Blwyddyn y Cyngor 2024/25.
Cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn hysbysiad a dderbyniwyd gan y Gr?p Ceidwadol, fod y Cyngor yn nodi enwebiad Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Trask ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Trask yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Johnson ar Bwyllgor y Gronfa Bensiwn.
Yn dilyn ystyried y newidiadau o ran aelodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Nodi bod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson i'w enwebu yn lle'r Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S. Trask ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd; a
2. Nodi bod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Trask yn cael ei enwebu yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson ar Bwyllgor y Gronfa Bensiwn;
|
|||
Aelodaeth Corff Allanol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trwy ei adroddiad, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad i geisio cytundeb y Cyngor i enwebu Mr Derek James, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, yn gynrychiolydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Fwrdd Cyfarwyddwyr CCR Energy.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod CCR Energy wedi sefydlu Bwrdd Cyfarwyddwyr sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol ac arbenigwyr o'r diwydiant er mwyn darparu goruchwyliaeth ac arweinyddiaeth strategol. Ychwanegodd y cynigir bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn enwebu Mr Derek James, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, yn gynrychiolydd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr CCR Energy. Mae gan Mr Derek James yr arbenigedd a'r gallu strategol angenrheidiol i gyfrannu'n effeithiol at amcanion uchelgeisiol y cwmni.
Daeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth i'r casgliad bod y Prif Weithredwr yn argymell bod yr Aelodau'n ystyried penodi Mr Derek James, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, i'r Bwrdd.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo enwebiad Mr Derek James, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, yn gynrychiolydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Fwrdd Cyfarwyddwyr CCR Energy.
|
|||
Trafod y Rhybuddion o Gynnig sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 yn y cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafod y Rhybudd o Gynnig isod a gyflwynwyd yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 ac a dderbyniwyd gan y Swyddog Priodol. Mae wedi'i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol:
A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, S. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, G. W. Hughes, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo. Ataliad Sydyn y Galon yw un o brif achosion marwolaeth yn y Deyrnas Unedig, gyda thua 1 o bob 20 o bobl wedi goroesi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae sefydliad y British Heart Foundation yn amcangyfrif bod tua 2,800 achos o ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru. Mae pob munud heb adfywio cardio-pwlmonaidd a diffibrilio yn lleihau’r siawns o oroesi hyd at 10%, gyda diffibrilio cynnar yn dyblu'r siawns o oroesi a rhagor. Diolch i waith y sefydliadau lleol niferus sy’n darparu cymorth hanfodol i’n trigolion yn eu cymunedau, a gefnogir yn aml gan ein Haelodau Etholedig, mae argaeledd diffibrilwyr cyhoeddus wedi cynyddu’n sylweddol. Bydd gan ddiffibrilwyr mewn ysgolion y potensial i achub bywydau disgyblion, staff ac ymwelwyr â’n hadeiladau ysgol, ac mae’r ymchwil wedi dangos y gall cael gafael ar ddiffibriliwr o fewn 3 i 5 munud i ataliad y galon gynyddu’r siawns y bydd yr unigolyn yn goroesi ar ôl gadael yr ysbyty o 9% i 50%. Mae ein hysgolion yn dod yn fwy o ganolbwynt i’r gymuned, gyda grwpiau a chlybiau chwaraeon yn manteisio ar eu cyfleusterau, a chyda llawer o’r ysgolion mwy newydd yn cynnig ystafelloedd at ddefnydd cymunedol. Mae cyfran sylweddol o’n cymunedau yn eu defnyddio o ddydd i ddydd. Mae'r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu: ·Gofyn i Swyddogion ystyried pa mor ymarferol fyddai gosod diffibriliwr achub bywyd ym mhob ysgol yn Rhondda Cynon Taf a sut y gellir sicrhau'r argaeledd gorau posibl ar gyfer y cyhoedd; ·Gofyn am adroddiad ar ystyriaeth Swyddogion, a fydd yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Craffu perthnasol er mwyn llywio penderfyniad posibl gan y Cabinet.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
*******************************************************************************************
Trafod y Rhybudd o Gynnig isod a gyflwynwyd yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 ac a dderbyniwyd gan y Swyddog Priodol. Mae wedi'i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol:
J. Edwards, B. Harris, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. ... view the full Cofnodion text for item 64. |